Skip to main content

Addysg Ddigidol

Fy Interniaeth Haf gyda’r Academi Dysgu ac Addysgu

11 Medi 2026
Two people's profiles in a collage

Ysgrifennwyd gan Josh Done (myfyriwr Ffiseg yn yr ail flwyddyn) a Marianna Majzonova (Arbenigwr Addysg Ddigidol yr Academi Dysgu ac Addysgu).

Myfyrdod Josh

Yr haf hwn, fe ges i’r cyfle i weithio yn Intern Llythrennedd DA a Digidol yn yr Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caerdydd. Ar ddechrau’r interniaeth, roedd gen i ddiddordeb mewn cael profiad o weithio mewn cyd-destun proffesiynol a datblygu sgiliau y gallwn i eu defnyddio y tu hwnt i fy ngradd. Yn ogystal â hyn, ro’n i’n awyddus i gyfrannu at sut mae’r Brifysgol yn datblygu ac yn addasu canllawiau’r Brifysgol ar Ddeallusrwydd Artiffisial (DA).

Pan ddechreuais i’r interniaeth, treuliais i amser yn dod i adnabod y tîm a deall gwaith yr Academi Dysgu ac Addysgu. Ro’n i’n gallu ymgyfarwyddo â’r prosiectau y byddwn i’n cyfrannu atyn nhw. Roedd cael y cyfle i gwrdd ag aelodau gwahanol o’r tîm a deall sut roedd eu rolau’n cyd-fynd â’i gilydd wedi fy helpu i gael dealltwriaeth lawer gwell o’r gwaith sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni i gefnogi myfyrwyr a staff. Fe ges i’r cyfle hefyd i weithio gyda Gwasanaethau’r Llyfrgelloedd, a dynnodd sylw at natur ryngddisgyblaethol y gwaith, gan roi’r cyfle imi gydweithio â chydweithwyr o feysydd gwahanol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Un o’r pethau y gwnes i ei fwynhau fwyaf am yr interniaeth oedd yr amrywiaeth eang o waith ro’n i’n gallu cymryd rhan ynddo. Roedd rhan sylweddol o fy rôl yn canolbwyntio ar lythrennedd DA a digidol, gan gynnwys ymchwilio i sut mae myfyrwyr yn defnyddio DA ac ystyried sut mae modd i ganllawiau ac adnoddau helpu myfyrwyr i ddefnyddio’r offer hyn yn effeithiol ac yn gyfrifol. Bues i hefyd yn gweithio ar adnoddau i fyfyrwyr sy’n ymdrin â phynciau megis rheoli eich presenoldeb ar-lein a oedd yn cynnwys ystyried sut mae’n bosibl cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd glir, ddiddorol a hygyrch i fyfyrwyr.

Roedd rhan sylweddol o fy interniaeth yn cynnwys datblygu adnoddau i fyfyrwyr sy’n ymwneud â DA ac asesu. Roedd hyn yn golygu meddwl yn ofalus am sut mae’n bosibl cyfleu gwybodaeth yn glir i fyfyrwyr. Ochr yn ochr â fy mhrif waith prosiect, ro’n i hefyd wedi cefnogi ystod o dasgau yn ôl yr angen ar gyfer yr Academi Dysgu ac Addysgu, gan gynnwys creu cynnwys fideo ar bynciau megis Panopto a dysgu cyfunol. Roedd amrywiaeth y tasgau hyn wedi rhoi profiad imi o addasu fy ffordd o gyfathrebu a gweithredu gan ddibynnu ar y pwnc a’r gynulleidfa.

Dyma oedd un o’r pethau mwyaf annisgwyl a ddysgais i yn ystod yr interniaeth. Cyn imi ddechrau’r rôl hon, doeddwn i ddim wedi llawn sylweddoli faint o waith sydd ynghlwm wrth greu beth sydd ar y dechrau’n gallu ymddangos fel canllawiau syml i fyfyrwyr. Bydd penderfyniadau bach ynglŷn â therminoleg neu osodiad yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fyfyrwyr weithiau.

Rwy hefyd o’r farn fy mod i wedi datblygu’n bersonol drwy gydol yr interniaeth. Datblygais i fwy o hyder i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm, gan gymryd syniad cychwynnol a’i ddatblygu’n rhywbeth mwy cyflawn. Roedd cael adborth gan gydweithwyr ac addasu fy ngwaith yn rhan werthfawr arall o’r profiad, gan ei fod wedi fy helpu i ddod yn fwy hyderus wrth adolygu gwaith a gweld pethau o safbwyntiau gwahanol.

At ei gilydd, rwy wedi mwynhau’r gwaith ei hun a bod yn rhan o’r tîm yn fawr iawn. Mae’r interniaeth wedi rhoi profiad imi mewn meysydd na fyddwn i fel arfer yn dod ar eu traws yn fy ngradd, gan fy helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, ymchwil, creu cynnwys a gweithio mewn cyd-destun proffesiynol.

I fyfyrwyr sy’n ystyried interniaeth yn y dyfodol, fy nghyngor fyddai manteisio i’r eithaf ar yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael a bod yn fodlon ymroi i gyfleoedd newydd. Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau a gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â chroesdoriad o bobl yn y tîm. Dylech chi fod yn barod i gymryd rhan mewn gwaith sydd efallai’n anghyfarwydd ichi. A dweud y gwir, dysgais i rai o’r pethau mwyaf defnyddiol drwy wneud yr union beth hynny yn ystod yr interniaeth.

Myfyrdod Marianna

Diben lleoliadau ac interniaethau dros yr Haf Prifysgol Caerdydd yw rhoi profiad gwaith ystyrlon â thâl i fyfyrwyr sy’n eu galluogi i ddatblygu sgiliau proffesiynol, cael cipolwg ar sut mae’r Brifysgol yn gweithio, a chyfrannu at brosiectau sy’n cael effaith amlwg ar ddysgu, addysgu, ymchwil a chefnogi myfyrwyr. Un o nodweddion allweddol y cynllun yw ei bwyslais ar gydweithio rhwng myfyrwyr a staff, gan greu cyfleoedd i fyfyrwyr gyfrannu eu safbwyntiau unigryw tra eu bod yn datblygu hyder, sgiliau cyflogadwyedd a phrofiad proffesiynol.

Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Josh drwy gydol ei interniaeth. Ac yntau’n fyfyriwr presennol, fe wnaeth ei safbwyntiau ein helpu i sicrhau bod yr adnoddau’n berthnasol, yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion myfyrwyr. Roedd hyn wedi atgyfnerthu’r manteision o weithio gyda myfyrwyr yn bartneriaid yn ogystal â dangos sut mae modd i safbwynt y myfyriwr wella safon ac effaith prosiectau.

Manteisiodd ar bob cyfle gan ddangos brwdfrydedd, chwilfrydedd ac ymrwymiad gwirioneddol i gynhyrchu gwaith o safon. Mae gweld ei hyder yn tyfu, ei syniadau’n datblygu a’i ddealltwriaeth o ddysgu ac addysgu yn dyfnhau wedi rhoi boddhad arbennig. Yn yr un modd, mae ei gyfraniad wedi tynnu sylw at werth ehangach rhaglen interniaethau Prifysgol Caerdydd o ran meithrin partneriaethau go iawn a phwrpasol rhwng y staff a myfyrwyr. Mae cyfraniad Josh yn dangos sut mae gweithio gyda myfyrwyr yn bartneriaid yn cyfoethogi prosiectau, yn gwella allbynnau ac yn sicrhau bod adnoddau a gwasanaethau’n parhau i gael eu seilio’n gadarn ar anghenion a phrofiadau’r myfyrwyr, sef union ddiben y gefnogaeth.

Ar ran yr Academi Dysgu ac Addysgu a Gwasanaethau’r Llyfrgelloedd, rydyn ni’n ddiolchgar am ei gyfraniad ac yn dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol.

Allbynnau’r Interniaeth

Cysylltu â ni

Mae interniaethau ar y campws ar agor i holl staff y Brifysgol. I gael rhagor o wybodaeth am leoliadau i fyfyrwyr dros yr haf ar fewnrwyd y staff.

Mae’r Academi Dysgu ac Addysgu’n helpu staff gydag Addysg Ddigidol ac yn cynnal rhaglen o gyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus i staff. Cymerwch olwg ar y cyrsiau neu cysylltwch â ni ar [email protected].