‘Rhwydweithiau Dysgu Personol’ mewn Prifysgol sy’n cadw pellter cymdeithasol
11 Mehefin 2021Rydym yn dysgu llawer gan ein gilydd. Boed hynny’n rhywun yn dangos i ni sut i wneud rhywbeth, neu’n gwylio beth maen nhw’n ei wneud, neu ddarllen beth maent wedi’i ysgrifennu – mae dysgu’n weithred gymdeithasol. Mae gan bob un ohonom ‘Rwydwaith Dysgu Personol’ sefydledig o’n cwmpas, casgliad o ffynonellau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad. Gallai Rhwydwaith Dysgu Personol gynnwys pobl, grwpiau, technolegau neu weithgareddau. Mae gennym bobl neu adnoddau yr ydym yn troi atynt os oes angen gwybodaeth, cyngor, neu gymorth arnom. Mae Rhwydweithiau Dysgu Personol yn benodol bwysig i fyfyrwyr israddedig, ac maent yn cael eu herio’n benodol ymysg myfyrwyr mwy newydd sydd mewn amgylchiadau newydd ac anghyfarwydd. Rydym yn datblygu Rhwydweithiau Dysgu Personol dros amser, ac felly pan fydd myfyriwr yn dod i’r brifysgol, neu’n symud o lety myfyrwyr a rennir i dŷ a rennir, mae natur y rhwydwaith yn newid. Roedd model Vincent Tinto, o 1975, yn nodi rhyngweithio cymdeithasol yn un o’r rhesymau craidd yr oedd pobl yn gadael y brifysgol. Er bod y model hwn wedi cael ei ddiwygio a’i herio sawl gwaith mewn degawdau diweddar, mae rhyngweithio cymdeithasol yn dal i fod yn hanfodol i lwyddiant a dyfalbarhad myfyrwyr.
Mae fy ymchwil fy hun wedi awgrymu bod Rhwydweithiau Dysgu Personol yn benodol bwysig i fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf yn ystod y cyfnod pontio i’r Brifysgol, gan eu bod nhw’n dod i’r arfer gyda’u bywyd newydd fel person annibynnol, dysgwr yn y brifysgol, ac aelod newydd o ddisgyblaeth academaidd neu broffesiwn. Mae tair ffynhonnell allweddol o’r rhyngweithiadau hyn – cyfoedion ar eu cwrs, cyfoedion y maent yn byw gyda hwy mewn preswylfeydd myfyrwyr, a ffrindiau y maent yn eu gwneud mewn clybiau chwaraeon, cymdeithasau a chymunedau crefyddol. Yn aml, yr elfen gyntaf, sef cyfoedion ar yr un cwrs, yw’r rhwydwaith sydd lleiaf sefydledig, yn enwedig ar gyfer cyrsiau lle does dim llawer o gyswllt wyneb yn wyneb, a dim llawer o sgôp i fyfyrwyr weithio mewn parau neu grwpiau bach iawn. Heb y cyfoedion ar y cwrs, mae’r rhwydwaith dysgu’n dioddef o ran dysgu confensiynau a disgwyliadau y ddisgyblaeth academaidd. Mae’n cymryd cyfnod hirach iddynt ddeall beth rydym yn ei ddisgwyl ganddynt, a sut mae’r Brifysgol yn wahanol i’r ysgol. Y cyfranwyr mwyaf effeithiol i’r Rhwydwaith Dysgu Personol yw’r rhyngweithiadau gyda myfyrwyr y maent yn rhannu llety gyda nhw, neu’n rhyngweithio gyda nhw mewn grwpiau allgyrsiol.
Pam mae hyn yn bwysig? Gall yr amgylchedd diweddar o gadw pellter cymdeithasol a dysgu ar-lein fod ag effeithiau enfawr ar y ffordd y caiff y rhwydweithiau hyn eu datblygu a’u creu. Gyda dosbarthiadau sydd ar-lein yn bennaf, gyda chyfleoedd cyfyngedig ar gyfer cymdeithasu ar hap, mae perygl na chafodd myfyrwyr y cyfleoedd i wneud y cysylltiadau cymdeithasol pwysig hyn, ac ail-ddylunio eu Rhwydweithiau Dysgu Personol i weddu i’w hamgylchedd newydd. Byddai’r unigedd cymdeithasol hwn nid yn unig yn effeithio arnynt wrth greu perthnasoedd personol, ond wrth ddatblygu dealltwriaeth academaidd. Gallai eu taith ddysgu gael ei heffeithio o ganlyniad.
Beth allwn ni ei wneud? Yn eironig, mae llawer o bobl wedi cael eu hunain yn cysylltu’n fwy aml gyda phobl yn ystod y cyfnod clo dros y flwyddyn ddiwethaf, drwy ddefnyddio platfformau fideo-gynadledda. Mae hyn yn dangos i ni nad oes rhaid i bellter cymdeithasol olygu ynysu’n gymdeithasol. Mae llu o gyfleoedd i gysylltu gyda’n myfyrwyr, a’u helpu i gysylltu â’i gilydd. Fodd bynnag, mae’r rhyngweithio hyn ond yn datblygu go iawn o gysylltiadau cymdeithasol presennol. Felly os ydym am barhau â fformat ar-lein neu gyfunol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf, mae angen i ni hefyd feddwl yn ofalus am sut rydyn ni’n grymuso ein myfyrwyr i ffurfio cymunedau cymdeithasol (o fewn y ddisgyblaeth, a’r tu allan i’w hastudiaethau). Mewn gwirionedd, gallai’n sefyllfa fod yn gyfle i ddechrau sefydlu dulliau o gynyddu rhyngweithiadau myfyrwyr-myfyrwyr, yn ogystal â myfyrwyr-staff. Er enghraifft, annog myfyrwyr i ffurfio grwpiau ar-lein a ‘Cymunedau Dysgu’ sy’n cefnogi cymheiriaid, cwrdd â’ch myfyrwyr am sgwrs ar-lein unwaith yr wythnos, gan ymgorffori gweithgareddau grŵp bach yn eich addysgu ar-lein mor aml â phosibl. Yna beth am gadw’r gweithgareddau hyn i fynd unwaith y bydd argyfwng Covid drosodd? Mae gennym y potensial i ddefnyddio’r amser anodd hwn i wella profiad myfyrwyr ar gyfer y dyfodol, a helpu ein myfyrwyr i ehangu eu Rhwydweithiau Dysgu Personol, waeth beth yw’r sefyllfa ehangach.
Ysgrifennwyd gan yr Athro Stephen Rutherford, Ysgol y Biowyddorau ac Arweinydd Academaidd CCAA