Skip to main content

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

“Anabledd Cyfreithiol?” Trawsnewid diwylliant y proffesiwn cyfreithiol

23 Hydref 2018
Yr Athro Debbie Foster a’r Arglwydd Holmes mewn trafodaeth ynghylch cau’r bwlch cyflogaeth ar gyfer pobl anabl | © Natasha Hirst

Yn ein postiad diweddaraf, mae’r Athro Debbie Foster yn sôn am ei phrosiect ymchwil cyfredol ynghylch profiadau gyrfa pobl ag anabledd sy’n gweithio ar draws y proffesiwn cyfreithiol, ac yn esbonio un o egwyddorion allweddol yr ymchwil – cyd-gynhyrchu.

Ers blwyddyn bellach, ochr yn ochr â’m cyd-ymchwilydd Natasha Hirst, rwyf wedi gweithio gydag Is-adran Cyfreithwyr ag Anableddau (LDD) Cymdeithas y Gyfraith i gyd-gynhyrchu ymchwil sy’n ceisio darganfod pam fod pobl ag anabledd fel petaent yn annisgwyl yn y proffesiwn cyfreithiol, a beth arall allai gael ei wneud i greu diwylliant o gynhwysiant a mynediad?

“Proffesiwn yw hwn sy’n ceisio hybu delwedd o gyfle cyfartal, tegwch a chynhwysiant, ond er bod ymchwil ar gael ynghylch grwpiau eraill sydd â nodweddion gwarchodedig o dan y gyfraith, ein prosiect ni yw’r cyntaf o’i fath ynghylch pobl ag anabledd.”

Rydym wedi cael ein hariannu gan y rhaglen Ymchwil Anabledd i Fyw a Dysgu Annibynnol (DRILL), ac yn casglu data mewn 3 chyfnod, gan ddefnyddio dulliau lluosog.

Cynhaliwyd wyth grŵp ffocws yng Nghymru a Lloegr gyda gweithwyr cyfreithiol proffesiynol oedd ag anabledd er mwyn canfod pa faterion roedden nhw’n teimlo oedd yn bwysig.  Sefydlwyd grŵp cyfeirio ymchwil oedd yn cynnwys cyfreithwyr, bargyfreithwyr a phara-gyfreithwyr ag anabledd i’n cynghori.  Ar sail canfyddiadau’r grŵp ffocws, cychwynnwyd ar gyfweliadau unigol ym mis Awst.  Bydd y rhain yn llywio cyfnod olaf casglu’r data – holiadur ar raddfa fawr.

Partneriaeth gyfartal

Mae cyd-gynhyrchu yn greiddiol i raglen DRILL a’r prosiectau y mae’n eu hariannu, gan sicrhau bod pobl ag anabledd yn arwain ac yn cyd-gynhyrchu dyluniad a chyflwyniad gwaith ymchwil mewn partneriaeth gyfartal ag academyddion.

Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gwaith ymchwil yn digwydd gyda model cymdeithasol anabledd yn y canol, ac yn cynhyrchu tystiolaeth a fydd yn cael effaith ar y blaenoriaethau a nodwyd gan bobl ag anabledd eu hunain.

Adnodd na fanteisiwyd arno

Yn ein barn ni mae pobl ag anabledd sy’n ceisio gweithio ac ymarfer o fewn y proffesiwn cyfreithiol yn adnodd na fanteisiwyd arno.

Yn ystod y gwaith ymchwil rwyf wedi cwrdd ag unigolion huawdl sydd â chymwysterau ardderchog, ac sy’n teimlo’n angerddol ynghylch cyfiawnder.

“Mae eu huchelgais, eu dyfalbarhad, eu penderfyniad, a’u sgiliau ardderchog o ran datrys problemau – a ddysgwyd yn aml o ganlyniad i reoli eu nam yn llwyddiannus – wedi golygu eu bod wedi cyflawni mewn amgylchedd hynod gystadleuol, yn aml er gwaethaf presenoldeb agweddau sy’n eu hanablu.”

Nodweddion yw’r rhain sy’n dwyn budd i gyflogwyr.

Fodd bynnag, mae ein canfyddiadau’n awgrymu bod profiadau cadarnhaol o gefnogaeth, agweddau da ac addasiadau rhesymol priodol yn digwydd ar hap i ryw raddau.

Y da, y drwg a’r afresymol

Mae’r Athro Debbie Foster a Natasha Hirst yn lansio eu prosiect gydag LDD | © Natasha Hirst

 Y da

Mae arwyddion cynnar bod enghreifftiau o arfer da yn dod o dan ddylanwad y sector lle ceir cyflogaeth rhywun, y math o gyfraith a arferir, maint a lleoliad y cwmni, lefel y swydd a rôl cymalau cydraddoldeb mewn contractau caffael.

Mae enghreifftiau cadarn o ymddygiad, uwch-gydweithwyr cefnogol a phresenoldeb mentoriaid a rhwydweithiau yn bwysig i alluogi datblygiad gyrfa.

Y drwg

Soniodd cyfran fawr o gyfranogwyr y grŵp ffocws am achosion o gamwahaniaethu oedd yn gysylltiedig â’u nam.

O gyfuno hyn â dealltwriaeth wael o addasiadau rhesymol a sut gall namau a chyflyrau iechyd amrywio, cawsom fod amharodrwydd i ddatgelu i gyflogwyr, yn arbennig ymhlith gweithwyr cyfreithiol proffesiynol gyrfa gynnar oedd â namau anweladwy, a bod hynny yn ei dro yn atal unigolion rhag cael mynediad i gefnogaeth.

Mae arferion gweithio anhyblyg, sy’n aml wedi dyddio, absenoldeb dylunio llawn dychymyg mewn swyddi, ynghyd ag amharodrwydd i ddefnyddio technoleg newydd yn llawn, yn cyfyngu ar gyfleoedd pobl anabl a datblygiad eu gyrfa.

A’r afresymol

Mae’r proffesiwn yn gyffredinol heb offer da i ragweld addasiadau rhesymol.  Fodd bynnag, mae hyn yn arbennig o drafferthus adeg dechrau gyrfa oherwydd nad oes contractau hyfforddi rhan amser neu hyblyg ar gael.

© Natasha Hirst

“Mae benywod ym maes y gyfraith wedi ymgyrchu ers meitin i sicrhau newidiadau i arferion gwaith hyblyg, a gallwn weld posibiliadau i symud ymlaen gyda buddiannau pwysig sy’n gorgyffwrdd petai’r grwpiau hyn yn gweithio gyda’i gilydd.”

Tystiolaeth ac atebion

Ar hyn o bryd rydym ni’n dadansoddi data cyfoethog a gasglwyd mewn cyfweliadau un i un gyda chyfreithwyr, bargyfreithwyr, barnwyr, para-gyfreithwyr a hyfforddeion sydd ag anabledd.  Bydd hyn yn darparu darlun llawer mwy cynhwysfawr o’r problemau a wynebir ar draws y proffesiwn, ond bydd hefyd yn helpu i ganfod atebion posibl, yr ydym ni a’n sefydliad partner, LDD Cymdeithas y Gyfraith, yn bwriadu eu harchwilio ymhellach gyda chyfryngau newid allweddol yn y proffesiwn.

Cymerwch ran.

Mae DRILL yn cael ei ariannu gan Gronfa’r Loteri Fawr, a’i chyflwyno gan Disability Rights UKDisability Action (yng Ngogledd Iwerddon), Inclusion Scotland ac Anabledd Cymru.

Mae Deborah Foster yn Athro Cysylltiadau Cyflogaeth ac Amrywiaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae Natasha Hirst yn ymchwilydd ac yn newyddiadurwr ffotograffig annibynnol.

Seiliwyd y postiad hwn ar eitem a ymddangosodd yn wreiddiol ar Scope’s Online Community.