Winnie sy’n adlewyrchu ar ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol
11 Gorffennaf 2019Yn y dechreuad, roedd pwmpen…
Heb lawer o rybudd, i mewn â fi i’r Ysgol Busnes wedi gwisgo fel pwmpen! Wel mae angen gwneud argraff, a dyna yn union wnes i. Fe wnes i gynnal fy sesiwn gyntaf yn y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion, yn ystod yr awr ginio, a daeth nifer go lew o fyfyrwyr a staff i fy ngweld i. Roedd hi’n ddiwrnod gwych, ac fe wnes i roi cwtsh i gynifer o bobl, roedd yn rhaid i fi fynd yn ôl i’r swyddfa i bendwmpian!
Ac felly y dechreuodd ymweliadau Winnie bob dydd Mercher…
Roeddwn i’n mynd i’r Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion bob dydd Mercher, ac yn cael cwrdd â llawer iawn o bobl, i sôn wrthyn nhw am fy ngwaith fel Gwirfoddolwr Ci Anwes fel Therapi. Rydw i wedi cael fy ngwahodd i gyfarfod â’n myfyrwyr MBA, wedi bod i sgyrsiau ymsefydlu, wedi cyfarfod â darpar fyfyrwyr ar Ddiwrnodau i Ddeiliaid Cynigion, ac rydw i hefyd wedi mwynhau ymweld ag ysgol gynradd am y pnawn. Yn fwy diweddar, rydw i wedi bod yn cyfarfod â myfyrwyr yn Llyfrgell Aberconwy yn ystod y cyfnod adolygu ac arholiadau.
Cyffro wrth achub bywyd yn yr ardd
Roeddwn i’n mynd am dro cyn cinio pan welais i Gwen Gwenynen ar y llawr, wedi blino’n lân ac angen help arni. Ar ôl nôl ychydig o ddŵr a siwgr iddi, arhosais efo hi. Roeddwn i ar bigau’r drain, ond roedd Gwen Gwenynen yn teimlo’n well yn fuan, ac aeth yn ôl at ei ffrindiau yn y cwch gwenyn. Am amser cinio llawn drama, ond roeddwn i’n lwcus o allu helpu a bod Gwen Gwenynen yn iawn.
Ystadegau Winnie
Hydref hyd heddiw
- Myfyrwyr = 587
- Staff = 225
- Ymwelwyr â’r llyfrgell = 40
- Diwrnodau i Ddeiliaid Cynigion (4) = 20 o fyfyrwyr a rhieni
- Ymweliad ag ysgol gynradd = 30 disgybl a 4 athro
- Gwahoddiad i ymweld â myfyrwyr MBA gweithredwr
- Neidio i mewn i lun y Gymdeithas!
- Lluniau wedi’u tynnu o Winnie = yn y miloedd siŵr o fod
Ci Anwes fel Therapi
Mae PAT yn elusen ledled y Deyrnas Gyfunol – ei nod yw gwella iechyd a lles yn y gymuned trwy ymweliadau gwirfoddolwyr cymeradwy ynghyd ag anifeiliaid mae’u hymddygiad wedi’i asesu.
Rydyn ni’n ffodus iawn bod gennym ni Ymgynghorydd Cynorthwyo Myfyrwyr a Gwirfoddolwr Ci Anwes fel Therapi yn yr Ysgol Busnes. Mae hynny’n golygu bod myfyrwyr sy’n gofyn am gyngor ynghylch amryw faterion megis ffioedd ac ariannu, fisas, tai, cwnsela, iechyd a llesiant meddwl neu unrhyw anawsterau eraill a allai fod yn berthnasol i fyfyrwyr, yn gallu dod i weld Winnie a fi.
Daw myfyrwyr sy’n gweld eisiau eu hanifeiliaid anwes eu hunain am gwtsh, gair bach neu ffoto.
Yn yr ysgol, bydd Winnie yn galluogi myfyrwyr i fynegi eu pryderon a’u teimladau mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol.
Mae Winnie wedi ymweld bob dydd Mercher ers mis Hydref a chwrdd â’r myfyrwyr yng nghanolfan dysgu’r ôl-raddedigion yn ystod amser cinio. Mae ymateb y myfyrwyr wedi bod yn wych a bydd Winnie yn cwrdd â 20 – 30 bob tro, fel arfer.
Mae ymateb pob un o’r myfyrwyr sydd wedi cwrdd â Winnie wedi bod yn dda iawn – mae llawer wedi dweud ei bod yn wych ei chael yn y swyddfa neu’r ganolfan a’u bod yn edrych ymlaen at ei gweld bob wythnos.
Mae llawer o fyfyrwyr wedi dweud eu bod yn fwy bodlon o dipyn ar ôl cwrdd â Winnie ac, wrth gwrs, mae hynny o les iddyn nhw. Mae presenoldeb Winnie gyda fi wedi’n galluogi i chwalu’r muriau a allai rwystro myfyrwyr rhag cael gafael ar gymorth weithiau.
Mae iechyd a lles yn rhan bwysig o hyn, wrth gwrs. Mae iechyd a lles yn hanfodol am y bydd myfyrwyr bodlon ac iach yn astudio’n well. Fe wnewch chi bopeth yn well, mewn gwirionedd. Mae’r ysgol wedi elwa’n fawr trwy fod ar flaen y gad ynghylch Winnie a PAT, ac rydyn ni’n falch o fod yr unig ran o’r Brifysgol sy’n cynnig cymorth o’r fath i fyfyrwyr.
Mae gennym ni amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu cyfnod yn y Brifysgol, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogaeth i Fyfyrwyr Rhyngwladol.
Cynghorydd Cefnogi Myfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd yw Denise Brereton.
Eich bywyd fel myfyriwr, gyda chefnogaeth
Cewch ragor o wybodaeth am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor ac ati, ar Fewnrwyd y Myfyrwyr.
- Mawrth 2024
- Ebrill 2023
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Rhagfyr 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018