Skip to main content

Economi digidol

Trawsnewid digidol a goblygiadau hyn i fusnesau a pholisïau

4 Tachwedd 2019

Yn ein blog diweddaraf, mae Dr Dylan Henderson yn amlinellu gwaith ymchwil Ysgol Busnes Caerdydd ar bresenoldeb cynyddol technolegau digidol ym myd busnes, polisi a’r gymdeithas yn ehangach.

Dywedir bod deall y syniad o ‘drawsnewid digidol’ yn fwyfwy hanfodol i werthfawrogi sut mae busnesau bach a modern yn gweithredu, a sut y gellir eu helpu i ffynnu a thyfu.

Mae trawsnewid digidol, yn gyffredinol, yn cyfeirio at y cyflymder cynyddol y mae busnesau’n integreiddio technolegau megis cyfrifiadura cwmwl, e-fasnach, cynadledda fideo yn eu harferion, ac yn dod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau gwerth i gwsmeriaid.

Ynghyd â hyn, mae goblygiadau cadarnhaol a negyddol y trawsnewidiad a’u heffaith ar swyddi, sectorau a bywyd bob dydd yn fwy cyffredinol yn codi arswyd cynyddol ar bobl. Mae llunwyr polisi a chefnogwyr busnesau bach mewn ysgolion busnes hefyd wedi dechrau rhoi sylw iddo, ac ystyrir bod goblygiadau sylweddol i ysbryd cystadleuol busnes yn sgil trawsnewid.

Fodd bynnag, er ei fod yn amlwg mewn data bod mwy a mwy o bobl yn mabwysiadu technoleg ddigidol, mae perygl iaith fel “trawsnewid” yn gallu rhoi gormod o bwyslais ar rôl technoleg wrth sbarduno newid, ar draul asiantaeth busnesau a gweithwyr eu hunain.

Fel y noda cymdeithasegwyr, mae dewisiadau, credoau a gweithredoedd busnesau’n dylanwadu ar ddefnyddio a mabwysiadu technolegau yn ogystal â’r unigolion sy’n eu defnyddio. Yn ogystal, gall canolbwyntio gormod ar y rhai sy’n mabwysiadu gwahanol atebion technoleg ddigidol dan-bwysleisio parhad agweddau materol prosesau busnes mewn busnesau bach mewn mannau eraill. Mae hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i arbenigwyr busnes ac ymarferwyr fod yn wyliadwrus ohono.

Yn Uned Ymchwil Economi Cymru (WERU) Ysgol Busnes Caerdydd, rydym wedi bod yn astudio busnesau bach a chanolig (BBaChau) a’r ffordd maen nhw’n mabwysiadu ac yn defnyddio technolegau digidol, oherwydd band eang, trwy gynnal dadansoddiadau arolwg hydredol blynyddol ac astudiaethau achos o arferion busnes.

“Mae ein hymchwil yn nodi’r defnydd cynyddol o dechnolegau digidol dros amser, ac yn tynnu sylw at rai o’r manteision posibl i fusnesau mewn meysydd megis trosiant, cyflogaeth ac arloesedd.”

Mae datblygiad manteision o’r fath, fodd bynnag, fel arfer yn raddol ac yn hynod anwastad, gan amrywio’n fawr rhwng busnesau mewn sectorau a rhanbarthau daearyddol gwahanol. Mae’r adnoddau sydd gan fusnesau hefyd yn dylanwadu ar y gyfradd y maen nhw’n eu mabwysiadau megis mynediad at fand eang, cyllid, a’r sgiliau a’r gallu i fanteisio ar dechnolegau digidol.

Mae ymchwil WERU hefyd yn awgrymu, yn hytrach na bod yn broses gyflym, dreiddiol, bod mabwysiadu technolegol yn fwy o broses drosiannol, lle mae technolegau digidol yn cael eu cynnwys gyda gweithgareddau analog presennol fel cyfathrebu wyneb yn wyneb, adwerthu corfforol, ac agweddau materol ar gynhyrchu.

Mae’r prosesau hyn yn datblygu mewn ffyrdd mwy cymhleth ac anwastad nag a awgrymir yn aml pan fyddwn yn siarad am bŵer ac effeithiau trawsnewid digidol ar hyn o bryd, ac efallai y bydd edrych ar brosesau analog ochr yn ochr â rhai digidol yn cynrychioli ffordd fwy craff i ddeall pa agweddau ar fusnes sy’n parhau dros amser, a sut mae eraill wedi’u hintegreiddio â phrosesau digidol.

Gallai hyn gynnwys edrych ar y rhesymau pam mae busnesau bach yn gwrthod digideiddio, ac olrhain y profiadau y mae busnesau bach wedi’u cael wrth ddefnyddio technoleg ddigidol.

Mae rôl y llywodraeth o ran annog busnesau i fabwysiadu technoleg ddigidol yn faes pellach sydd ond yn awr yn dechrau cael ei archwilio. Er bod llunwyr polisïau wedi rhoi cryn bwyslais ar sicrhau bod rhwydweithiau digidol ar gael ar draws rhanbarthau’n fyd-eang, mae ymchwil WERU ar Ddinas-Ranbarth Caerdydd yn tynnu sylw at beryglon buddsoddiad o’r fath mewn seilwaith, sy’n gwaethygu gwahaniaethau rhanbarthol economaidd-gymdeithasol ymhellach, a’r angen am weithredu polisi cyflenwol i atal isranbarthau rhag cwympo ymhellach y tu ôl i’w cymheiriaid mwy llewyrchus.

Mae llunwyr polisïau hefyd yn ceisio cefnogi busnes drwy roi cyngor penodol am fabwysiadu technoleg ddigidol. Bydd datblygiadau o’r fath yn ei gwneud yn ofynnol i lunwyr polisi roi ystyriaeth ofalus i gost go iawn a buddion digidol (e.e. gwefannau, cynnwys fideo) a ffurfiau analog o gymorth busnes (e.e. gweithdai cyngor wyneb yn wyneb) a gwasanaethau.

“Efallai bod gan dechnoleg ddigidol ran i’w chwarae mewn llawer o wasanaethau cyhoeddus, ond mae ein hymchwil yn awgrymu na ddylem dybio mai cefnogaeth ddigidol yn unig sydd orau bob amser i bob busnes a grŵp cymdeithasol.”

Mae’r agenda ymchwil hon sy’n dod i’r amlwg yn awgrymu, er bod y syniad o drawsnewid digidol yn helpu i daflu rhywfaint o oleuni ar bresenoldeb cynyddol technolegau digidol mewn busnes, polisi a’r gymdeithas ehangach, mae’n ein gadael mewn perygl o dybio y bydd busnesau bach yn anochel yn gallu cymryd rhan yn y broses hon. At hynny, mae’n anwybyddu’r ffyrdd y gall busnes mewn gwahanol sectorau gael trafferth gyda’r newid neu ei wrthsefyll, neu hyd yn oed ei ddefnyddio mewn ffyrdd nad oeddem wedi’u nodi na’u hystyried o’r blaen.

Mae ein hymchwil yn dangos bod busnesau bach a chanolig yn ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r trawsnewid hwn, ac yn dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio, ac mae integreiddio technoleg ddigidol ym myd gwaith, busnes, a syniadau polisi newydd yn dod i’r amlwg.

Ni ellir cyfyngu hyn i broses dechnolegol yn unig ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sy’n cefnogi busnesau bach ystyried y cyd-destunau y maent yn gweithredu ynddynt, a gwerthfawrogi’r ffyrdd y mae prosesau analog traddodiadol, technolegau digidol newydd, a’r bobl sydd wrth wraidd busnesau bach yn rhyngweithio.

Mae’r ymchwil yn yr adroddiad hon wedi’i hariannu’n rhannol gan y Superfast Broadband Business Exploitation Programme, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Mae Dr Dylan Henderson yn Uwch-gymrawd Ymchwil yn Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol gan Small Business Charter.

Darllen pellach

Jones, C., Henderson, D., 2019. Broadband and Uneven Spatial Development: The Case of Cardiff City-Region. Local Economy 34 (3), 228–247

OECD, 2017. OECD Digital Economy Outlook 2017. OECD Publishing, Paris.

WERU, 2019. Arolwg Aeddfedrwydd Digidol Cymru 2019. Prifysgol Caerdydd.