Skip to main content

Hyrwyddwyr MyfyrwyrYmgysylltu a myfyrwyr

Sylw i Brosiect Hyrwyddwyr Myfyrwyr- Ionawr

3 Chwefror 2022

Ysgrifennwyd gan Ioana a Samuel

Cymunedau Dysgu

Yn ystod tymor yr Hydref, dechreuon ni weithio gyda’r tîm Sgiliau Astudio Academaidd, gyda Joanne Williams yn bennaf, er mwyn meithrin y gwaith o ddysgu ar y cyd ar Fewnrwyd y Myfyrwyr. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio meddalwedd o’r enw ‘Padlet’, ac rydyn ni wedi’i ddefnyddio i ddatblygu cyd-destunau dysgu ar gyfer pynciau penodol megis: ysgrifennu traethodau a rheoli amser. Rydyn ni wedi defnyddio’r padlets hyn er mwyn rhannu adnoddau astudio defnyddiol, creu fideos ‘awgrymiadau da’ yn ogystal â mynd ati i greu’r broses o gydweithio i fyfyrwyr ofyn ac ateb cwestiynau a rhannu eu hawgrymiadau da a’u hadnoddau eu hunain ar nifer o bynciau academaidd. Y tymor hwn rydym hefyd wedi bod yn gwella presenoldeb yr adran Sgiliau Astudio Academaidd ar draws y brifysgol drwy weithio mewn digwyddiadau megis Wythnos Lles Undeb y Myfyrwyr a Chymorth Adolygu.

Hyd yn hyn, rydym wedi creu dau Padlet ar Reoli Amser ac Ysgrifennu Traethodau sy’n cynnwys barn ein myfyrwyr, fideos sy’n crynhoi ein cyngor ac adnoddau defnyddiol. Ar ôl eu rhannu gyda myfyrwyr, bydd unrhyw un yn gallu cynnig awgrymiadau defnyddiol a gofyn cwestiynau dienw a bydd un ohonon ni neu aelod o staff yn eu hateb. Dyma ragflas o’n gwaith:

Nid dyma fersiwn derfynol y prosiect, gan fod angen ychwanegu a thrafod pethau o hyd.