Skip to main content

Iechyd a Lles

Ffŵl Ebrill – Peidiwch â bod yn Asyn Arian

28 Mawrth 2019

Lies, damned lies and statistics!*

Peidiwch â phoeni, dwi ddim am draethu atoch chi am ystadegau (fel y gwyddoch, fy newis bwnc yw Archeoleg – palu i ddod o hyd i’r hen esgyrn hyfryd ‘na)!

Fis yma, dwi am siarad â chi am Asynnod Arian, beth yw hyn, sut mae’n digwydd a’r canlyniadau.

Celwyddau

‘Enillwch filoedd yn gweithio o gartref. Dim angen profiad.’ Swnio’n gyfarwydd? Dyma’r union fath o hysbyseb sy’n cael ei defnyddio i recriwtio myfyrwyr fel asynnod arian.

Mae’r demtasiwn o arian hawdd yn anodd ei gwrthod, ond dyw hyn ddim werth y risg.

Celwyddau Melltigedig

Mae hon yn drosedd heb ddioddefwyr. Anghywir! Mae bod yn Asyn Arian yn golygu eich bod yn helpu troseddwyr yn y fasnach cyffuriau a’r fasnach mewn pobl.

Ystadegau

Mae troseddwyr yn targedu pobl ifanc 18-24 oed fwyfwy.

Yn 2017 gwelwyd cynnydd o 105% mewn achosion “asyn arian” yn gysylltiedig â’r rheini sy’n 21 oed neu’n iau, i 6,484 o achosion, lle defnyddir cyfrifon banc sy’n ymddangos yn ddiniwed i wyngalchu enillion troseddol.**

Beth yw Asyn Arian?

Person sy’n trosglwyddo arian a enillwyd yn anghyfreithlon rhwng cyfrifon talu gwahanol, yn aml mewn gwledydd gwahanol, tra’n ennill comisiwn.

Arwyddion i edrych amdanynt

Bydd troseddwyr yn aml yn defnyddio hysbysebion swydd ffug neu’n creu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol am gyfleoedd i wneud arian yn gyflym er mwyn denu asynnod arian posib.

Canlyniadau

Mae gweithredu fel Asyn Arian yn anghyfreithlon a gall arwain at ganlyniadau trychinebus i chi, nawr ac yn y dyfodol. Gallech fynd i’r carchar am hyd at 14 blynedd ac ni fyddech yn gallu gael cyfrif banc, a fyddai’n ei gwneud hi’n anodd i chi gael mynediad i arian parod neu unrhyw gredyd.**

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:

Gallwch chi gwrdd â Winnie a Denise fel arfer ar ddydd Mercher yng Nghyntedd Canolfan Ddysgu’r Ôl-raddedigion neu yn y Swyddfa Cymorth i Fyfyrwyr, Ystafell P24, Adeilad Aberconwy. Bydd yr amseroedd a’r lleoliad yn cael eu postio ar ddrws y swyddfa.

Eich bywyd fel myfyriwr, gyda chefnogaeth

Mae gennym ni amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogaeth i Fyfyrwyr Rhyngwladol.

Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr yn 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Cewch ragor o wybodaeth am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor, ac ati, ar Fewnrwyd y Brifysgol.

Ymgynghorydd Cymorth Myfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd yw Denise Brereton.

*Geiriau Mark Twain

**Record increase in ‘money mule’ cases among UK young people, Guardian (27 Tachwedd 2017).