Uncategorized

Cystadleuaeth Sêr y Gofod

Mae’n bleser gan Brifysgol Caerdydd, yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth gynnal Cyfarfod Seryddiaeth Cenedlaethol 2023 (NAM23) ym mis Gorffennaf 2023.
I ddathlu’r digwyddiad, rydym yn eich gwahodd i rannu eich cariad at bopeth ynghylch y gofod mewn un o ddwy ffordd yn ein cystadlaethau cyffrous.
Gwobr 1af = £50 o Nwyddau Gofod 2 il Wobr = £30 o Nwyddau Gofod
3edd Wobr = £20 o Nwyddau Gofod
Bydd enillwyr yn cael eu gwahodd i ddathliad yn NAM ar 6 Gorffennaf 2023

CELF (4-14 oed)
Cynhyrchu darn o gelf sy’n mynegi elfen o’r gofod neu eich dychymyg ohono. Gallai hyn fod ar ffurf llun, paentiad, model (gan gynnwys modelau digidol) neu strwythur, a dylid cynnwys disgrifiad byr (100 gair ar y mwyaf).
Categorïau’r wobr: Cyfnod Allweddol, CA2, CA3

Llythrennedd (7-14 oed)
Cynhyrchu darn o lenyddiaeth sy’n mynegi elfen o ofod neu eich dychymyg ohono. Gallai hyn fod ar ffurf cerdd, stori, cân neu ddarn ysgrifenedig byr, ond mae angen iddo ffitio ar un dudalen. Gall cyflwyniadau fod yn Gymraeg neu Saesneg.
Categorïau’r wobr: CA2, CA3

I gyflwyno ceisiadau, gofynnwn i ysgolion ddewis a chyflwyno dim mwy na 6 chais yn fewnol i bob ysgol ar draws pob categori. Ebostiwch gyflwyniadau (neu luniau ohonynt) at Chemaine Barrett (barrettc10@caerdydd.ac.uk) erbyn 31 Mawrth 2023. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi enw’r ysgol ac enwau ac oedrannau ynghlwm wrth bob cais a gyflwynir. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi a chysylltir â nhw drwy ebost erbyn 28 Ebrill 2023.

I ddarganfod mwy am Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn NAM23 ewch i: https://nam2023.org/public-engagement