Skip to main content

Diwydiannau creadigol

Ydy diwydiant teledu y DU yn wynebu argyfwng o ran sgiliau a hyfforddiant?

7 Awst 2019
James yn gwneud ei gyflwyniad ar sgiliau a hyfforddiant yn niwydiant teledu’r DU yng Nghynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig Cymru, sy’n cael ei chynnal am y tro cyntaf.

Yn ein blog diweddaraf, James Davies sy’n amlinellu’r heriau o ran gweithwyr a sgiliau sy’n wynebu diwydiant teledu y DU. Mae ei gyhoeddiad yn seiliedig ar ei gyflwyniad arobryn a roddodd yng Nghynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig Cymru ym mis Mehefin 2019, sef y tro cyntaf i’r gynhadledd gael ei chynnal.

Newid yw’r unig beth cyson

Gellir rhannu’r diwydiant cynhyrchu teledu yn y DU yn ddau brif ‘gyfnod’ eang. Yn y cyfnod cyntaf, a gafodd le blaenllaw tan yr 1980au, roedd y diwydiant teledu yn y DU yn system fiwrocrataidd draddodiadol wedi’i hintegreiddio’n fertigol. Roedd yn seiliedig ar ddarlledwr pwysig a oedd yn cael ei ariannu’n gyhoeddus, sef y BBC, a rhannau sector cyhoeddus ITV a oedd yn cael eu rheoleiddio’n drwm a’u hariannu gan refeniw hysbysebion (Dex et al. 2000). Roedd swyddi cyflogedig parhaol gyda’r darlledwyr hyn yn norm (Paterson 2001). Gellir dadlau y bu dau gatalydd pwysig o newid sylweddol yn niwydiant teledu y DU: lansiad Channel 4 yn 1982, a Deddf Darlledu 1990.

Roedd Channel 4 yn sianel deledu newydd, a’i chylch gwaith oedd darlledu rhaglenni annibynnol, ond heb eu cynhyrchu nhw ei hun. Arweiniodd at weld y sector cynhyrchu teledu annibynnol yn ehangu ar raddfa aruthrol. Roedd Deddf Darlledu (1990) yn deddfu bod rhaid i 25% o’r holl raglenni teledu bellach gael eu cynhyrchu gan gwmnïau annibynnol.

O ganlyniad i’r newidiadau hyn, cafwyd amgylchedd gwaith newydd a oedd yn dibynnu’n helaeth ar weithlu llawrydd (Hodgson a Briand 2013).

“Cafodd swyddi cyflogedig traddodiadol, gyda sicrwydd swydd tymor hir a phosibiliadau am ddyrchafiad, eu disodli gan economi tymor byr a oedd yn gofyn am fwy a mwy o hyblygrwydd a sgiliau cludadwy.”

Roedd y gallu i newid ffocws bellach yn bwysicach na’r profiad a fyddai wedi cael ei werthfawrogi yn y gorffennol.

Y rhwydwaith wrthgymdeithasol

Gydag amgylchedd gwaith newydd, daeth y broblem o drefnu’r farchnad lafur hon a oedd yn newid. Wrth i dimau gwaith ddod at ei gilydd ar gyfer prosiectau gweddol fyr, cyn torri’n rhydd unwaith eto, daeth rhwydweithiau proffesiynol yn hanfodol bwysig am amrywiol resymau.

I ddechrau, mae rhwydweithiau yn ffordd o gadw timau gyda’i gilydd o brosiect i brosiect, gan greu rhywfaint o sicrwydd swyddi i’r rheini sy’n gallu aros mewn grwpiau o’r fath. Yn ail, mae rhwydweithiau proffesiynol yn cael eu defnyddio i ddysgu am gyfleoedd gwaith, ac i wneud a chynnal cysylltiadau proffesiynol er mwyn cael gwaith parhaus. Fe wnaeth Antcliff et al. (2007) astudio rhwydweithiau o’r fath, a chanfod bod gweithwyr yn y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol yn defnyddio rhwydweithiau i feithrin ymddiriedaeth a chydweithio, ond hefyd i gystadlu. Felly, gallant fod yn ‘agored’ a ‘chaeedig’ eu natur.

Nid yw’n syndod, felly, bod ymatebion a phrofiadau’r rheini sy’n gweithio yn y diwydiannau hynny yn amwys iawn o ran y rhwydweithiau cymdeithasol hyn.  Mae gweithwyr wedi dweud eu bod nhw’n teimlo’n orbryderus ac yn ynysig o ganlyniad i ansicrwydd yn y gwaith, a diffyg sicrwydd hirdymor yn eu gyrfaoedd (Hesmondhalgh a Baker 2009).

Mae problem hefyd o ran y bobl sy’n gallu cael mynediad at y rhwydweithiau proffesiynol hyn. Mae hyn yn broblem gan mai dyma yw’r allwedd ar gyfer cael gwaith, a pharhau i gael gwaith, yn y cyfnod newydd hwn o gynhyrchu ar gyfer y teledu. Roed y rhwydweithiau prosiect caeedig yn cau allan y rheini heb gyfalaf dynol a diwylliannol uchel (Lee 2011).

Mewn geiriau eraill, mae’r bobl rydych chi’n eu hadnabod, eich cefndir personol, yr ysgol y gwnaethoch ei mynychu, i gyd yn dod yn ffactorau pwysig wrth eich gwneud yn ddigon deniadol i rwydwaith proffesiynol dymunol eich caniatáu i fod yn rhan ohono. Nid yw hyn yn cynnig cyfle cyfartal i weithwyr sy’n newydd i’r maes. Mae pobl dosbarth canol yn fwy tebygol o allu ymdopi â chyfnodau estynedig heb lawer o incwm, neu heb ddim incwm hyd yn oed. Maen nhw’n fwy tebygol o rannu normau diwylliannol a phwyntiau cyfeirio â phobl bwysig yn y diwydiant, ac o fod â chysylltiadau teuluol sy’n eu galluogi i gael gwaith drwy sianeli anffurfiol. Mae pobl yn hoff o bobl eraill sy’n eu hatgoffa o’u hunain. Os ydych chi’n cerdded ac yn siarad yn y ffordd gywir, byddwch chi’n ffitio i mewn â’r bobl sydd eisoes yn y rhwydwaith, a byddwch chi’n cael mynediad at y rhwydwaith.

Mae goblygiadau hyn yn destun pryder mawr. Fe wnaeth yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS 2016) gyhoeddi’r ffigurau canlynol am y Diwydiannau Creadigol yn 2015:

  • 60/61% yn wrywaidd.
  • 92/93% yn wyn.
  • 87/88% o NS-SEC 1-4 (pedwar dosbarthiad uchaf  Dosbarthiadau Economaidd-Gymdeithasol Ystadegau Gwladol).
  • 53% yn hunangyflogedig (gweithwyr llawrydd).

Yn ogystal, yn ôl arolwg o 1071 o weithwyr llawrydd yn gweithio yn y maes ffilm a theledu, roedd 75% wedi ymgymryd â chyfnod o ryw fath o brofiad gwaith di-dâl. Amcangyfrifwyd bod arferion o’r fath yn arbed oddeutu £28m o gostau llafur (Strauss 2005).

“O ganlyniad, mae’r diwydiant yn llawn llafur llawrydd, arferion recriwtio anffurfiol sy’n anodd eu diffinio, a dibyniaeth ar swyddi lefel mynediad cyfog isel a di-dâl, sydd wedi’u pwysoli’n uchel yn erbyn y rheini sydd heb y gefnogaeth ariannol berthnasol na’r cefndiroedd cymdeithasol cywir.”

Sgiliau a hyfforddiant yn y dyfodol

Mae tensiwn rhwng cenedlaethau o weithwyr hefyd.  Mae gan weithwyr ifanc a gweithwyr sy’n newydd i’r maes farn llawer mwy ffafriol am lafur di-dâl na gweithwyr hŷn, ac mae’r gweithwyr sydd eisoes wedi’u sefydlu yn y maes yn gweld agweddau’r genhedlaeth newydd yn fygythiad i’w hincwm  (Percival a Hesmondhalgh 2014). Yn draddodiadol, byddai gwybodaeth wedi cael ei throsglwyddo o weithwyr proffesiynol profiadol i weithwyr newydd drwy gyfrwng hyfforddiant yn y swydd. Dyma berthynas mentor/mentorai sy’n llawer anoddach ei chynnal mewn amgylchedd gwaith darniog ac anffurfiol.

Mae newidiadau a datblygiadau technolegol wedi dylanwadu ar natur y sgiliau sydd eu hangen gan weithwyr newydd hefyd. Ar un adeg, roedd angen tîm o weithwyr proffesiynol medrus i weithredu camera darlledu, ond gall unigolion eu gweithredu bellach.  Gall gwaith golygu gael ei wneud ar unwaith nawr, ac ar unrhyw adeg yn ystod y broses gynhyrchu.

Mae hyn oll yn codi’r cwestiwn canlynol: Pa sgiliau sydd eu hangen nawr, a ble byddech chi’n mynd i’w dysgu?

Y broblem ar gyfer dyfodol sgiliau a hyfforddiant yn niwydiant teledu y DU yw natur y sgiliau sydd eu hangen bellach, a’r adnoddau, y mynediad a’r cyfle i’w dysgu sydd gan weithwyr newydd yn y maes. At hynny,  yng nghyd-destun y patrymau recriwtio hyn, mae’n hanfodol deall y goblygiadau ar gyfer datblygu sgiliau, sicrwydd swyddi ac ystyriaethau hirdymor o ran ansawdd cynhyrchu yn y diwydiant.

Efallai eich bod chi’n ceisio dyfalu pam y bu i ni ddechrau drwy ystyried digwyddiadau bron i 30 mlynedd yn ôl. Sut mae newidiadau o’r 1980au/1990au yn berthnasol i’r diwydiant cynhyrchu teledu heddiw? Fe wnaeth y newid i amgylchedd gwaith seiliedig ar brosiectau arwain at gyfran enfawr o weithwyr llawrydd, ond gweithwyr a oedd â’u gwreiddiau yn ddwfn ym miwrocratiaeth traddodiadol y BBC ac ITV. Doedden nhw ddim yn ‘dechrau o’r dechrau’.

Yn 2019, wrth i lawer o’r genhedlaeth honno nesáu at oedran ymddeol, mae’n ymddangos yn amserol ceisio deall effaith newidiadau’r gorffennol ar ddyfodol y diwydiant.

Mae James Davies yn fyfyriwr PhD yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar gysylltiadau cyflogaeth yn y diwydiannau creadigol.

Cyfeiriadau

  • Antcliff, V. et al., 2007. Networks and Social Capital in the UK television industry: The weakness of weak ties. Human Relations 60(2), tt. 371-393.
  • Deddf Darlledu (1990)
  • DCMS, 2016. Creative Industries Mapping Document
  • Dex, S., Willis, J., Paterson, R. and Sheppard, E. 2000. Freelance workers and Contract Uncertainty: The effects of Contractual Changes in the Television Industry, Work, Employment and Society 14(2), tt. 283-305
  • Hesmondhalgh, D. and Baker, S. 2009. ’A very complicated version of freedom’: Conditions and experiences of creative labour in three cultural industries, Poetics 38(1), tt. 4-20.
  • Hodgson, D. and Briand, L. 2013. Controlling the uncontrollable: ‘Agile’ teams and illusions of autonomy in creative work. Work, Employment and Society 27(2), tt. 308-325.
  • Lee, D. 2011. Networks, cultural capital and creative labour in the British independent television industry. Media, Culture and Politics 33(4), tt. 549-565.
  • Paterson, R. 2001. Work histories in television. Media, Culture and Society 23, tt. 495-520
  • Percival, N. and Hesmondhalgh, D. 2014. Unpaid work in the UK television and film industries: Resistance and changing attitudes. European Journal of Communication 29(2), tt. 188-203.
  • Strauss, W. 2005. What life’s like for TV’s freelancers. Ar gael yn: bit.ly/fOZZj2.