Skip to main content

Entrepreneuriaeth

Her Cynhyrchiant y Deyrnas Unedig – Entrepreneuriaid yn achub y dydd?

16 Hydref 2018

Yn ein postiad diweddaraf, esboniodd yr Athro Andrew Henley sut y gwnaeth tîm o ymarferwyr economeg, addysg a sgiliau, iechyd a lles, cludiant a seilwaith, a busnes a menter, fynd i’r afael â’r heriau cynhyrchiant sy’n wynebu economi’r Deyrnas Unedig.

Mae’r hen ddywediad y bydd y gweithiwr cyfartalog o Almaenwr wedi cynhyrchu cymaint erbyn amser cinio dydd Iau ag y bydd y gweithiwr Prydeinig yn ei gynhyrchu ar hyd yr wythnos yn crynhoi’r her cynhyrchiant sy’n wynebu economi’r Deyrnas Unedig.

Nid yw’r her yn rhywbeth sy’n unigryw i Brydain, ond mae wedi mynd yn arbennig o berthnasol ers yr argyfwng ariannol byd eang ddeng mlynedd yn ôl.

Ceir dau ddimensiwn i’r her.

  1. Y bwlch Cynhyrchiant – Dros gyfnod hir mae gwelliannau blynyddol o ran cynhyrchiant wedi bod llawer is yn y Deyrnas Unedig (ac yn yr Unol Daleithiau) nag mewn economïau Ewropeaidd eraill.
  2. Y duedd – Mae cynhyrchiant wedi aros yn ei unfan yn y Deyrnas Unedig yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf, ac o ganlyniad i hynny mae’r economi wedi’i chael yn anodd darparu gwelliannau i weithwyr o ran lefelau go iawn eu cyflogau.

Ar wahân i’r cwestiwn sylfaenol a yw cynhyrchiant yn llinyn mesur defnyddiol mewn byd sydd ag obsesiwn am dwf, ceir ystod eang o esboniadau posibl i esbonio pam mae twf bron wedi diflannu.

Yr unig bwynt y consensws yn ei gylch yw nad oes unrhyw gonsensws

Er mwyn ceisio a deall hyn mae’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol wedi comisiynau Rhwydwaith Gwybodaeth am Gynhyrchiant newydd yn ddiweddar.

“Dyma dîm rhyngddisgyblaethol gyda phrofiad ar draws dadansoddiad economaidd, yn ogystal ag addysg a sgiliau, iechyd a lles, cludiant a seilwaith, a busnes a menter.”

Mae’n cynnwys nifer o aelodau’r Athrofa Busnesau Bach ac Entrepreneuriaeth (ISBE), gan fy nghynnwys i.

Mae yna ddywediad arall sef, os ydych yn holi’r holl economegwyr yn y byd, na fyddwch yn dod i gasgliad eto. Ni fu hyn erioed yn fwy gwir mewn perthynas â’r broblem cynhyrchiant – yr unig bwynt y ceir consensws yn ei gylch yw nad oes consensws ynglŷn â’r hyn sy’n achosi’r broblem (neu hyd yn oed os mai anghysondeb ystadegol sy’n codi o ddata gwael yw’r broblem).

Hyd yn hyn, gwaith rhwydwaith y CYEC oedd cynhyrchu nifer o adolygiadau tystiolaeth, sydd ar gael ar-lein ar ffurf drafft erbyn hyn, ond i’w gyhoeddi ar ffurf llyfr terfynol yn y flwyddyn nesaf.

Plymio’n ddwfn i ddata

Mae adroddiad diweddar gan Sefydliad Byd-eang McKinsey hefyd yn darparu dadansoddiad cynhwysfawr iawn, sy’n amlygu’r problemau sy’n ymwneud â phatrymau galw newidiol a phatrymau buddsoddi mewn busnesau ac arloesedd, yn ogystal â “phlymio’n ddwfn” i nifer o sectorau busnes byd-eang allweddol.

“Mae dadansoddiad McKinsey yn canolbwyntio’n fawr ar arwyddocâd y corfforaethau mawr ac nid oes ganddo lawer i’w ddweud am bwysigrwydd arloesi a chynhyrchiant yn y sector busnesau bach.”

Mae hyn yn rhyfedd o ystyried pwysigrwydd rhifiadol Busnesau bach a chanolig eu maint (BBaCh) a chyfraniad busnesau bach a chanolig at gyfanswm cyflogaeth ac allbwn. Hefyd, nid oes gan yr adroddiad lawer i’w ddweud am pam mae perfformiad cynhyrchiant i bob golwg yn amrywio llawer ar sail ranbarthol o fewn gwlad benodol.

Gwella ymgysylltiad a lles gweithwyr

Yn fy mhrofiad i, mae Busnesau Bach a Chanolig yn amrywio’n fawr o ran eu hagweddau tuag at arloesedd a thwf, ac o ran gallu arwain eu perchnogion-reolwyr. Mae hyn yn rhywbeth y mae swyddogion polisi ac ystadegwyr y DU yn yr Adran Busnes, Ynni a Diwydiant a Strategaeth Ddiwydiannol a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dechrau ei gydnabod ac ymchwilio iddo, ac mae’n ganolog i Strategaeth Ddiwydiannol y DU a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Mae un ffocws wedi bod ar bwysigrwydd posibl arferion rheoli penodol ar gyfer perfformiad busnes, megis mabwysiadu Dangosyddion Perfformiad Allweddol clir, arferion gwella parhaus neu arferion adnoddau dynol sy’n hyrwyddo ac yn gwobrwyo cyflogeion ar sail perfformiad.

Fodd bynnag, yn y cyd-destun busnesau bach a microfusnesau, mae perfformiad busnes yn debygol o fod yn ymwneud yn fwy o lawer â meddylfryd ac arddull perchenogion busnes, ac i ba raddau y gellir defnyddio sgiliau arwain i wella ymgysylltiad a lles gweithwyr. Ond mae hwn yn bwnc lle mae llawer llai o dystiolaeth ar gael i’w thynnu arni.

“Mae angen i ni hefyd wybod llawer mwy am yr hyn sy’n ffurfio graddio uwch o ran busnes bach llwyddiannus (twf cyflym parhaus ar ôl y cyfnod cychwyn), yn hytrach na’r ffactorau sy’n cyfrannu at gyfraddau cychwyn gwell.”

Mae diffyg busnesau newydd yn y DU sy’n arwain at raddfa uwch, yn arbennig i ffwrdd o Lundain a De-ddwyrain Lloegr. Yr unig ganfyddiadau cyson yw bod cwmnïau sy’n graddio’n uwch yn tueddu i gael eu harwain gan ddynion canol oed, addysgedig, heb fawr ddim i’w wneud â nodweddion y cwmnïau eu hunain.

Llenwi’r bylchau

Mae tîm y Rhwydwaith Mewnwelediad Cynhyrchiant yn awyddus i ganfasio am feddyliau a thystiolaeth, ac mae ganddynt gyllid ar gyfer prosiectau i gefnogi syniadau ymchwil arloesol. Byddwn yn dadlau bod deall rôl busnesau bach ac entrepreneuriaeth wrth gyfrannu at dwf busnes o ansawdd uchel yn allweddol i unrhyw ddealltwriaeth o gynhyrchiant economi-gyfan.

Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae llawer o fylchau yn ein gwybodaeth – bylchau sy’n ymwneud â diffyg dyfnder ac integreiddio mewn safbwyntiau damcaniaethol ar ddatblygiad busnesau bach, ac â chyfyngiadau yn y sail dystiolaeth ac ansawdd yr adnoddau data sydd ar gael i ymchwilwyr.

Mae Andrew Henley yn Athro Entrepreneuriaeth ac Economeg ac yn Gyfarwyddwr Ymgysylltiad ac Effaith Ymchwil yn Ysgol Fusnes Caerdydd.

Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol yn e-fwletin y Sefydliad Busnesau Bach ac Entrepreneuriaeth.