Skip to main content

Marchnata

Ai ni sy’n berchen ar ein heiddo digidol mewn gwirionedd?

23 Ebrill 2019
Yn aml, caiff cynhyrchion digidol fel e-lyfrau a cherddoriaeth ddigidol eu gweld fel pethau sy’n rhyddhau cwsmeriaid o’r baich o fod yn berchen arnynt.

Yn ein post diweddaraf, mae Dr Rebecca Mardon yn edrych ar y syniad o berchenogaeth mewn diwylliant cwsmeriaid lle cawn ein denu fwyfwy at eiddo digidol.

Mae Microsoft wedi cyhoeddi y bydd yn cau categori llyfrau ei siop ddigidol. Er y bydd meddalwedd ac apiau eraill yn parhau i fod ar gael drwy ffenestr y siop rithwir, ac ar gonsolau a dyfeisiau prynwyr, bydd cau’r siop e-lyfrau yn cael gwared ar lyfrgelloedd e-lyfrau cwsmeriaid. Ni fydd modd darllen unrhyw lyfrau digidol a brynwyd drwy’r gwasanaeth – hyd yn oed y rhai hynny a brynwyd flynyddoedd maith yn ôl – ar ôl mis Gorffennaf 2019. Er bod y cwmni wedi addo darparu ad-daliad llawn am bob e-lyfr a brynwyd, mae’r penderfyniad hwn yn codi cwestiynau pwysig ynghylch perchenogaeth.

Yn aml, caiff cynhyrchion digidol fel e-lyfrau a cherddoriaeth ddigidol eu gweld fel pethau sy’n rhyddhau cwsmeriaid o’r baich o fod yn berchen arnynt. Mae rhai pobl academaidd wedi cyhoeddi’r “oes fynediad”, lle nad yw perchenogaeth yn bwysig i gwsmeriaid mwyach a bydd yn dod yn amherthnasol yn fuan.

Rydym wedi gweld casgliad o fodelau seiliedig ar fynediad yn ymddangos yn y byd digidol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Nid yw bod yn berchen ar ffilmiau a cherddoriaeth yn bwysig i ddefnyddwyr Spotify a Netflix mwyach, oherwydd mae’r gwasanaethau hyn sy’n seiliedig ar danysgrifiad yn fwy cyfleus ac yn cynnig mwy o ddewis.”

Ond er bod y platfformau hyn yn cyflwyno eu hunain yn glir fel gwasanaethau, lle nad oes amheuaeth gan y cwsmer ynghylch pwy sydd â’r berchenogaeth, nid dyma’r achos gyda llawer o nwyddau digidol.

I ba raddau rydym yn berchen ar yr eiddo digidol yr ydym yn ei “brynu” felly?

Hawliau perchenogaeth tameidiog

Mae llawer o gynhyrchion digidol yn destun cytundebau trwydded defnyddiwr terfynol sy’n nodi dosbarthiad cymhleth o hawliau perchenogaeth.

Mae poblogrwydd defnydd ar sail mynediad wedi cuddio datblygiad amrywiaeth o gyfluniadau perchnogaeth tameidiog yn y byd digidol. Mae’r rhain yn peri i’r cwsmer feddwl fod ganddo berchenogaeth, wrth gyfyngu ei hawliau perchenogaeth. Mae cwmnïau fel Microsoft ac Apple yn rhoi’r opsiwn i gwsmeriaid “brynu” cynhyrchion digidol fel e-lyfrau. Yn aml, bydd cwsmeriaid yn tybio, wrth reswm, fod ganddynt hawliau perchenogaeth llawn dros y cynhyrchion y maen nhw’n talu amdanynt, yn yr un modd ag y mae ganddyn nhw hawliau perchenogaeth llawn dros y llyfrau ffisegol y maen nhw’n eu prynu yn eu siop lyfrau leol. 

Fodd bynnag, mae llawer o’r cynhyrchion hyn yn destun cytundebau trwydded defnyddiwr terfynol sy’n nodi dosbarthiad mwy cymhleth o hawliau perchenogaeth. Anaml iawn bydd y cytundebau cyfreithiol hir hyn yn cael eu darllen gan gwsmeriaid mewn perthynas â chynhyrchion a gwasanaethau ar-lein. A hyd yn oes os ydynt yn eu darllen, nid ydynt yn debygol o ddeall y telerau’n llawn.

“Wrth brynu e-lyfrau, yr hyn y mae’r cwsmer yn ei brynu’n aml mewn gwirionedd yw trwydded na ellir ei throsglwyddo i ddefnyddio’r e-lyfr mewn ffyrdd cyfyngedig.”  

Er enghraifft, efallai na fydd ganddyn nhw’r hawl i basio’r e-lyfr i ffrind pan fyddant wedi gorffen ei ddarllen, fel y byddent yn ei wneud gyda llyfr ffisegol. Yn ogystal, fel y gwelir yn achos Microsoft, mae’r cwmni’n cadw’r hawl i wrthod mynediad yn ddiweddarach. Yn aml, mae’r cyfyngiadau hyn ar berchenogaeth cwsmeriaid wedi’u hamgodio yn y nwyddau digidol eu hunain fel dulliau gorfodi awtomatig, sy’n golygu y gall y cwmni wrthod neu addasu’r mynediad yn hawdd.

Nid dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd. Mae llawer o achosion tebyg wedi digwydd sy’n codi cwestiynau ynghylch perchenogaeth. Prin fis yn ôl, gwnaeth y safle cyfryngau cymdeithasol MySpace gyfaddef iddo golli’r holl gynnwys a lanlwythwyd cyn 2016. Rhoddwyd y bai ar weinydd mudo diffygiol, a chollwyd gwerth blynyddoedd o gerddoriaeth, lluniau a fideos a grëwyd gan gwsmeriaid.

Y llynedd, ar ôl i gwsmeriaid gwyno am ffilmiau a oedd yn diflannu oddi ar Apple iTunes, datguddiodd y cwmni mai’r unig ffordd o sicrhau mynediad parhaus oedd i lawrlwytho copi lleol – a oedd, ym marn rhai, yn groes i egwyddor cyfleustra ffrydio. Yn ôl yn 2009, Amazon oedd yn y penawdau am fynd ati o bell i ddileu copïau o 1984 gan George Orwell a oedd wedi’u “lanlwytho’n anghyfreithlon” oddi ar ddyfeisiau e-ddarllen Kindle cwsmeriaid, er mawr ddigalondid a dicter i gwsmeriaid.

Camargraff o berchenogaeth

Mae angen i gwsmeriaid gael eu sensiteiddio fwy i’r cyfyngiadau ar berchenogaeth ddigidol.

Dengys fy ngwaith ymchwil nad yw llawer o gwsmeriaid yn ystyried y posibiliadau hyn, oherwydd maen nhw’n gwneud synnwyr o’u heiddo digidol ar sail eu profiadau blaenorol o feddu ar wrthrychau ffisegol, cyffyrddadwy.

“Pe bai eich siop lyfrau leol yn cau, ni fyddai’r perchennog yn curo ar eich drws yn mynnu cael gwared ar unrhyw lyfrau a brynwyd o’i silffoedd yn y gorffennol.”

Felly nid ydym yn disgwyl y senario hwn yng nghyd-destun ein e-lyfrau. Eto i gyd, mae’r byd digidol yn cyflwyno bygythiadau newydd i berchenogaeth na chawsom ein paratoi ar eu cyfer gan ein heiddo ffisegol.

Mae angen i gwsmeriaid gael eu sensiteiddio fwy i’r cyfyngiadau ar berchenogaeth ddigidol. Rhaid iddynt gael eu gwneud yn ymwybodol o’r ffaith na allant gymryd yn ganiataol y bydd ganddyn nhw’r un “perchenogaeth lawn” maen nhw wedi’i phrofi gyda’r mwyafrif o’u heiddo ffisegol wrth brynu cynhyrchion digidol. Fodd bynnag, mae gan gwmnïau gyfrifoldeb dros wneud y dulliau perchenogaeth tameidiog hyn yn fwy tryloyw.

Yn aml, bydd rheswm busnes rhesymegol dros gyfyngiadau o’r fath. Er enghraifft, gan fod gwrthrychau digidol yn gallu cael eu hatgynhyrchu’n ddi-ben-draw – yn gallu cael eu dyblygu’n gyflym a hawdd am gost fechan – mae cyfyngiadau ar rannu’n fodd o ddiogelu elw’r cwmnïau dosbarthu (Microsoft neu Apple, er enghraifft) a’r cynhyrchwyr cyfryngau (gan gynnwys awduron a chyhoeddwyr e-lyfr). Fodd bynnag, rhaid nodi’r cyfyngiadau hyn yn glir ac yn syml pan gânt eu gwerthu, yn hytrach na’u cuddio mewn jargon cyfreithiol cymhleth cytundebau defnyddiwr terfynol o dan derminoleg gyfarwydd “prynu”.

Mae Dr Rebecca Mardon yn ddarlithydd mewn Marchnata a Strategaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar The Conversation UK.