Bollywood a busnes: Yr hyn mae Padman (2018) yn ei ddysgu i ni am entrepreneuriaeth
18 Ebrill 2019Yn ein cyhoeddiad diwethaf, esbonia Dr Shumaila Yousafzai sut y gwnaeth sgrinio’r ffilm Bollywood Padman (2018) arwain ei myfyrwyr i rai gwersi pwysig am entrepreneuriaeth.
Mae’r cyfryngau yn aml yn ehangu twf ysgubol yr hyn a ystyrir yn syfrdandod byd-eang dros nos.
Tra bo storïau Steve Jobs, Mark Zuckerberg, Bill Gates, Elon Musk a’u cymheiriaid heb os yn ysbrydoledig, ychydig iawn ohonom a all uniaethu’n bersonol â’r straeon tylwyth teg sy’n amgylchynu eu taith entrepreneuriaeth. Ac nid ydynt yn gwneud llawer i gynrychioli realiti entrepreneuriaeth, yn enwedig ar gyfer ein myfyrwyr.
Mae eu straeon eithafol nid yn unig yn fygythiol, ond hefyd yn rhan o’r rheswm pam fod myfyrwyr yn ofni cychwyn ar eu gyrfaoedd entrepreneuraidd eu hunain. Mae eu taith at fod yn enwog ac at ffortiwn hefyd yn ymledu mythau ynghylch entrepreneuriaeth. Ac felly mae’n bwysig i ni, fel addysgwyr, ddadadeiladu’r barnau mytholegol hyn ynghylch entrepreneuriaeth.
“Mae’r broses hon o ‘chwalu bri’ yn gam tuag at gredu bod gan bob un ohonom y gallu i fod yn entrepreneur llwyddiannus.”
Gallwn ddysgu am entrepreneuriaeth oddi wrth amrywiaeth gwahanol o amgylcheddau.
Fel rhan o fy modiwl Twf Menter (rhan o’n MSc mewn Strategaeth Busnes ac Entrepreneuriaeth), trefnais ddangos y ffilm Bollywood Padman.
Y tabŵ cymdeithasol ynghylch y mislif yn India
Mae Padman, a ryddhawyd yn 2018, yn stori wir am Arunachalam Muruganantham, a arloesodd broses ar gyfer masgynhyrchu padiau misglwyf fforddiadwy, gan greu cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer miloedd o fenywod yn byw mewn cymunedau gwledig ledled India.
Cychwynnodd ei daith cynnyrch wedi iddo ddarganfod nad oedd ei wraig ac, yn ychwanegol at hynny, nifer o fenywod yng nghefn gwlad India yn gallu fforddio’r padiau misglwyf oedd ar gael yn fasnachol, a oedd yn eu gorfodi i droi at opsiynau anhylan peryglus.
“Yn 1998, roedd pecyn o wyth o badiau yn costio 20 rwpî India, yn gyfwerth â thri diwrnod o nwyddau bwyd.”
Wedi’i syfrdanu, dechreuodd waith i greu fersiwn fwy fforddiadwy a diogel o badiau misglwyf trwy ystyried datrysiadau presennol yn fanwl a’r prosesau a ddefnyddiwyd i’w creu ac yn eu hatgynhyrchu.
Oherwydd y tabŵ cymdeithasol ynghylch y mislif yn India, wynebodd Padman wrthwynebiad pwerus. Fodd bynnag, arweiniodd ei gred yn ei weledigaeth o’r cynnyrch at ddatrys problem a gafodd filoedd o fenywod.
Mae gwaith Padman wedi trawsnewid bywydau a datrys problem a oedd miloedd o fenywod yn ei phrofi. Ac roedd ei feddwl a’i daith entrepreneuraidd yr un mor strategol ac effeithiol ag unrhyw beth y gallem ei weld gan Mark Zuckerberg neu Elon Musk.
Cyflwynodd Padman fy myfyrwyr i’r rhwystrau cymdeithasol yn India yr oedd rhaid i Arunachalam eu goresgyn er mwyn cyflawni ei nod a chael gwared ar y tabŵs ynghylch hylendid mislif a’i wneud yn fforddiadwy i’w wraig a miloedd tebyg.
Roedd y ffilm yn fy ngalluogi i drosi ei brofiad yn wersi ar Entrepreneuriaeth Ddiwastraff, Arloesi Darbodus a Theori Gwireddu.
Dyma rai o’r pethau a drafodom:
Gwers #1: Cydnabod eich effaith ddymunol ar y byd a pheidio ag oedi cyn torri’r norm.
Tra bo cwmnïau sy’n tyfu’n gyflym yn pryderu’n bennaf am greu cyfoeth, yn anaml iawn fydd arian ac elw yr unig ffactor cymhellol y tu ôl i entrepreneuriaeth. Ar gyfer entrepreneuriaid, mae cysylltu eu hunain ag achos mwy yn aml yn gweithredu fel polyn totem, gan roi grym mewnol hanfodol iddynt pan fo pethau’n mynd yn anodd.
Siarsiaf fy myfyrwyr i feddwl am yr effaith yr hoffent ei gwneud ar y byd hwn, yn hytrach na faint o arian yr hoffent ei ennill yn y broses. Yn syml, nid yw’r cymhelliad elw yn ddigon i gynnal tir garw entrepreneuriaeth am fod entrepreneuriaeth – peidiwch â synnu – yn waith caled ac yn gofyn am fodlonrwydd ac awydd sy’n deillio o ddyfnder mewnol.
Wrth wylio Padman, gwelsom mai gweld ei wraig yn sleifio allan gyda cherpyn budr yn ystod ei misglwyf oedd yr hyn a drodd Padman yn arloeswr yn lle bod yn fecanydd a oedd wedi gadael yr ysgol yn gynnar. Pe byddai wedi’i ysgogi gan arian yn unig, mae’n sicr y byddai wedi rhoi’r gorau iddi pan wynebwyd ag adfyd enfawr.
Gwers #2: Mae entrepreneuriaid yn gweithredu gyda Chynnyrch Hyfyw Lleiaf (MVP) ac arbrofi wrth iddynt fynd yn eu blaenau.
Yng nghyd-destun entrepreneuriaeth, mae arbrofi yn golygu gweithredu. Gall hyn fod yn mynd allan i gasglu gwybodaeth yn y byd go-iawn i brofi syniadau newydd, yn hytrach nag eistedd wrth ddesg yn chwilio cronfeydd data ar gyfer y gwaith ymchwil diweddaraf. Mae’n cynnwys gofyn cwestiynau, dilysu tybiaethau a pheidio â chymryd unrhyw beth yn ganiataol.
Yng ngeiriau Ffransis o Assisi: “mae [entrepreneur] yn dechrau trwy wneud yr hyn sy’n angenrheidiol; yna mae’n gwneud yr hyn sy’n bosib: ac yn sydyn mae’n gwneud yr amhosib”.
Ar ôl datblygu’r pad misglwyf arbrofol cyntaf (cynnyrch hyfyw lleiaf), profodd Padman ef trwy berswadio ei wraig i’w ddefnyddio. Trwy nifer o dreialon, gwnaeth adborth yn ôl yn gyson nad oedd gan y pad yr amsugnad angenrheidiol. I ddeall y broblem, penderfynodd Padman brofi’r cynnyrch ei hun trwy fyw ei fywyd arferol gyda chroth ffug wedi’i gwneud o bledren bêl-droed yn llawn gwaed anifail.
Gan arddangos y sgìl o synfyfyrio, aeth Padman ymlaen i ennill gwybodaeth yn y maes trwy archwilio cynnyrch y cystadleuwyr, ymchwilio ar Google, siarad â gwerthwyr ac ymgynghori ag athro prifysgol. Sylwodd fod diffyg gofyniad hanfodol ar ei gynnyrch – amsugnad hylif hirach a mwy dibynadwy – a darganfyddodd y dylai ddefnyddio ffibr seliwlos yn lle cotwm crai.
Gwers #3: Nodi anghenion. Deall problem eich cwsmer cyn ei datrys.
Sgìl yw empathi sy’n ymwneud â deall emosiwn, amgylchiadau, bwriadau, meddyliau ac anghenion eraill. Gallu ydyw i gydymdeimlo â theimladau eraill oherwydd eich bod wedi bod mewn sefyllfa debyg eich hun.
Mae empathi yn sgìl hanfodol i entrepreneuriaid gan ei fod yn hanfodol ar gyfer gwir ddealltwriaeth o’ch cwsmer ac ar gyfer datblygu cysylltiad ystyrlon ag ef.
Tra na allai Padman, sy’n ddyn, wybod sut beth yw cael misglwyf, mae’n mynd i drafferth eithafol i ddeall y broblem. Roedd yn deall y rhwystrau o swildod, cywilydd a thabŵ wrth i fenywod drafferthu i ddarganfod ffordd gymdeithasol ddiogel o drafod eu cylchredau mislifol neu i archwilio opsiynau ar gyfer arferion a chynhyrchion mwy diogel.
Roedd hefyd yn deall bod y cynhyrchion presennol yn llawer rhy ddrud i fenywod gwledig i’w hystyried fel datrysiad hyfyw.
Gwers #4: Mae entrepreneuriaid yn cydweithio yn fwy nag ydynt yn cystadlu.
Mae cymuned yn chwarae rôl bwysig mewn entrepreneuriaeth. Mae’n hanfodol i entrepreneuriaid fod yn agored a chael yr awydd i ddysgu gan eraill. Rhaid iddynt ddefnyddio profiadau a rennir a chael grŵp cymorth o entrepreneuriaid o’r un anian sy’n awyddus i helpu ei gilydd gydag ymagwedd “gwneud iawn i rywun arall”, wrth iddynt oll gydweithio er lles pawb.
Byddai taith Padman yn anoddach pe na fyddai wedi gofyn am gymorth gan eraill. Roedd ei gyflawniadau yn bosib oherwydd y bobl yr aeth atynt, a wnaeth ei gefnogi a’i ganmol. Byddai darpar entrepreneuriaid yn synnu am ba mor hawdd yw cael cymorth.
Wrth gwrs, yn ogystal â derbyn cymorth, dylech hefyd geisio bod yn ddefnyddiol i eraill. Y bobl fwyaf llwyddiannus yn y rhan fwyaf o feysydd yw’r rhai sy’n rhoi i eraill – nid y rhai sy’n cymryd gan eraill.
Sylwodd Padman ymhellach fod ei ddull o annog mabwysiadu yn gamgymeriad; ni fyddai gwneud y cynnyrch cywir ac yn ei werthu ar y pris cywir yn ddigon ar eu pennau eu hunain i gael ei gynnyrch wedi’i dderbyn. Fel Padman, dylai pob entrepreneur gydweithio â phobl sy’n deall y cwsmeriaid ac sy’n gallu siarad eu hiaith ac felly gwneud y broses o fabwysiadu yn fwy effeithiol.
Gwers #5: Nid yw entrepreneuriaid yn cyfyngu eu hunain – rydych yn fwy galluog nag y credwch.
Pe byddai Padman wedi cyfyngu ei hun i’r hyn yr oedd cymdeithas yn ei ddisgwyl ganddo a sut y’i diffiniwyd, ni fyddai wedi cael yr effaith a ddymunwyd ganddo ac ni fyddai wedi newid miliynau o fywydau.
Nid yw entrepreneuriaid yn oedi cyn dysgu pethau newydd a phrofi syniadau newydd. Wynebodd Padman fyd o feirniadaeth, gwawdio a chynddaredd gan bawb, gan gynnwys ei wraig a’i fam ei hun. Fodd bynnag, cymaint oedd ei gred yn yr hyn yr oedd yn ceisio ei gyflawni na adawodd i unrhyw beth ei ddigalonni. Dyfalbarhaodd nes i’w syniadau dderbyn cydnabyddiaeth ryngwladol.
Am rywun a adawodd yr ysgol yn gynnar, heb gyhoeddusrwydd nac adnoddau, mae gwydnwch a natur benderfynol Padman yn adlewyrchiad gwir o’i werthoedd entrepreneuraidd.
Gwers #6: Ailddyfeisio’r modelau busnes ac aros yn berthnasol.
Mae modelau busnes yn angenrheidiol ond mae eu deall yn anodd.
Dechreuodd model busnes Padman gyda chynhyrchu padiau misglwyf fforddiadwy a, thrwy’r broses hon, darganfyddodd mai ei gymhwysedd craidd yw adeiladu’r peiriannau cynhyrchu padiau.
Roedd y model busnes gwasgaredig newydd hwn nid yn unig yn ymyrraeth ym maes iechyd, ond hefyd ynghylch creu a grymuso grwpiau hunangymorth lle gall padiau gael eu cynhyrchu gan gwmnïau cydweithredol a arweinir gan fenywod gan ddefnyddio ei beiriannau cost isel.
Yn y pen draw, daeth yn ffordd o ryddhau cymdeithas rhag yr agweddau cymdeithasol a diwylliannol negyddol tuag at y mislif.
Gwers #7: Peidiwch â diystyru pŵer arloesi darbodus sy’n seiliedig ar angen.
Yng nghyd-destun India, defnyddir y gair Jugaad i gyfeirio at y dull darbodus, hyblyg a chynhwysol o ddatrys problemau ac arloesi ar sail angen – dull sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr ond hefyd ei athrodi gan lawer.
Cafodd Padman sioc a her pan ddysgodd fod peiriannau padiau misglwyf a oedd wedi’u mewnforio yn costio miliynau ac na allai byth obeithio codi’r fath fuddsoddiad. Ni wnaeth roi’r gorau iddi ond rhannodd y broses o wneud padiau misglwyf yn dair gweithdrefn rad yr oedd yn hawdd eu hadeiladu ac y gellid eu hail-greu.
Dengys hyn nad oes angen buddsoddiad ymchwil a datblygu enfawr ar ddatblygiadau arloesol chwyldroadol er mwyn llwyddo.
Newid cymdeithasol
Mae gallu merch i reoli ei misglwyf mewn modd urddasol yn hawl ddynol sylfaenol. Mae defnyddio datrysiadau hylan nid yn unig yn helpu i ddatrys nifer o broblemau cysylltiedig ag iechyd a ffrwythlondeb, gan gynnwys lleihau cyfraddau marwolaeth mamau, y mae hefyd yn datgysylltu tabŵs beichus cysylltiedig â’r misglwyf, gan helpu merched felly i feithrin mwy o hunan-barch yn ystod cam mwyaf hanfodol eu datblygiad.
Mewn sawl rhan o’r byd, mae merched yn colli ysgol oherwydd diffyg padiau misglwyf. Dyna pam y gwelaf Padman nid yn unig fel enghraifft lwyddiannus o entrepreneuriaeth, ond fel asiant chwyldroadol o newid cymdeithasol.
Mae Dr Shumaila Yousafzai yn Ddarllenydd mewn Entrepreneuriaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd.
- Mawrth 2024
- Ebrill 2023
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Rhagfyr 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018