Skip to main content

Llywodraethu

Mae’r gwrthymosodiad yn erbyn Facebook yn cryfhau

31 Hydref 2019

Yn ein darn diweddaraf, mae’r Athro Leighton Andrews yn ystyried yr heriau sy’n wynebu rheoleiddwyr a gwleidyddion yn wyneb grym ariannol a chymdeithasol Facebook.

Yn ddiweddar cymerodd Mark Zuckerberg, arweinydd Facebook y cam anarferol o ymweld â deddfwyr yn Washington, gan gynnwys yr Arlywydd Donald Trump yn y Tŷ Gwyn. Y rheswm? Mae is-bwyllgor gwrth-gystadlu (anti-trust) y Gyngres wedi dechrau mynnu cael dogfennau gan Facebook a chwmnïau technoleg mawr eraill. Mae’n rhan o archwiliad y pwyllgor i weld a yw’r prif gwmnïau technoleg yn gweithredu’n wrth-gystadleuol. Ac mae taith Zuckerberg yn awgrymu bod y cwmni’n poeni.

Un enghraifft yn unig yw’r pwysau cynyddol sy’n dod o Gyngres UDA o sut mae llywodraethau ledled y byd yn dechrau ymladd yn ôl yn erbyn grym Facebook. Mae’r cwmni’n wynebu dirwyon, rheoleiddio a hyd yn oed galwadau iddo gael ei rannu. Ond mae her sylweddol yn wynebu rheoleiddwyr a gwleidyddion o hyd o ran ffrwyno grym ariannol, gwleidyddol a chymdeithasol Facebook.

Yn haf 2019, cafodd Facebook ddirwy o US$5 biliwn gan Gomisiwn Masnachu Ffederal UDA (FTC), yn ogystal â   dirwy o US$100m  gan y Comisiwn Gwarantau a Chyfnewidiadau yn sgandal data Cambridge Analytica. Hefyd mae’n bosibl y bydd y cwmni’n wynebu dirwyon o biliynau pellach yn Ewrop am dorri cyfreithiau gwarchod data.

Ond gwnaeth Facebook US$16.6 biliwn o hysbysebion yn y tri mis o 30 Mehefin 2019 yn unig. Felly dydy dirwyon enfawr fel hyn hyd yn oed ddim yn llawer o gosb o angenrheidrwydd. Fodd bynnag, un ffordd yn unig o ffrwyno grym Facebook yw’r dirwyon hyn, ac mae llywodraethau’n fwyfwy parod i weithredu.

Ochr yn ochr ag adolygiad y Gyngres, mae’r FTC, yr Adran Gyfiawnder a nifer o atwrneiod talaith yn ymchwilio i gwmnïau technoleg mawr gan gynnwys Facebook am dorri rheolau cystadlu o bosibl. Mae Awdurdod Cystadlu a Marchnadoedd y DU hefyd yn gwneud astudiaeth farchnad i blatfformau ar-lein a’r diwydiant hysbysebu digidol. Yn yr Almaen, mae Facebook yn ymladd achos gwrth-gystadlu yn y llysoedd. Ac mae adroddiadau’n awgrymu bod gan reoleiddwyr gwrth-gystadlu yr UE ddiddordeb mewn archwilio’r arian cudd (cryptocurrency) Libra a lansiodd y cwmni’n ddiweddar.

Yn fwy cyffredinol, mae’r UE wedi dechrau achosion gwrth-gystadlu yn erbyn nifer o gwmnïau technoleg mawr eraill. Gwnaeth Margrethe Vestager, y comisiynydd cystadleuaeth a ailbenodwyd yn ddiweddar, ddatganiad y bydd angen rhagor o reoleiddio defnydd data gan gwmnïau technoleg.

Nid monopoli economaidd Facebook yn unig y mae gwleidyddion yn poeni amdano, fodd bynnag. Mae aelodau seneddol o nifer cynyddol o awdurdodaethau gan gynnwys yr Ariannin, Canada, Chile, Estonia, yr Almaen, Iwerddon, Singapore, Ecuador, México, Morocco, Trinidad a Tobago, a’r DU yn cwrdd yn rheolaidd bellach fel yr Uwch-Bwyllgor Rhyngwladol/International Grand Committee. Eu nod yw archwilio effaith y cyfryngau cymdeithasol, a Facebook yn enwedig, ar ddemocratiaeth.

Erbyn hyn, Facebook yw’r prif gyfrwng ar gyfer hysbysebu a thargedu gwleidyddol. Mae’r cwmni wedi cyflwyno rheolau llymach ac yn ddiweddar dileon nhw hysbyseb gan Blaid Geidwadol y DU am eu torri nhw. Ond nawr mae galwadau mewn nifer o wledydd ar i hysbysebu gan bleidiau gwleidyddol ar y cyfryngau cymdeithasol gael ei reoleiddio drwy reoleiddio statudol, yn hytrach na dibynnu ar reolau mewnol Facebook. Mewn gwirionedd, mae Zuckerberg ei hun wedi galw am ddeddfwriaeth yn y maes hwn.

Cyflwynwyd rheolau newydd eleni yn Awstralia a Chanada. Yn y cyfamser nid yw llywodraeth y DU wedi gweithredu cynigion eto gan  ei Swyddfa Gabinet.

Mae llawer o wledydd gan gynnwys Awstralia, India a Singapore wedi datblygu mesurau newydd i ddileu cynnwys troseddol neu derfysgol neu wybodaeth anghywir o rwydweithiau cymdeithasol. Ac mae llywodraethau eraill yn edrych ar y mater. Mae hwn yn faes anodd ei reoleiddio oherwydd bod cwestiynau o hyd ynghylch sut yn union mae diffinio deunydd tramgwyddus a pha brosesau y mae’n bosibl eu rhoi yn eu lle sy’n parchu hawliau dynol.

Mae llawer o sylwebyddion yn dadlau bod angen i Facebook wneud llawer mwy yn y maes hwn ond nid yw o fudd ariannol y cwmni iddo wneud hynny. Yn y bôn mae Facebook yn cael cymhorthdal am gostau ei fethiannau ei hun gan ddefnyddwyr, cyrff cyfryngau ac eraill sy’n tynnu sylw at ddeunyddiau problemus.

Yn hytrach, yn ôl y ddadl, Facebook y llygrwr a ddylai dalu i fynd i’r afael â’r llygredd ar-lein y mae’n ei greu. O ganlyniad mae nifer o wledydd yn trafod ardollau a mwy o drethi, yn rhannol oherwydd strwythur cadw cyfrifon Facebook sy’n ei alluogi i dalu cyn lleied ag 1% o’i refeniw mewn treth.

“Camdriniaeth ecsbloetiol”

Y broblem fwy yw’r un y mae ymchwiliadau gwrth-gystadlu yn edrych arni. Dyma’r ffaith, ynghyd â Google, bod Facebook yn sugno’r rhan fwyaf o’r hysbysebu ar-lein, a’r hysbysebu symudol yn arbennig. Os ydych chi eisiau hysbysebu ar-lein, yn y bôn mae’n rhaid ichi ddefnyddio ei wasanaethau. Mae Awdurdod Cartelau’r Almaen, y Bundeskartellamt, wedi galw cyfuniad Facebook o ddata defnyddwyr wedi’u tynnu o amrywiaeth o ffynonellau data, yn “gamdriniaeth ecsbloetiol” o’i safle trechol yn y maes.

Yr anhawster yw herio’r safle hwnnw, o gofio natur fyd-eang y rhyngrwyd a’r ffordd y mae’r cwmnïau rhyngrwyd mwyaf llwyddiannus yn anochel yn tueddu i ddenu mwyafrif o ddefnyddwyr. Un ateb fyddai gorfodi Facebook i werthu ei apiau rhwydweithio cymdeithasol eraill, WhatsApp, Instagram a Facebook Messenger fel na fyddai ganddo gymaint o ffynonellau data am ddefnyddwyr.

Ond, fel mae Comisiwn Cystadlu a Defnyddwyr Awstralia wedi’i amlygu, problem arwyddocaol arall yw’r ffaith fod ei fusnes wedi’i integreiddio’n fertigol. Ystyr hyn yw ei fod yn rheoli rhannau gwahanol o’r diwydiant hysbysebu. Yn y bôn mae’n rhwydwaith cyfryngau cymdeithasol, yn gwmni dosbarthu cyfryngau, yn gwmni prynu cyfryngau, yn gyfnewidfa hysbysebu ac yn gwmni dadansoddi data. Oherwydd hyn, mae rhai’n dadlau y gallai gwahanu swyddogaethau mewnol Facebook yn strwythurol fod yn ateb mwy pwerus.

Mae un peth yn eglur, bydd angen rheoleiddio rhyngwladol wedi’i gydlynu er mwyn datrys Facebook. Wrth wraidd y drafodaeth hon wrth gwrs mae grym corfforaethol yn oes cyfalafiaeth gwyliadwriaeth. Mae methiannau Facebook dro ar ôl tro yn golygu, yn ôl adroddiadau, fod gweithredu deddfwriaethol a rheoleiddiol bellach wedi troi hyd yn oed at gwestiwn ymchwiliad troseddol. Nid ydym yn agos at gael gweithredu effeithiol eto ond mae’n edrych fwyfwy fel na fydd llywodraethau, deddfwyr a rheoleiddwyr yn derbyn pethau fel y maen nhw. Lle mae gan Facebook ddefnyddwyr, bydd llywodraethau’n rheoleiddio.

Mae Leighton Andrews yn Athro Ymarfer ac Arloesedd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yn Ysgol Fusnes Caerdydd, yn un o gyn-Weinidogion Llywodraeth Cymru, ac yn bennaeth ar faterion cyhoeddus yn y BBC gynt.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar The Conversation UK.