Skip to main content
Peter Rawlinson

Peter Rawlinson


Postiadau blog diweddaraf

Yn galw ar yr holl fyfyrwyr sy’n entrepreneuriaid eiddgar!

Yn galw ar yr holl fyfyrwyr sy’n entrepreneuriaid eiddgar!

Postiwyd ar 11 Hydref 2021 gan Peter Rawlinson

Mae tymor newydd y Brifysgol ar fin cychwyn. Wrth i’r glasfyfyrwyr a’r myfyrwyr profiadol ddychwelyd, dyma gyfle i feddwl am fywyd ar ôl y brifysgol. Yma, mae Claire Parry-Witchell, y […]

Gwneud y mwyaf o ddata yn cynnig manteision busnes

Gwneud y mwyaf o ddata yn cynnig manteision busnes

Postiwyd ar 4 Hydref 2021 gan Peter Rawlinson

Prifysgol Caerdydd yn helpu Virtus Tech i wella eu galluoedd data a sicrhau mwy o fuddion i gleientiaid. Mae'r cwmni, sydd wedi'i leoli ym man cydweithio Tramshed Tech Caerdydd, yn […]

SETsquared a Chaerdydd i feithrin llwyddiant

SETsquared a Chaerdydd i feithrin llwyddiant

Postiwyd ar 27 Medi 2021 gan Peter Rawlinson

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymuno â SETsquared – deorydd busnesau prifysgol gorau'r byd Bydd y cydweithrediad yn helpu i droi ymchwil, cwmnïau deillio a busnesau newydd yn fusnesau ffyniannus. Yma, […]

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) – partneriaethau er ffyniant

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) – partneriaethau er ffyniant

Postiwyd ar 20 Medi 2021 gan Peter Rawlinson

Nawr yw'r adeg berffaith i gwmnïau o Gymru gymryd rhan mewn Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP). Yn sgîl COVID-19, aeth Llywodraeth Cymru ati i gefnogi sefydliadau i wella drwy godi eu […]

Blas ar milk&sugar

Blas ar milk&sugar

Postiwyd ar 9 Medi 2021 gan Peter Rawlinson

Bydd grŵp cafés annibynnol milk&sugar yn darparu lletygarwch yn adeilad blaenllaw newydd sbarc | spark Caerdydd, ac yn ddi os bydd syniadau gwych yn cal eu tanio yno. Yma, mae […]

Dirgryniadau da i’r TRH

Dirgryniadau da i’r TRH

Postiwyd ar 23 Awst 2021 gan Peter Rawlinson

'Yn nhermau gwyddonol, mae'n anodd gorbwysleisio pwysigrwydd yr arwyneb,' ysgrifenna'r Athro Philip Davies.   'Ni allai'r diwydiant lled-ddargludyddion, er enghraifft, fodoli heb wybodaeth a rheolaeth goeth o'r arwyneb. Mae'r diwydiant cemegion, […]

Ystafell lân newydd ar gyfer technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd

Ystafell lân newydd ar gyfer technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd

Postiwyd ar 9 Awst 2021 gan Peter Rawlinson

Mae gwyddonwyr a fydd yn gweithio yn ystafell lân fodern Prifysgol Caerdydd ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd wedi ymweld â'u darpar gartref.   Aeth ymchwilwyr o'r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ar daith o amgylch y cyfleuster, a fydd yn cynnig peiriant cynhyrchu wafferi 8 modfedd i ymdopi â'r galw cynyddol am ddyfeisiau lled-ddargludyddion cyfansawdd.  Mae'r ystafell lân yn cael ei darparu gan Ardmac – prif ddarparwr ystafelloedd glân llawn technoleg – ac yn rhan allweddol o Gampws Arloesedd newydd Prifysgol Caerdydd sy'n cyfuno ymchwil arloesol, trosglwyddo technoleg, datblygu busnes a mentrau myfyrwyr.  Mae'r Sefydliad wedi sicrhau cyllid sylweddol ar gyfer ei adeilad a'i gyfarpar newydd, gan gynnwys buddsoddiad o fwy na £30 miliwn yn allanol. Yn ogystal â’r ystafell lan, sy’n 1,500 metr sgwâr, bydd ystafell nodweddu bwrpasol a mannau ôl-brosesu’n galluogi'r Sefydliad i brosesu wafferi hyd at 8 modfedd mewn diamedr ac ehangu ei ystod o wasanaethau sy’n cyrraedd safon y diwydiant.  Wrth ymateb i'r daith o amgylch y safle, dywedodd Chris Matthews, Rheolwr Prosiect Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru): “Dechreuais weithio ar y cynlluniau busnes ddiwedd 2015/dechrau 2016. Felly, mae mynd o weld hyn i gyd ar y bwrdd darlunio i’w gweld yn yr adeilad ei hun yn daith anhygoel mewn gwirionedd. O gymharu hyn â’n cartref presennol yn Adeiladau’r Frenhines, bydd gennym le i ehangu a gwneud pethau mwy a gwell.”   Bydd y Sefydliad ei hun wedi'i leoli mewn Canolfan Ymchwil Drosiadol bwrpasol wrth ymyl yr ystafell lân. Mae'r Ganolfan Ymchwil Drosiadol yn cynnig swyddfeydd newydd, mannau gweithio rhyngweithiol, labordai a lle ar gyfer gweithio mewn grwpiau bach. Cynlluniwyd iddi ddod ag ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn agosach at ei gilydd a chreu amgylchedd gwaith sy'n denu ac yn cadw ymchwilwyr talentog.  Bydd y Sefydliad yn rhannu'r Campws Arloesedd ar Heol Maendy â Sefydliad Catalysis Caerdydd, Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (sbarc) ac Arloesedd Caerdydd@sbarc, sylfaen greadigol ar gyfer busnesau newydd a chwmnïau deillio.   Bydd gan y Sefydliad fynediad at gyfleusterau a fydd yn cael eu rhannu â’i gymdogion, gan gynnwys awditoriwm o fath TEDx a labordy cynhyrchu i dreialu technolegau gweithgynhyrchu newydd.  Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn sglodion electronig cyflym. A hwythau’n cynnwys elfennau ar bob ochr i'r rhai yng ngrŵp IV o'r tabl cyfnodol (e.e. grwpiau III a V), maent 100 gwaith yn gyflymach na silicon, ac mae ganddynt y gallu i allyrru a synhwyro golau, yr holl ffordd o ran isgoch y sbectrwm, drwy'r rhan weladwy ac i mewn i’r rhan uwchfioled.  Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd eisoes wedi ategu silicon mewn meysydd fel cyfathrebu diwifr, lle mae sglodion a wnaed o gyfuniadau fel galiwm ac arsenig (galiwm arsenid neu GaAs) i'w cael ym mron pob ffôn clyfar, sy’n galluogi cyfathrebu diwifr cyflym iawn ac effeithlon iawn dros rwydweithiau cellog a WiFi.  https://www.youtube.com/watch?v=vnmHmPFkLGI

Tyfu arloesedd cymdeithasol

Tyfu arloesedd cymdeithasol

Postiwyd ar 2 Awst 2021 gan Peter Rawlinson

Mae partneriaeth tair ffordd i dyfu mintys yn fasnachol ar sail nid-er-elw wedi dod â buddion i Uganda wledig. Ffurfiwyd y Model Menter Gymunedol ar gyfer Cynhyrchu Olew Planhigion (CEMPOP) […]

Ymagwedd lân at ddiheintio dŵr

Ymagwedd lân at ddiheintio dŵr

Postiwyd ar 26 Gorffennaf 2021 gan Peter Rawlinson

Heb os, bydd rhai o heriau mwyaf y ganrif hon yn ymwneud â darpariaeth ddigonol o ddŵr glân. Amcangyfrifir y bydd 5.7 biliwn o bobl yn byw dan fygythiad prinder […]

Pam mynd yn ôl i’r swyddfa?

Pam mynd yn ôl i’r swyddfa?

Postiwyd ar 19 Gorffennaf 2021 gan Peter Rawlinson

Heb os, mae pandemig y coronafeirws wedi ysgogi un o'r trawsnewidiadau cyflymaf ym mywydau gwaith llawer o bobl ers degawdau. Mae data'r DU yn awgrymu, tra bod 5% o weithwyr […]