Skip to main content

Ymgysylltu a myfyrwyr

Cipolwg Caerdydd: Pam mae angen ddechrau defnyddio eich llais myfyriwr

24 Mawrth 2022

Ysgrifennwyd gan Hyrwyddwyr Myfyrwyr Jade Tucker a Sara Williams

Gadewch i ni fod yn onest, nid yw’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn arbennig o wych ar gyfer cyfathrebu rhyngom ni myfyrwyr a’r brifysgol. Mae cadwyni e-bost, cyfarfodydd a galwadau Zoom, a gynhelir gyda’r bwriad da o leddfu ein rhwystredigaethau, yn aml wedi arwain at yr effaith gwbl groes – gan ein gadael yn fwy rhwystredig, yn fwy blin, ac yn fwy dryslyd. Felly, mae’n amlwg bod adborth myfyrwyr a chyfathrebu gyda’r brifysgol yn bwysicach nawr nag erioed. Mae’r brifysgol yn gwybod hyn, felly, gyda lansiad Cipolwg Caerdydd eto mis yma, maen nhw’n gobeithio dechrau newid pethau.

Ond dwi’n deall, mae’n ymddangos fel bod holiadur newydd a set newydd o gwestiynau bob semester – i gyd yn holi am ein barn am ein hamser yn y brifysgol, ond yn aml ni waeth faint rydyn ni’n cynnig adborth, mae’n teimlo fel eu bod yn cael ei anghofio amdano. Felly beth sy’n gwneud y Cipolwg Caerdydd yn wahanol?

Beth yn union yw Cipolwg Caerdydd ?

Wel, mor ddibwys ag y gallai ymddangos ar raddfa unigol i ni fel myfyrwyr, mae gan Gipolwg Caerdydd botensial fel mecanwaith llais myfyrwyr i ddod â newid mawr i’r ffordd y mae pethau’n cael eu rhedeg yma. Wedi’r cyfan, yr adborth hwn sy’n cael ei ddefnyddio i wneud newidiadau allweddol nid yn unig ar lefel ysgol ond ar lefel prifysgol! Fodd bynnag, dim ond 7% o fyfyrwyr (2068) a ymatebodd i’r un ym mis Mehefin 2021. Felly, pan ofynnwn i’n hunain “pam nad yw’r brifysgol yn gwrando arnom?” mae’n rhaid i ni ofyn i’n hunain mewn gwirionedd “pam nad ydyn ni’n defnyddio ein llais?” Gyda dim ond 7% o fyfyrwyr yn sefyll dros ein llais myfyrwyr, sut allwn ni fyth ddisgwyl i unrhyw beth newid?

Yn ei hanfod, mae’n llwyfan i ni leisio ein sylwadau’n weithredol, neu i rannu unrhyw bryderon sydd gennym gyda’n hysgol i greu newid cadarnhaol yn y Brifysgol. Gall pawb ar draws y Brifysgol lenwi Cipolwg Caerdydd fel y gall y Brifysgol weld os yw’r newidiadau y maent wedi’u gwneud wedi cael unrhyw effaith o flynyddoedd blaenorol, yn ogystal â’u helpu i ddarganfod beth allant ei wneud i’n cefnogi’n well. Mae’r Brifysgol yn ein gwahodd i siarad am sut yr ydym yn ffeindio ein bywyd prifysgol a bydd ein hadborth yn helpu i lunio ein gwasanaethau academaidd a chymorth i ddiwallu ein hanghenion a’n diddordebau.

Rhannwch eich sylwadau am y pandemig, addysgu ar-lein neu unrhyw beth sy’n berthnasol i chi a’r hyn rydych chi’n angerddol amdano.

Mawrth 21 – 28 yw’r Cipolwg Caerdydd olaf y flwyddyn academaidd hon, gadewch i ni wneud iddo gyfrif! Cwblhau Cipolwg Caerdydd 

Ar ôl i chi gwblhau’r arolwg

Mae ein hadborth yn hanfodol i’r Brifysgol. Cadwch lygad ar https://intranet.cardiff.ac.uk/cy/students/student-voice/student-surveys/cardiff-pulse-student-survey/your-feedback i glywed ymateb y Brifysgol, a sut y byddant yn defnyddio ein hadborth i wneud newid gwirioneddol.