Skip to main content

Polisi

Ydy’r llanw’n troi o ran rheoleiddio Facebook a Google?

6 Tachwedd 2018
Hyd yn oed os bydd Brexit yn digwydd, na fydd y Deyrnas Unedig yn gallu osgoi’r llanw rheoliadol.

Yn ein postiad diweddaraf, mae’r Athro Leighton Andrews yn dadlau mai cyfleustodau modern – a monopolïau naturiol – yw Facebook a Google, a bod angen rheoleiddiwr cyfleustodau arnyn nhw.

Gadewch i mi ddechrau gyda dau ddyfyniad, chwe mis a chyfandir ar wahân.  Mae’r cyntaf yn eiddo i brif weithredwr cyfredol OFCOM, a ddywedodd wrth Gynhadledd RTS Caergrawnt y llynedd, er ei bod hi’n credu mai cwmnïau cyfryngau oedd Facebook a Google, nad oedd hi’n “meddwl mai rheoleiddio yw’r ateb, oherwydd rwy’n credu bod y ffin rhwng rheoleiddio a sensoriaeth ar y rhyngrwyd yn un denau iawn.” Chwe mis yn ddiweddarach, mewn cyfweliad gyda CNN, dywedodd sylfaenydd Facebook, Mark Zuckerberg, “Dwy ddim yn siŵr na ddylen ni gael ein rheoleiddio.”

Mae sail dda dros gredu ein bod wedi tystio i newid ym maes rheoleiddio, bod hynny wedi mynd ymhell y tu hwnt i bolisi’r cyfryngau, ac y gallai cynigion rheoleiddio Ewrop ddatblygu’n ‘safon aur’ ar gyfer rheoleiddio byd-eang.  Ac mae arwyddion, hyd yn oed os bydd Brexit yn digwydd, na fydd y Deyrnas Unedig yn gallu osgoi’r llanw rheoliadol.

Rheoleiddio yn y byd gwleidyddol

Roedd Maniffesto’r Ceidwadwyr yn 2017, sydd bellach yn cael ei weithredu trwy’r Siarter Ddigidol, y Papur Gwyrdd ar Ddiogelwch ar y Rhyngrwyd a mesurau eraill, yn cynnwys cyfres o gynigion, gan gynnwys sefydlu’r fframwaith rheoliadol yn y gyfraith.

Roedd pwyslais y maniffesto yn benodol iawn: “Mae rhai pobl yn dweud nad mater i’r llywodraeth yw rheoleiddio technoleg a’r rhyngrwyd.  Rydym ni’n anghytuno.”

Yn wir, erbyn Gorffennaf 2018, gellid dadlau bod hyd yn oed Ofcom wedi newid ei safbwynt i gefnogi rheoleiddio.

Yn y gorffennol, mae’r Senedd wedi rheoleiddio i gadw rheolaeth ar bŵer monopoli.

Heddiw, mae’r drafodaeth ynghylch rôl cyfryngwyr gwybodaeth fel Facebook, yn dilyn pwnc llosg Cambridge Analytica a’r hyn a ddatgelwyd ynghylch ymyrraeth sylweddol gan Rwsia mewn etholiad a refferendwm, a ddaeth i’r amlwg trwy newyddiaduraeth ymchwiliol fanwl ac ymchwil academaidd fanwl, yn cwmpasu amrywiaeth o faterion sy’n codi rôl sofraniaeth gwladwriaethau yn hanfodol a hefyd reoleiddio yn y byd gwleidyddol.

Mae Facebook a Google yn fwy na chwmnïau cyfryngau.  Maen nhw’n beiriannau hysbysebu, yn rheolwyr data, yn ddarparwyr gwasanaethau gwybodaeth ac yn ddatblygwyr algorithmau.  Ac maen nhw’n symud i mewn i amrywiaeth o feysydd newydd, megis deallusrwydd artiffisial (AI) a realiti rhithiol neu estynedig, gan ddefnyddio’r refeniw maen nhw’n ei ennill drwy hysbysebu.

“Mae eu pŵer corfforaethol yn ddigynsail.  Maen nhw wedi prynu mentrau cyfnod cynnar a allai fygwth eu sefyllfa yn y pen draw, ac mae lefel eu dylanwad mewn perygl o atal arloesedd.  Yn eu prif feysydd, gellid dadlau eu bod bellach yn fonopolïau naturiol.”

Mae rôl effeithiau rhwydwaith a darbodion maint sy’n cael eu gyrru gan Ddata Mawr yn atgyfnerthu ac yn crynhoi eu pŵer fel symudwyr cyntaf.  Mae’r costau mynediad i gyflenwyr newydd mor uchel nes bod yn rhwystr.  Mae eu gallu i gopïo ac efelychu’r gwasanaethau newydd a gynigir gan gystadleuwyr, a hynny ar gost isel, yn lleihau effeithiau cystadleuaeth.

Mae’n anodd i ddefnyddwyr newid neu ymadael yn achos Facebook, gan fod mwyafrif eu ffrindiau ar y llwyfan hwnnw o bosib, ac yn achos Google, mae lefel ei ddylanwad ym maes data yn golygu ei fod yn anodd i unrhyw beiriant chwilio arall nesáu at yr un ansawdd gwasanaeth.  Mae rhannu data ar draws llwyfannau oddi mewn i grŵp o gwmnïau megis Facebook, Instagram a WhatsApp, yn ychwanegu at eu dylanwad.

Cyfleustodau Gwybodaeth

Rwy’n awgrymu creu categori newydd, sef ‘Cyfleustodau Gwybodaeth’ ar gyfer marchnadoedd penodol megis cyfryngau chwilio a chymdeithasol, gan dynnu ar gynigion i ‘ddarparu sylfaen statudol’ ar gyfer fframwaith rheoliadol newydd a awgrymwyd gan un o reoleiddwyr blaenorol Ofcom.

Byddai Cyfleustodau Gwybodaeth yn cael eu trwydded i weithredu yn y maes, byddai ganddynt reoliadau adrodd penodol yng nghyswllt y rheoleiddiwr, a fyddai â phwerau ymyrraeth gynhaliol cryf.  Y ‘Cyfleustodau Gwybodaeth’ amlycaf – y gellid mesur eu dylanwad yn nhermau eu pŵer sylweddol yn y farchnad, megis eu cyfran o’r marchnadoedd hysbysebu ar-lein neu symudol – fyddai â’r dyletswyddau adrodd llymaf.

Rwy’n awgrymu creu categori newydd, sef ‘Cyfleustodau Gwybodaeth’ ar gyfer marchnadoedd penodol megis cyfryngau chwilio a chymdeithasol.

Byddai’r cynigion hyn yn cyd-fynd â gosod ‘dyletswydd gofal’ ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol, fel mae eraill yn cynnig.  Yn achos Facebook, mae ei sylfaenydd wedi cyfeirio ato’n rheolaidd fel ‘cyfleustod cymdeithasol’, ac yn ei faniffesto 600-gair y llynedd, cyfeiriodd ato fel ‘seilwaith cymdeithasol’ ar sawl achlysur.  Efallai dylem ni dderbyn gair Zuckerberg a gweld Facebook fel cyfleustod cymdeithasol a math o seilwaith cymdeithasol.  Wedi’r cyfan, mae cyfleustodau’n cael eu rheoleiddio.

Yn y gorffennol, mae’r Senedd wedi rheoleiddio i gadw rheolaeth ar bŵer monopoli.  Er enghraifft, roedd Deddf Telegyfathrebu 1984, a gyflwynwyd pan gafodd BT ei breifateiddio, yn cydnabod y perygl y gallai cymeriad mor bwerus ddefnyddio’r pŵer hwnnw i atal cystadleuaeth, a rhoi fframwaith rheoliadol cryf yn ei le yn sgîl hynny.

Mae sefyllfa Facebook a Google yn wahanol, ond maen nhw’n tra-arglwyddiaethu yn eu meysydd ac mae ganddyn nhw rym sylweddol yn y farchnad.

“Mae’r posibilrwydd y gallen nhw gael eu hecsbloetio gan wladwriaethau gelyniaethus, fel y gwelsom yn etholiad Arlywydd yr UD ac yn refferendwm yr UE yn y Deyrnas Unedig, yn golygu y dylid eu gweld fel seilwaith cymdeithasol hanfodol.”

Byddai angen sicrhau rheoleiddiwr arweiniol yng nghyswllt y fframwaith newydd hwn ar gyfer Cyfleustodau Gwybodaeth, a dylai fod yn ffurfiol gyfrifol hefyd am gynnull cyfarfodydd rheolaidd gyda rheoleiddwyr eraill perthnasol.

Heddiw, nid yw rheoleiddio cyfryngau cymdeithasol yn fater i’r cyfryngau bellach, yn hytrach mae’n fater cymdeithasol.

Dyfyniad yw hwn o “Anti-social media? The effect on Journalism and Society”, a olygwyd gan Mair, Clark, Fowler, Snoddy a Tait (Abramis), ac sy’n cael ei lansio yng Nghlwb Frontline ar 26 Hydref.  Ymddangosodd yn wreiddiol ar Open Democracy UK.

Mae Leighton Andrews yn Athro Ymarfer ac Arloesedd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yn Ysgol Fusnes Caerdydd, yn un o gyn-Weinidogion Llywodraeth Cymru, ac yn bennaeth ar faterion cyhoeddus yn y BBC gynt.