Skip to main content

Addysg DdigidolHeb gategori

XERTE X Upgrade | Uwchraddio i XERTE X

5 Chwefror 2019

*Fersiwn Cymraeg isod | Welsh version below*

This is a short blog post to let you know about some of the key features in the recent XERTE upgrade.  There are several bug fixes and advanced updates too, but these are the three most important ones.

Cardiff Theme

You can now select the Cardiff University XERTE theme from the themes list directly within XERTE.  This theme has been in development and testing for 18 months and provides additional functionality such as increased accessibility, cross device compatibility, responsive design, and additional formatting options.  The theme is called “Flat: CESI” in the XERTE themes list.  Read more about the theme: https://blogs.cardiff.ac.uk/learning-technology/2017/06/22/a-new-xerte-theme/

Editor display

When editing a project in previous versions of XERTE, the editor was mostly in black and white.  In this version, the editor will show you exactly what your project will look like whilst you are editing so there is no need to preview it as often when making changes. 

Additional formatting and display

There are now many more styles available from the “Styles” and “Headings” drop-down menus in the XERTE editor.  These include panels, speech bubbles, highlights, and code-display.  You can use these to highlight parts of your content in ways that you couldn’t before.  Whichever theme you are using, these will be automatically colour-matched to the theme.

How can I get started with XERTE?

Please contact CEILT@cardiff.ac.uk and we can arrange a workshop or send you our online learning resources designed to help you plan and create XERTE resources.

What is next for XERTE?

We are currently working on integration for the Cardiff University XERTE theme with a theme generator.  This will allow you to override the default Cardiff colour scheme with any colour scheme you like, whilst preserving the accessibility, responsiveness, and additional functions that our theme adds.

This integration is currently in development.  If you would like to try it, please get in touch.

We are also working on a full suite of online resources using a flipped learning approach in order to help people learn to use XERTE.

Uwchraddio i XERTE X

Dyma flog byr i roi gwybod i chi am rai o’r nodweddion allweddol yn y diweddariad XERTE diweddar.  Ceir nifer o atgyweiriadau i namau a diweddariadau datblygedig hefyd, ond dyma’r tri pwysicaf.

Thema Caerdydd

Erbyn hyn, gallwch ddewis thema XERTE Prifysgol Caerdydd o restr y themâu yn uniongyrchol o fewn XERTE.  Mae’r thema wedi cael ei datblygu a’i phrofi am 18 mis ac mae’n cynnig swyddogaethau ychwanegol megis gwell hygyrchedd, cydnawsedd ar draws dyfeisiau, dyluniad ymatebol, ac opsiynau fformatio ychwanegol.  Enw’r thema yw “Flat:  CESI” yn rhestr themâu XERTE.  Darllenwch fwy am y thema: https://blogs.cardiff.ac.uk/learning-technology/2017/06/22/a-new-xerte-theme/

Dangosydd golygu

Wrth olygu prosiect yn fersiynau blaenorol XERTE, roedd y golygydd yn ddu a gwyn yn bennaf.  Yn y fersiwn hon, bydd y golygydd yn dangos i chi sut yn union bydd eich prosiect yn edrych wrth eich bod yn golygu, felly does dim angen edrych ar ragolwg ohono mor aml wrth wneud newidiadau. 

Fformatio ac arddangos ychwanegol

Mae llawer mwy o arddulliau ar gael o’r cwymplenni “Arddulliau” a “Penawdau” yn y golygydd XERTE.  Mae’r rhain yn cynnwys paneli, swigod siarad, uchafbwyntiau, a dangosydd-côd.  Gallwch ddefnyddio’r rhain i aroleuo rhannau o’ch cynnwys mewn ffyrdd gwahanol i’r arfer.  Pa bynnag thema rydych chi’n ei defnyddio, bydd y rhain yn cyfateb i’r thema yn awtomatig yn ôl lliw.

Sut i ddechrau arni gyda XERTE?

Cysylltwch â CEILT@caerdydd.ac.uk a gallwn drefnu gweithdy neu anfon ein hadnoddau dysgu ar-lein atoch, sydd wedi’u dylunio i’ch helpu i gynllunio a chreu adnoddau XERTE.

Beth sydd nesaf gyda XERTE?

Rydym yn gweithio ar integreiddio thema XERTE Prifysgol Caerdydd gyda generadur thema.  Bydd hyn yn eich galluogi i ddiystyru cynllun lliw diofyn Caerdydd gydag unrhyw gynllun lliw rydych chi’n ei hoffi, wrth gadw’r hygyrchedd, yr ymatebolrwydd, a’r swyddogaethau ychwanegol mae ein thema yn eu hychwanegu.

Mae’r integreiddio hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.  Os hoffech chi roi cynnig arni, cysylltwch â ni.

Rydym hefyd yn gweithio ar ystod lawn o adnoddau ar-lein gan ddefnyddio dull dysgu gwrthdro er mwyn helpu pobl i ddefnyddio XERTE.