Skip to main content

Iechyd a Lles

Mae Winnie yn eich croesawu i’r brifysgol, a phe byddech chi yma’r llynedd – croeso yn ôl!

1 Hydref 2019

Shwmae bawb! Wel, dw i nôl ar gyfer blwyddyn academaidd arall a hoffwn i ddweud Shwmae wrth y rheini sydd heb gwrdd â fi ‘to – Wyff! Winnie ydw i, Ci Anwes fel Therapi yr Ysgol Busnes, a dw i’n cynnig cwtshys ac yn cyfarch â’m cyfarth

Mae’n anodd credu mai’r adeg ‘ma’r llynedd roeddwn i’n newydd i’r gêm ac er bod y cyfan yn gyffrous dros ben, roedd yn brofiad dryslyd i mi hefyd.

Fi’n nerfus – sut allwch chi ddweud?

Felly, rwy’n mynd i rannu fy mhrofiad â thi, a dyma bach o gyngor gwych.

Gwneud ffrindiau newydd

Winnie a Pooh (Gweld beth wnes i ynu!)

Dyma gyfle delfrydol i gwrdd â phobl o bob rhan o’r byd, o wahanol ddiwylliannau ac astudio gwahanol bynciau. Bacha ar y cyfle!

Bwyta’n Iach

Rwy’n gwybod pa mor hawdd yw cael pryd ar glud bob nos ond gwranda arna i, bydd dy waled a’th drowsus yn elwa arnat ti’n dysgu i goginio’n iach. Hefyd, mae’n ffordd wych o wneud argraff dda ar dy ffrindiau.

Mae rhai gwefannau gwych mas ‘na gyda ryseitiau syml, neu ‘falle gelli di goginio dy hoff bryd o fwyd i’th ‘gi-letywyr’?

Yn bersonol, rwy’n dwlu ar gyw iâr i swper, ond rwy’n fodlon ar sglaffio selsigen i ginio, fel arfer gyda ychydig o foron a sleisen o ellyg i bwdin!

Yfed

Efallai bo’ ti’n joio cwrw neu ddau, ond cofia, pwyll pia hi.

Rydyn ni i gyd yn gallu gwneud pethau twp os awn ni dros ben llestri, a ti ddim eisiau mynd i ddarlithoedd a thiwtorialau gyda dy hunan-barch wedi mynd i’r cŵn!

Os nad ydych yn siŵr – gofynnwch!

Does dim y fath beth â chwestiwn gwirion, ar wahân i’r un sydd heb ei ofyn.

Os ti ddim yn gofyn y cwestiwn – chei di mo’r ateb.

Cofia, mae pawb yma i helpu.

Ac yn olaf, cofia fwynhau dy hun ac os oes unrhyw gwestiynau gen ti neu os wyt ti’n ansicr o beth i’w wneud, dere i weld fi a’m gofalwr (Denise). Rwy’n siŵr gallwn ni helpu!

Bydd fy oriau swyddfa yn cael eu hysbysebu’n wythnosol yn y Swyddfa Cymorth i Fyfyrwyr – Llawr Gwaelod P24 yn Adeilad Aberconway.

Gobeithio eich gweld yn fuan

Cynghorydd Cefnogi Myfyrwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd yw Denise Brereton.

Eich bywyd fel myfyriwr, gyda chefnogaeth

Mae gennym ni amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu cyfnod yn y Brifysgol, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogaeth i Fyfyrwyr Rhyngwladol.

Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr yn 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Cewch ragor o wybodaeth am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor, ac ati, ar Fewnrwyd y Myfyrwyr.