Skip to main content

Adeiladau'r campwsArloesi CaerdyddPoblSefydliadau Arloesedd ac Ymchwil y Brifysgol

Adnabod eich corff: Ffitrwydd y genhedlaeth nesaf

19 Rhagfyr 2023

Mae eich corff yn gweithio ac yn perfformio’n wahanol ar adegau gwahanol o’r dydd, yn seiliedig ar gyfuniad unigryw o’ch geneteg a’ch amgylchedd. O ran ffitrwydd, mae amser gorau i chi hyfforddi, pan fydd eich corff ar ei anterth® metabolig, ond sut ydych chi’n gwybod pan fyddwch chi ar eich gorau? Dyma Genletics – prawf ffitrwydd genetig arloesol sy’n pennu amser y dydd pan fyddwch chi wedi cyrraedd eich brig metabolaidd.

Eich rhythm circadaidd yw eich cloc biolegol, a hwn sy’n pennu pryd rydych chi’n llawn egni a phryd y dylech chi gysgu. Mae Genletics, sydd â thîm o arbenigwyr ym maes gwyddoniaeth fiofeddygol a geneteg, yn rhoi’r dechnoleg a’r arbenigedd i fesur moleciwlau ein rhythm circadaidd. Gan ddefnyddio dadansoddi a thechnoleg wyddonol arloesol, mae Genletics yn defnyddio grym geneteg i roi’r fantais gystadleuol ffisiolegol a meddyliol i chi.

Genletics oedd y busnes cyntaf i ddefnyddio’r labordai yn Arloesi Caerdydd, cymuned o arloeswyr sy’n ehangu ac sy’n cynnwys busnesau newydd, cwmnïau deillio a phartneriaid diwydiant y Brifysgol yn adeilad sbarc|spark y Brifysgol.

Mae sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol y cwmni, Adam Thomas, yn enetegydd sydd â doethuriaeth ym maes mecanweithiau mwtanu DNA a diddordeb angerddol mewn chwaraeon.

Yn y blog hwn, buom yn siarad ag Adam, i ddarganfod mwy am Genletics, a’r buddion y mae’r cwmni wedi’u hennill, ers lleoli i sbarc|spark.

Ble dechreuodd y cyfan?

“Mae gen i gefndir ym maes geneteg ddynol a diddordeb mewn chwaraeon a chadw’n heini, ac arweiniodd hyn at ofyn y cwestiwn pryd y dylwn i ymarfer corff i gael y gorau o bob sesiwn, yn fiolegol yn hytrach nag yn ymarferol.  Arweiniodd fy ymchwil yn gyflym at faes chwaraeon elît a phroffesiynol, a phenderfynais i ei bod yn ‘hollbwysig i athletwyr a hyfforddwyr wybod pryd y dylen nhw ymarfer’ Gan wybod bod geneteg pawb yn wahanol, ac y bydd gan bawn amser gorau gwahanol i ymarfer, gofynnais y cwestiwn “sut rydyn ni’n dod o hyd i’r amser gorau i ymarfer?” Felly, rydyn ni wedi datblygu pecyn prawf sy’n syml i’w ddefnyddio ac y gellir ei wneud gartref yn ogystal â phroses ddadansoddol a all roi’r wybodaeth hon inni.”

Gweithio gydag athletwyr proffesiynol

“Rydym wedi gweithio gyda Gweilch Rugby yn ddiweddar. Mae hwn yn brosiect tymor hir sy’n archwilio sut mae brig metabolaidd pob chwaraewr yn newid trwy gydol y tymor. Gwyddom y bydd patrymau cwsg a deiet yn dylanwadu ar eich uchafbwynt metabolig, a bydd y ddau yn cael eu heffeithio e.e ar ôl gêm gyda’r nos. Dros y tymor nesaf, pan fydd y Gweilch yn chwarae yn hwyr yn y dydd, bydd y chwaraewyr yn cwblhau cit prawf Genletics. Bydd y data hwn yn ein helpu i ddeall sut mae eich corff yn addasu i newidiadau yn amseriad y galw corfforol.”

“Rydyn ni wedi mwynhau nifer o goffi gydag athletwyr anhygoel a hyfforddwyr arloesol yn ddiweddar. Pawb, doedden ni byth yn meddwl y bydden ni’n mwynhau coffi gyda nhw.”

“Dyma’r peth gwych am fod yng Nghymru; Mae rhywun yn adnabod rhywun.”

Sbarduno manteision

“Mae manteision bod yn sbarc|spark wedi bod yn llawer mwy nag yr oeddem wedi’i ddychmygu’n wreiddiol. Mae’r agosatrwydd at gymuned y Brifysgol wedi helpu’r busnes i dyfu. Gan archwilio a datblygu cysylltiadau â’r Brifysgol, rydyn ni’n gweithio’n agos gyda gwyddonwyr data yr Academi Gwyddor Data, datblygwyr meddalwedd Academi Meddalwedd Genedlaethol a Thîm Profiad Gwaith y Brifysgol, ac rydyn ni wedi cael profiadau proffidiol iawn yn sgil croesawu myfyrwyr presennol ar interniaethau i helpu prosesu samplau timau chwaraeon proffesiynol.”

Beth nesaf?

“Mae gennym lawer o brosiectau ymchwil ar y gweill i ddarganfod mwy am ein huchafbwynt metabolig®gan gynnwys un gyda merched Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, sy’n edrych ar effeithiau mislif.”

“Rydym ar hyn o bryd mewn trafodaethau gyda thîm pêl-droed yr uwch gynghrair sydd am ail-fformatio eu rhaglen adfer a phersonoli eu hyfforddiant nerth.”

Darganfyddwch fwy

Nid yw Genletics ar gyfer athletwyr proffesiynol yn unig. Gall unrhyw un sy’n ceisio’r fantais gystadleuol honno ac sydd am wneud y mwyaf o’u heffeithlonrwydd hyfforddi i gael yr enillion gorau posibl ddefnyddio’r prawf.

Archwiliwch Genletics  a darganfod sut i archebu cit neu ddilyn eu Instagram

I gael rhagor o wybodaeth am labordai, swyddfeydd a mannau cydweithio Cardiff Innovations.