Y tu hwnt i’r allbwn: Beth all ymarferwyr addysg uwch ei ddysgu o greu ar y cyd?
10 Medi 2026
Erthygl blog gan y dim Cymrodoriaeth Addysg yn yr Academi Dysgu ac Addysgu.
Sut gall prifysgolion greu cyfleoedd dysgu proffesiynol sydd wir yn ymateb i anghenion cydweithwyr? A sut gellir defnyddio’r arbenigedd sy’n bodoli yn y sefydliad i gefnogi’r broses o wella dysgu ac addysgu?
Ers 2023, mae Rhaglenni Cymrodoriaeth Prifysgol Caerdydd wedi ystyried y cwestiynau hyn drwy gyfres o ddigwyddiadau creu ar y cyd sy’n dod â chyfranogwyr y Rhaglenni Cymrodoriaeth ynghyd i fynd i’r afael â heriau addysgol ar y cyd a datblygu adnoddau ymarferol.
Mae’r digwyddiad diweddaraf yn cynnig enghraifft o sut y gall llais y cyfranogwyr fod yn sail i ddysgu proffesiynol ystyrlon. Amlygodd adborth gan gydweithwyr awydd i ystyried heriau sy’n gysylltiedig ag ymddygiad yn fanylach. Mewn ymateb, yn hytrach na datblygu adnoddau’n ganolog, gwahoddodd tîm y Rhaglenni Cymrodoriaeth gymuned ehangach y Gymrodoriaeth i gydweithio i fynd i’r afael â’r angen hwn a nodwyd.
Mae’r syniad bod dysgu yn gymdeithasol yn ei hanfod yn sail i’r dull hwn. Mae Mercer (2000) yn disgrifio rhyng-feddwl fel y broses lle mae pobl yn defnyddio deialog i feithrin dealltwriaeth gyffredin. Yn hytrach na gweld arbenigedd fel rhywbeth sy’n perthyn i grŵp bach o arbenigwyr, mae dulliau cydweithredol yn cydnabod bod gwybodaeth werthfawr yn bodoli ym mhob rhan o gymuned broffesiynol.
Beth all ymarferwyr addysg uwch ei ddysgu o’r dull hwn?
- Dechreuwch gydag anghenion dilys ymarferwyr. Yn aml, mae dysgu proffesiynol fwyaf ystyrlon pan gaiff ei lunio gan heriau sy’n codi’n uniongyrchol o ymarfer yn hytrach nag agendâu datblygu sydd wedi’u pennu ymlaen llaw.
- Creu cyfleoedd i feithrin gwybodaeth ar y cyd. Mae cynllunio mannau strwythuredig ar gyfer deialog, myfyrio ac ymholi yn galluogi cydweithwyr i rannu arbenigedd, herio rhagdybiaethau a datblygu dealltwriaeth ar y cyd o faterion addysgol cymhleth.
- Cydnabod cydweithwyr fel cyd-grewyr gwybodaeth broffesiynol. Yn hytrach na gweld arbenigedd fel rhywbeth sy’n perthyn i grŵp bach o arbenigwyr, mae dulliau cydweithredol yn defnyddio profiadau a dealltwriaeth sy’n bodoli ym mhob rhan o’r gymuned broffesiynol.
Fel gyda’r allbynnau o ddigwyddiadau creu ar y cyd tebyg yn 2024 a 2025, bydd yr adnoddau a gynhyrchir drwy’r digwyddiad hwn yn dod yn rhan o ddarpariaeth barhaus Rhaglenni’r Gymrodoriaeth, gan sicrhau bod y ddealltwriaeth a’r arbenigedd a geir gan gyfranogwyr yn parhau i gefnogi carfanau yn y dyfodol. Ar yr un pryd, mae’r broses wedi cryfhau cysylltiadau ym mhob rhan o gymuned y Gymrodoriaeth, gan ddangos sut y gall creu ar y cyd fod yn fecanwaith pwerus ar gyfer dysgu ar y cyd, meithrin capasiti a gwella addysgol.
Dyma ddywedodd un o’n crewyr ar y cyd am gymryd rhan yn nigwyddiad creu ar y cyd 2026:
“Rhoddodd y gweithdy gyfle i staff edrych ar broblemau a brofwyd ac ymgysylltu ag eraill mewn adrannau a phynciau eraill wrth weithio tuag atyn nhw. Gall deall senarios o wahanol safbwyntiau arwain at liniaru, adnabod atebion realistig a ffyrdd amgen o wneud pethau. Roedd yn brofiad cadarnhaol iawn … Fel rhywun sy’n gweithio yn y gwasanaethau proffesiynol, dydw i ddim yn defnyddio fy sgiliau addysgu blaenorol i’r un graddau bellach. Felly, roedd hi’n wych gwybod bod fy mhrofiad a’m gwybodaeth yn dal i fod o werth a bod modd eu defnyddio mewn cyd-destun ychydig yn wahanol”.
Edrychwn ymlaen at wahodd cydweithwyr i’n digwyddiad creu ar y cyd yn yr haf 2027! I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw lle, gweler y cynnig DPP ar gyfer 26/27
Cyfeirnod: Mercer, N. (2000) Words and Minds: How We Use Language to Think Together. (Llundain: Routledge
Rhagor o ddeunydd darllen: Bovill, C. (2019). A co-creation of learning and teaching typology: What kind of co-creation are you planning or doing?. International Journal for Students as Partners, 3(2), 91–98. https://doi.org/10.15173/ijsap.v3i2.3953