Ein symposiwm ymchwil Cymraeg 2022
17 Mawrth 2022Ysgrifennwyd gan Elliw Iwan, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Y Deml Heddwch oedd safle dathliad cymuned ymchwil ysgolheigaidd cyfrwng Cymraeg y De Ddwyrain ar 1 Mawrth eleni. Braf oedd cael dod a thri sefydliad addysg uwch y De Ddwyrain at ei gilydd, Prifysgol Caerdydd (PC), Prifysgol Metropolitan Caerdydd (PMC) a Phrifysgol De Cymru (PDC) i ddathlu Gŵyl Ddewi ac ymchwil cyfrwng Cymraeg yr un pryd. Anodd credu fod deng mlynedd wedi bod ers sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a phrawf o lwyddiant y Coleg a’r Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil oedd yr amrywiaeth o bynciau oedd dan sylw ar lwyfan hyfryd y Deml Heddwch y bore hwnnw.
Roedd y digwyddiad yn nwylo pwyllog a medrus yr Athro Lisa Lewis, Prifysgol De Cymru, a hi fu’n cyflwyno’r siaradwyr a sicrhau fod y bore’n rhedeg yn llyfn ac fe lwyddwyd i orffen mewn da bryd i gynnal munud o heddwch er cof am yr Wcrain.
Un o flaenoriaethau ein strategaeth iaith newydd ym mhrifysgol Caerdydd yw meithrin a chefnogi cymuned ymchwil cyfrwng Cymraeg a dangos fod y Gymraeg yn berthnasol ym mhob agwedd o fywyd academaidd gyfoes, a dyna gafwyd yn y symposiwm. Cawsom gyflwyniadau hynod ddifyr yn amrwyio o Treftadaeth, amlddiwyllianedd a’r Gymraeg yn y dirwedd gan Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, PC; Defnyddio Cyfrifiaduron i Archwilio Defnyddiau ar Gyfer Heriau’r 21ain Ganrif ym maes Cemeg gan Owain Beynon, deiliad ysgoloriaeth ymchwil y Coleg Cymraeg, PC; Rôl Iaith Frodorol mewn Newid Ymddygiad gan Derith Rhisiart, PMC; a Pherfformio a Theatr: Er Lles y Gymuned gan Elis Pari, myfyriwr Ôl-radd, PDC.
Roedd y cwestiynau o’r gynulleidfa yn dangos y diddordeb oedd yn yr ystafell gan Academyddion o’r Dyniaethau a’r Gwyddorau fel ei gilydd.
Rhwng y cyflwyniadau, cafwyd trafodaeth banel ar Gymuned Ymchwil cyfrwng Cymraeg. Cadeiriwyd y drafodaeth yn wych gan y Dr Sion Jones, sy’n ddarlithydd yn y Gwyddorau Cymdeithasol yma yn PC, ac yn un sydd wedi elwa o’r Cynllun Ysgoloriaeth Ymchwil ei hun. Ar y panel cawsom Gwion Jones o PMC, Bedwyr Thomas o PC a Heddwen Daniel o PDC. Gan ein bod mewn oes Ôl-covid, roedd rhaid i Heddwen a Bedwyr hunan-ynysu, a chymryd rhan yn y drafodaeth dros sgrin fawr- ac fe weithiodd hyn yn rhyfeddol. Syniadau ar gyfer gwahodd ymchwilwyr o bedwar ban byd i’r symposiwm nesaf felly! Unwaith eto – gwelwyd amrywiaeth meysydd ymchwil ar y panel, Cemeg Feddyginaethol, Seicoleg ac addysg, ond i gyd yn gytûn bod y gymuned ymchwil wedi bod yn hanfodol i’w cynnal yn ystod y pandemig, ac yn hanfodol i greu ymdeimlad o berthyn, a dod a’r ymchwilwyr cyfrwng Cymraeg at ei gilydd. Mae Bedwyr yn un o Lysgenhadon Ôl-radd y Coleg Cymraeg hefyd, ac yn dyst i sut mae’r Coleg yn cefnogi’r ymchwilwyr.
Diwrnod hwyliog a hynod ddiddorol – welwn i chi yn yr un nesaf. Y bwriad yw cynnal Symposiwm Ymchwil ar y cyd eto rhwng Canghennau’r tri sefydliad, a hynny ar 1 Mawrth a lleoliad i’w gadarnhau.
Am ragor o wybodaeth am ein cangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cysylltwch â Elliw Iwan (iwaneh@cardiff.ac.uk)