Skip to main content

Events

Dathlu ein cymuned

12 June 2024

Rhwng 3 a 7 Mehefin, cafodd Wythnos Dathlu Ôl-raddedigion ei chynnal. Buodd hynny’n gyfle gwych i ddathlu ein cymuned ymchwil ôl-raddedig, eu holl gyflawniadau unigryw, a’r ystod anhygoel o ymchwil y maen nhw’n ei gwneud ledled y brifysgol.

Gwnaeth myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig 300 ac eraill ddod ynghyd gydol yr wythnos, gan fanteisio ar y cyfle i gwrdd â’i gilydd, cymdeithasu mewn ystod o leoliadau anffurfiol, rhannu eu hymchwil, a chlywed gan bobl eraill.

Drwy gydol yr wythnos roedd cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, boed gemau bwrdd neu ddringo cerrig mawr, yn ogystal â’r gyfres o Caffis Gyrfaol. Cafwyd hefyd ddwy gystadleuaeth, sef Delweddau Ymchwil sydd bob amser yn boblogaidd a rownd Caerdydd cystadleuaeth genedlaethol Three Minute Thesis (3MT ®).

Peth gwych oedd gweld cymaint o amrywiaeth yn yr ymchwil a gafodd ei chyflwyno mewn gwahanol ffyrdd – yn weledol ac ar lafar, ac roedd safon y cyflwyniadau’n ardderchog. Mae’r enillwyr i’w gweld isod.

Delweddau Ymchwil

1af wobr: Catherine Sheehan, Ysgol Seicoleg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

2il wobr: Jessica Pritchard, Ysgol Seicoleg

 

 

 

 

 

3edd wobr: Meirion Hills, Ysgol Peirianneg

 

 

 

 

 

 

 

Gwobr Dewis y Bobl: Helena Faustino Vieira, Yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Three Minute Thesis (3MT®)

1af wobr: Georgia Wren, Ysgol Seicoleg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

2il wobr: Catherine Sheehan, Ysgol Seicoleg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

3edd wobr: Chiara Franceschi, Ysgol Seicoleg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwobr Dewis y Bobl: Sofia Hryniv, Ysgol Seicoleg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Bydd yr holl ddelweddau ymchwil a’r darnau Three Minute Thesis (3MT®) a gafodd eu cyflwyno ar gael ar Dysgu Canolog cyn bo hir.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn ystod yr wythnos, p’un a wnaethoch gyflwyno eich ymchwil neu gymryd rhan mewn gweithgaredd. Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r wythnos llawn cymaint â ni a’i gweld yn ddefnyddiol. Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu ein cymuned anhygoel hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol.