Skip to main content

Marchnata

Cynulleidfaoedd plant YouTube yn ei chael hi’n anodd adnabod hysbysebion mewn fideos ar ‘ddêts chwarae rhithwir’

29 Mawrth 2019

Yn ein post diweddaraf, mae Dr Rebecca Mardon yn trafod y dilemâu moesegol a’r goblygiadau rheoliadol sy’n gysylltiedig â chynulleidfaoedd plant YouTube.

Y seren YouTube a enillodd y mwyaf o arian yn 2018 oedd bachgen saith oed o’r enw Ryan. Do, fe enillodd plentyn fwy na’r drwg-enwog Logan Paul, y flogiwr gemau fideo PewDiePie a hyd yn oed y seren colur Jeffree Star. Rhwng mis Mehefin 2017 a mis Mehefin 2018, amcangyfrifir bod Ryan wedi ennill US$22m drwy’r platfform, sy’n swm trawiadol.

Dan arweiniad ei rieni, mae Ryan yn cyflwyno ei sianel YouTube ei hun, Ryan ToysReview, lle mae’n agor ac yn chwarae gyda’r teganau diweddaraf. Ers ymuno â YouTube yn 2015, mae Ryan wedi denu mwy na 18.5m o danysgrifwyr ac, yn ddi-syndod, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn blant. Gan drafod yr apêl, esboniodd mam Ryan fod gwylwyr yn teimlo eu bod “ar ddêt chwarae gydag e ac yn mynd ar ffug-anturiaethau chwarae hwyl”.

Wrth i enwogrwydd a chyfoeth plant-flogwyr gynyddu, mae mwy a mwy o gynnwys wedi cael ei dargedu at wylwyr ifanc, ac yn 2015 rhyddhaodd YouTube blatfform sy’n benodol i blant. Fodd bynnag, nid oes llawer o ystyriaeth wedi’i rhoi i effaith y mathau hyn o fideos ar blant, ac yn arbennig sut maent yn prosesu’r hysbysebion sydd wedi’u plannu ynddynt.

Llenyddiaeth hysbysebu

Mae sianel Ryan wedi dod yn fusnes proffidiol sydd â 25 o gyflogeion, gan gynnwys golygyddion fideo, ysgrifenwyr a chynorthwywyr cynhyrchu. Cyflawnodd lwyddiant masnachol i ddechrau drwy ddangos hysbysebion mwy traddodiadol cyn ei fideos, sy’n dangos, gan amlaf, Ryan yn chwarae gyda theganau – y mae ei rieni’n dweud eu bod nhw’n eu prynu eu hunain. Yn ddiweddarach dechreuodd y sianel blannu cynnwys hysbysebu ar gyfer brandiau mawr, fel Walmart, yn fideos Ryan. Yn fwy diweddar, lansiodd y busnes y casgliad Ryan’s World Toys sydd yn aml yn cael sylw yn ei gynnwys fideo.

Mae fideos Ryan yn cynnwys datgeliadau clir sy’n addas i blant o amgylch y cynnwys noddedig. Ond y cwestiwn yw a yw plant wir yn adnabod y datgeliadau hyn ac yn deall beth yw hysbysebu, ac a yw’r holl fideos YouTube sydd wedi’u targedu at blant yn datgelu negeseuon marchnata yn ddigonol.

Mae ymchwil yn dangos bod gan blant lythrennedd hysbysebu is nag oedolion. Maent yn ei chael hi’n anodd adnabod hysbysebion pan maent wedi’u plannu mewn cynnwys organig, ac efallai na fyddant yn adnabod fideos YouTube sydd â chynnwys hysbysebu y talwyd amdano, nwyddau brand y flogwyr eu hunain neu gynhyrchion eraill sy’n “rhoddion” gan frandiau fel deunydd marchnata.

Mae plant yn arbennig o debygol o’i chael hi’n anodd adnabod negeseuon hysbysebu gan eu hoff flogwyr. Mae gwylwyr yn aml yn teimlo cysylltiadau personol â sêr YouTube. Mae ffans y flogiwr harddwch Zoella, er enghraifft, yn ei hystyried yn chwaer neu’n ffrind gorau, ac mae fy ymchwil fy hun wedi dangos bod ffans yn aml yn amddiffyn ac yn esgusodi gweithredoedd flogwyr a allai fel arall gael eu hystyried yn broblematig neu’n anfoesol o ganlyniad i’r berthynas hon. Yn seiliedig ar hyn, gallwn ddatgan yn rhesymol y gallai plant fod yn fwy tebygol o ystyried eu hoff seren YouTube yn ffrind neu’n ddêt chwarae yn hytrach na hyrwyddwr neu farchnatwr enwog.

Datgelu cynnwys hysbysebu

Yn amlwg, mae angen datgeliadau mwy uniongyrchol ar blant nag oedolion er mwyn iddynt allu adnabod hysbysebion, ond nid yw datgeliadau hysbysebu YouTube yn glir o gwbl ar hyn o bryd. Yn yr wythnosau diwethaf, mae llywodraeth y DU a’r Awdurdod Safonau Hysbysebu wedi rhybuddio sêr y cyfryngau cymdeithasol fod yn rhaid iddynt ddatgan yn glir pan fyddant yn cael eu talu i hyrwyddo cynhyrchion yn eu fideos. Mae rheoliadau’n nodi bod “angen i wylwyr wybod eu bod yn dewis gwylio hysbyseb cyn iddynt ei gwylio”. Mae’r awdurdod yn annog y defnydd o labeli fel “hysbys”, “hysbyseb”, “hyrwyddiad hysbysebu” neu “nodwedd hysbysebu” i ddatgelu cynnwys sy’n cynnwys neges farchnata y talwyd amdani.

Mae canllawiau pellach gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn datgan y dylai rhoddion a phrofiadau CC sy’n cael eu rhoi am ddim neu am ostyngiad hefyd gael eu datgelu, gan fod y rhain nawr yn cael eu hystyried yn fath o gymhelliant neu daliad. Gofynnir i flogwyr hefyd ddangos yn glir pan maent yn cynnwys eu nwyddau eu hunain, ac mae unrhyw gynnwys sy’n hyrwyddo eu cynhyrchion eu hunain yn cael ei ystyried yn hysbyseb.

Fodd bynnag, mae’r canllawiau hyn yn agored i ddehongli, gydag amrywiadau sylweddol o ran sut mae’r datgeliadau’n cael eu gwneud. Er enghraifft, mae fideos sy’n cynnwys cynhyrchion yn cael eu labelu’n amrywiol â “hysbys”, “rhodd”, “am ddim” neu “sampl CC”. Mae datgeliadau weithiau’n cael eu gwneud ar lafar, o fewn cyd-destun y fideo, ond ar adegau eraill ond yn cael eu cynnwys yn y blwch disgrifiad o dan y fideo, ac nid yw plant bach yn gallu eu darllen yn aml.

Hefyd, mae rheoliadau hysbysebu’n benodol i bob gwlad ac yn amrywio’n fawr. Dim ond y rheoliadau yn y wlad y mae flogwyr yn lanlwytho ohoni y mae’n rhaid iddynt lynu wrthynt, yn hytrach na lleoliadau’r gwylwyr. Golyga hyn fod sianel Ryan, er enghraifft, yn rhwym wrth reoliadau UDA yn unig, er bod ganddo gynulleidfa fyd-eang.

Y canlyniad yw system gymhleth ac anghyson o ddatgeliadau hysbysebu y mae llawer o oedolion, heb sôn am blant, yn ei chael hi’n anodd ei deall. Gan fod rhai plant yn dysgu sut mae adnabod hysbysebion drwy ddysgu dulliau adnabod, gall mathau amrywiol o ddatgeliadau ei gwneud hi’n anodd iddynt ddeall beth yw hysbyseb mewn gwirionedd.

Nid oes unrhyw ymdrechion wedi’u gwneud i gyflwyno system ddatgelu sydd wedi’i theilwra’n fwy i gynulleidfaoedd plant, ac er gwaethaf ymdrechion gorau rheoleiddwyr, ymddengys y bydd hysbysebu ar YouTube yn mynd yn fwy niwlog cyn dod yn gliriach.

Dêt chwarae neu farchnatwr?

Dylai platfformau a rheoleiddwyr hysbysebu byd-eang dalu mwy o sylw i ddatgelu negeseuon marchnata sydd wedi’u plannu mewn fideos sydd wedi’u hanelu at blant. Ar hyn o bryd, cyfrifoldeb gofalwyr ac addysgwyr, yn bennaf, yw helpu plant i ddeall sut mae adnabod hysbysebion.

Un ffordd o ddatblygu llythrennedd hysbysebu plant yw i amlygu negeseuon hysbysebu sydd wedi’u plannu ar blatfformau fel YouTube ac esbonio eu bwriad perswadiol. Mae ymchwil wedi dangos y gall hyn helpu plant i adnabod a gwerthuso negeseuon marchnata sydd wedi’u plannu yn fwy beirniadol.

Bydd siarad â phlant am eu hoff flogwyr ac esbonio eu bod yn hyrwyddo teganau drwy eu sianel YouTube i ennill arian hefyd yn eu sensiteiddio i rôl y flogiwr fel marchnatwr, gan eu gwneud yn fwy ymwybodol a beirniadol o negeseuon marchnata sydd wedi’u plannu mewn cynnwys. Yn yr hirdymor, fodd bynnag, rhaid i YouTube weithio gyda rheoleiddwyr i sefydlu mecanweithiau datgelu cyson y gellir eu hadnabod a’u deall yn hawdd gan eu cynulleidfa gynyddol o blant.

Mae Dr Rebecca Mardon yn Ddarlithydd mewn Marchnata a Strategaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar The Conversation UK.