Skip to main content

Polisi

A yw cronfa £1.6 biliwn Theresa May ar gyfer trefi Lloegr yn ddigon i ail-gydbwyso economi anghytbwys Prydain?

27 Mawrth 2019
Mae beirniaid wedi disgrifio’r gronfa fel llwgrwobr, ymgais achub, a chyfle arall i lithro ymhellach tu ôl.

Yn ein hadroddiad diweddaraf, mae’r Athro Calvin Jones yn ystyried rhinweddau ‘Stronger Towns Fund’ arfaethedig Llywodraeth y DU a’i goblygiadau ar gyfer rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y DU.

Bydd trefi yn Lloegr gydag economïau gwan yn derbyn £1.6 biliwn o gyllid dros chwe blynedd. Datganodd Llywodraeth y DU ei bod wedi creu “cronfa trefi cryfach” – a bydd y gyfran helaethaf ohoni yn cael ei dosbarthu i drefi yng ngogledd a chanolbarth Lloegr. Mae beirniaid wedi canolbwyntio ar fwriad tybiedig y gronfa fel “llwgrwobr” i ennill pleidleisiau Aelodau Seneddol Llafur dros gytundeb Theresa May i adael yr UE, ac ar faint annigonol y gronfa.

Gan adael y feirniadaeth gyntaf am y tro, mae peth hygrededd i’r ail: mae £1.6 biliwn yn swnio fel swm mawr ar gyfer prosiect unigol (neu o leiaf ar gyfer un y tu allan i Lundain). Ond swm bychan iawn ydyw i gyflawni rhaglen waith “drawsffurfiol” mewn nifer o lefydd dros nifer o flynyddoedd – yn enwedig pan mae’r lleoedd hynny eisoes wedi colli llawer mwy na hynny yn ystod y degawd diwethaf o lymder, ac sy’n debygol i golli biliynau pellach mewn cymorth gan yr UE os a phryd bydd y DU yn gadael yr undeb.

Rhagfynegwyd yr anawsterau y bydd y gronfa yn eu hwynebu gan berfformiad gwael cronfeydd adfywio yr UE yng Nghymru. Yno, mae £1.6 biliwn (ar ben gyllid ychwanegol gan ffynonellau o’r DU) wedi ei ganoli ar ardal lai gyda phoblogaeth lai o lawer rhwng 2014 a 2020. Mae’r cyllid Ewropeaidd hwn yn adeiladu ar brosiectau o faint tebyg a gynhaliwyd rhwng 1999 a 2006, a rhwng 2007 a 2013.

“Ond ychydig iawn a gyflawnwyd gan y buddsoddiadau hyn mewn isadeiledd, cynhyrchedd, sgiliau ac ymchwil a datblygu o ran gwella ffyniant yr ardal dargededig, o gymharu â Chymru yn ei chyfanrwydd – heb sôn am weddill y DU.”

Heb y fath gyllid, efallai y byddai ardaloedd megis y Cymoedd wedi llithro ymhellach byth y tu ôl. Fodd bynnag, mae’r profiad diweddar hwn yn codi’r cwestiwn a allai’r gronfa trefi cryfach ddod â ffyniant i drefi cymharol ddifreintiedig yn Lloegr.

System anghytbwys

System economaidd strwythurol anghytbwys iawn y DU.

Er nad yw’r llywodraeth wedi rhoi rhyw lawer o fanylion eto ynghylch y gronfa, ymddengys ei bod yn ail-bobi hen agweddau ar adfywio sydd eisoes wedi profi’n annigonol i ‘achub’ y lleoedd tlotaf dros y degawd diwethaf. Er enghraifft, bwriedir i’r gronfa gael ei gweinyddu gan Bartneriaethau Menter Lleol (LEPs), y grwpiau dan arweiniad busnes sy’n cyflawni datblygiad economaidd ar draws Lloegr, sydd wedi eu beirniadu yn hallt am eu diffyg effeithlonrwydd, atebolrwydd, a chynwysoldeb. Yn amlwg, mae’n werth cwestiynu effeithlonrwydd dosbarthu adnoddau adfywio i gynghreiriau twf lleol megis LEPs.

Mae sylwebwyr hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith y bydd system economaidd strwythurol anghytbwys y DU – sy’n ffafrio buddsoddiad yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr yn drwm iawn – yn peri i gyfalaf dynol, naturiol ac eraill “ollwng” o lefydd tlawd, ni waeth pa faint o arian adfywio a deflir atynt.

Yn rhesymol, mae hyn o fudd i bobl gefnog ar y brig, megis datblygwyr eiddo a’r biwrocratiaid sy’n gweinyddu’r fath gronfeydd. Bydd busnesau newydd yn gadael am farchnadoedd cyfoethocach, neu fe gânt eu prynu gan fusnesau mwy; camfanteisir ar bŵer adnewyddadwy gan gorfforaethau cenedlaethol neu ryngwladol gydag ychydig o fudd i ardaloedd lleol; a flwyddyn ar ôl blwyddyn bydd y rhan fwyaf o ranbarthau’r DU yn colli eu graddedigion gorau i’r de-ddwyrain.

O ddefnyddwyr i gymunedau

Nid yw lles yr unigolyn yn ddibynnol ar symbolau statws, ond ar well cysylltiadau gyda’r teulu a chymunedau lleol bywiog.

Mae dewisiadau amgen yn dod i’r amlwg ar lefel leol. Mae llawer o drafod wedi bod ar ddull yr “economi sylfaenol”, sy’n ceisio ail-ganolbwyntio’r sylw ar wella’r gweithgareddau beunyddiol – gan gynnwys gofal cymdeithasol, manwerthu, masnachu a chynhyrchu – sy’n darparu gwasanaethau a chyflogau preifat a chyhoeddus yn lleol.

Cynigir Model Preston – lle mae nifer o sefydliadau “angor” o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn llwyddo i gaffael nwyddau a gwasanaethau oddi wrth fusnesau lleol er mwyn hybu’r economi – fel enghraifft o’r hyn sy’n bosib.

Mae beirniadaethau mwy radical o strategaethau adfywio,  sydd wedi eu eilio yn gyfan gwbl ar dystiolaeth, yn awgrymu y dylai dulliau newydd symud oddi wrth ffyniant economaidd tuag at les fel eu nod terfynol, yn enwedig os yw ffyniant yn galluogi gor-ddefnydd, sy’n ffactor allweddol mewn newid hinsawdd a chwalfa ecolegol.

“Dylid canfod, yn hytrach, fodel newydd (neu ailddarganfod un hŷn) lle nad yw lles yr unigolyn yn ddibynnol ar symbolau statws megis tai mawr, mwy nag un car a nwyddau traul eraill – ond ar well cysylltiadau gyda’r teulu a chymunedau lleol bywiog, a chael mwy o amser i’w mwynhau nhw.”

Byddai unrhyw ymdrechion lleol i wella’r system yn fwy effeithiol, wrth gwrs, pe caent eu cyplysu ag ail-strwythuriad bwriadol o system economaidd y DU o’r canol. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae’r bwcedi o arian sydd at ddefnydd llywodraeth y DU yn parhau i gael eu gwario mewn ffyrdd sy’n rhewi anghydraddoldeb rhanbarthol mewn cynhyrchiant a chynhyrchedd, cyfoeth a symudiant llafur o fewn y DU.

Er enghraifft, mae gwariant cyhoeddus ar ymchwil yn parhau i ganolbwyntio ar y “triongl euraid”, sef Rhydychen, Caergrawnt a Phrifysgolion Llundain, ac mae gwariant amddiffyn yn gogwyddo mewn modd tebyg tuag at dde-ddwyrain Lloegr.

Yr un mor bryderus yw’r ffaith bod gwariant ar isadeiledd yn y DU yn dal i ffafrio Llundain ar draul rhanbarthau a gwledydd eraill – i raddau sy’n peri syndod. Erys amheuon o hyd – wedi eu cyfnerthu gan ganlyniadau penderfyniadau gwario mawr – bod llywodraeth gyfredol y DU, fel y rheiny a’i rhagflaenodd, yn credu bod ffawd economi’r DU yn ddibynnol ar berfformiad Llundain.

Wedi’r cyfan, os oedd y prosiect rheilffordd cyflym £56 biliwn i fod i helpu Canolbarth a Gogledd Lloegr, oni fyddai gwaith adeiladu arno wedi cychwyn ym mhen Leeds?

Yr Athro Calvin Jones yw’r Dirprwy Ddeon ar gyfer Gwerth Cyhoeddus a Chysylltiadau Allanol yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar The Conversation UK.