Skip to main content

Cymrodoriaethau Addysg

Parchu Llais y Myfyrwyr

1 Tachwedd 2023

Dyma’r Athro Luke Sloan yn rhannu ei farn ar yr heriau sy’n ymwneud â llais y myfyrwyr ym myd Addysg Uwch. 

Sut dylen ni ddangos parch at yr hyn sydd gan ein myfyrwyr i’w ddweud am eu profiadau? Heblaw am ambell i eithriad nodedig, mae data diweddaraf yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) yn awgrymu ein bod yn gallu gwneud yn well yn y maes hwn. Fodd bynnag, mae data Llais y Myfyrwyr yn dangos cynnydd mewn mannau – felly beth sy’n digwydd? 

Er bod gwaith i’w wneud o hyd, rydym o fewn y meincnodau ar gyfer cwestiynau sy’n holi i ba raddau y mae myfyrwyr yn cael cyfleoedd boddhaol i roi adborth ar eu cyrsiau (Cwestiwn 22) ac a yw’n glir ein bod ni’n gweithredu ar yr adborth a gawn gan fyfyrwyr (Cwestiwn 24) Mae hyn yn awgrymu ein bod ni’n symud i’r cyfeiriad cywir ynghylch y gwelliannau a wnawn i Wella Modiwlau a’r gwaith a wneir ar y Paneli Myfyrwyr-Staff. Mae cyd-weithio gydag Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn rhan annatod o hyn, ac fe ddylem achub ar y cyfle i ymfalchïo yn yr hyn rydym wedi’i gyflawni. 

Ond, er hynny, rydym yn is na’r meincnod ar gyfer y cwestiwn sy’n gofyn i ba raddau y mae aelodau o staff yn gwerthfawrogi barn y myfyrwyr am eu cyrsiau (Cwestiwn 23). Yn ôl pob golwg, nid yw hynny’n gwneud llawer iawn o synnwyr. Mae’n amlwg ein bod yn gweithredu ar adborth, ond mae ein myfyrwyr o’r farn nad ydym yn gwerthfawrogi’r hyn sydd ganddynt i’w ddweud. Beth mae hyn yn ei olygu?   

Fy nealltwriaeth o hyn yw, nad yw ein myfyrwyr o’r farn ein bod yn parchu’r hyn sydd ganddynt i’w ddweud. O ystyried ein bod o dan bwysau amser a bod modiwlau’n llawn cynnwys, rydym mewn perygl o gyflwyno ymateb symbolaidd i lais y myfyrwyr. A ninnau’n aelodau o’r staff, rydym yn ei chael yn anodd ymateb i awgrymiadau sy’n groes i’w gilydd gan fyfyrwyr, ac yn hytrach nag egluro hyn a bod yn onest, weithiau rydyn ni’n amddiffynnol. Nid yw hyn yn wir ym mhob sefyllfa wrth gwrs, ond mae data’r NSS yn awgrymu bod hyn yn digwydd yn ddigon rheolaidd iddo effeithio ar ein myfyrwyr. 

Nid rhywbeth y gellir ymdrin ag ef drwy lunio polisïau, prosesau neu fonitro yw hyn. Ond tybed, pe byddem yn cymharu hyn a’r ffordd yr ydym yn disgwyl cael ein trin, ein gweld a’n clywed yn aelodau o staff… a fyddai hyn yn ein hysgogi i fyfyrio ar ein harferion ein hunain ac i roi ychydig o amser i gau’r cylch adborth yn gywir? 

Gadewch inni feddwl am yr holl adegau hynny pan wnaethom gynnig awgrym er mwyn gwella rhywbeth, efallai yn ein hadran neu ar lefel ehangach yn y Brifysgol, ac efallai cafodd yr awgrym ei anwybyddu, neu dywedwyd wrthym na fyddai’n gweithio. Mewn sefyllfa o’r fath, byddem i gyd yn teimlo’n anfodlon gan yr hyn y byddem yn ei ystyried yn ddiffyg parch at ein barn a’n hawgrymiadau. 

Gall camu i esgidiau ein myfyrwyr fod yn arf pwerus inni allu myfyrio rhagor am y pethau hyn. Pan feddyliwn mai pobl gydradd yw’r myfyrwyr, yn gyd-bartneriaid, yn gyd-ddylunwyr, a chyd-ymchwilwyr yn ein hymdrechion addysgol (Healey, Fflint & Harrington 2016), nid yw’r sefyllfa mor ddryslyd. Parch yw’r hyn y mae pawb ei eisiau. Mae pawb eisiau cael eu gweld, eu clywed, a’u cydnabod. Mae’r NSS yn dangos ein bod yn gwneud cynnydd, ond mae’n rhaid inni dal ati. 

Mae sawl ffordd y gallwn symud ymlaen ac ehangu ar yr hyn rydym yn ei wneud yn dda. Un ffordd yw dilyn y naw gwerth yn y model ‘Myfyrwyr sy’n Bartneriaid’ (Healey et al. 2016) i annog y myfyrwyr i ymgysylltu â ni, a dangos ein bod yn gwerthfawrogi eu barn. Gwyliwch y fideo hwn sy’n para am 2 funud gan Dr Alyson Lewis, Darlithydd ar y Rhaglenni Cymrodoriaethau Addysg am rai syniadau, dolen i fideo awgrymiadau da. Dylem ymgorffori’r gwerthoedd hyn yn ein profiadau bob dydd, boed yn sgyrsiau yn y coridor neu’n arolygon a gynhelir ar draws y sector.   

P-A-R-C-H, dewch i wybod yr hyn y mae’n ei olygu imi. Mae’n golygu cael eich gweld, eich clywed, eich cydnabod a’ch gwerthfawrogi. Staff a myfyrwyr – rydyn ni i gyd eisiau hynny. 

Healey, M. Flint, A. Harrington, K. (2016). Students as partners: Reflections on a conceptual model 

Cyfeirnodau 

Healey, M. Flint, A. Harrington, K. (2016). Students as partners: Reflections on a conceptual model. Teaching & Learning Inquiry, 4(2) DOI: https://doi.org/10.20343/teachlearninqu.4.2.3