Skip to main content

Profiad myfyrwyr

Pum ffordd mae MSc Arwain Cyhoeddus Prifysgol Caerdydd wedi fy helpu yn fy ngyrfa

17 Mai 2021
Gemma Charnock (y drydedd o’r chwith) gyda charfan gyntaf Ysgol Busnes Caerdydd o fyfyrwyr MSc mewn Arweinyddiaeth Gyhoeddus, Hydref 2019.

Yn ein darn diweddaraf, dyma sylwadau Gemma Charnock (myfyriwr ail flwyddyn MSc Arwain Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd) am y ffyrdd mae astudio ôl-raddedig wedi’i helpu i wireddu ei dyheadau gyrfaol.

Ar ôl saith mlynedd mewn amryw rolau yng Ngrŵp Colegau NPTC, ces i fy mhenodi’n Is-bennaeth Cysylltiadau Allanol yno yn ddiweddar.

Diben y rôl yw cryfhau cysylltiadau â’r gymuned a gofalu bod y Coleg yn cael ei gydnabod yn fusnes cyfrifol ac iddo nodau moesegol, amgylcheddol a chymunedol.

Rwy’n bwriadu gwneud hynny trwy feithrin cysylltiadau cydweithredol cryf â’n budd-ddalwyr.

Felly, bydd angen meithrin ymdeimlad o ddiben sy’n gyffredin yn ôl tegwch a chynaladwyedd gan gynnig i bobl fedrau hanfodol er llwyddiant yn eu bywydau, helpu cwmnïau i fod yn gynhyrchiol ac yn arloesol a chryfhau balchder ein cymuned yn ei bro.

Rwyf i wedi trin a thrafod syniadau o’r fath yn ystod cwrs MSc Arwain Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd gyda phroffesiynolion o amrywiaeth helaeth o gyrff cyhoeddus megis Llywodraeth Cymru, cynghorau lleol, y GIG a’r heddluoedd.

Cwrddwn ni (trwy’r we ar hyn o bryd, wrth gwrs) dros dridiau bob deufis i ystyried yr anawsterau sy’n wynebu ein cymdeithas a rôl gwasanaethau cyhoeddus ynghylch eu datrys.

Mae’r hyn ddysgais i wedi bod o gymorth mawr o ran ennill rôl Is-Bennaeth Grŵp y Coleg ac, felly, hoffwn i ledaenu peth ohono.

1. Mae’n werth dweud eich dweud a chwestiynu hen syniadau

Mynegwch eich barn yn hyderus. Bydd o gwmpas arweinyddion da bobl nad oes arnyn nhw ofn dweud eu dweud.

2. Nid dim ond y sector preifat sy’n arloesi

Yn ystod y cyfweliad ar gyfer y swydd, fe rois i enghreifftiau o’r modd y byddwn i’n arwain y sefydliad trwy ei strategaeth drawsffurfio, wedi’u seilio ar gynnwys y cwrs ym maes rheoli newid.

3. Mae angen neilltuo peth amser ar gyfer pwyso a mesur

Heb wneud hynny, byddwch chi’n parhau i wneud yr un camgymeriadau gan ymateb i newidiadau dro ar ôl tro yn hytrach na’u harwain.

4. Gall arweinyddion y sector cyhoeddus ddysgu llawer iawn oddi wrth ei gilydd

Rhan allweddol o’r cwrs hwn yw trafod syniadau a meithrin cysylltiadau cryf a fydd yn arwain at gydweithio yn y dyfodol.

5. Mae ffyrdd newydd o weithio

Ysgol Busnes Caerdydd yw’r ysgol fusnes werth cyhoeddus gyntaf ac mae wedi dangos imi fod modd gwella’r gymdeithas a datblygu’r economi fel ei gilydd.

Trwy gydweithio, mae rôl allweddol i’r sector cyhoeddus ynghylch datrys rhai o anawsterau mwyaf ein cymdeithas ar hyn o bryd.

Mae Gemma Charnock yn swydd Is-Bennaeth Cysylltiadau Allanol Grŵp Colegau NPTC.

Mae MSc Arwain Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd yn rhaglen ran-amser i ôl-raddedigion, gan eu helpu i drin a thrafod problemau cymhleth gwasanaethau mewn ffyrdd newydd trwy gysylltu ymchwil ag arferion.

Dyma ragor o wybodaeth am y rhaglen.