Skip to main content

Addysg DdigidolYmgysylltu a myfyrwyr

Cymhwysedd a Hyder Digidol

1 Ebrill 2022

Ysgrifennwyd gan Marianna Majzonova a Lise Fontaine am eu prosiect gyda Myfyrwyr ar Leoliad Addysg Ddigidol

Os oedd unrhyw amheuaeth erioed ynghylch pwysigrwydd datblygu cymwyseddau digidol a hyder digidol yn yr amgylchedd dysgu, yn sydyn fe wnaeth pandemig COVID chwalu hynny!

Hyd yn oed cyn symud i ddysgu o bell yn ystod semester gwanwyn 2020, roeddem yn gwybod bod cymhwysedd a hyder technegol yn agweddau pwysig ar ddysgu llwyddiannus, boed hynny’n golygu defnyddio Dysgu Canolog, dod o hyd i adnoddau electronig, neu ysgrifennu a chyflwyno gwaith cwrs. Pan fydd myfyrwyr yn cael eu haddysgu ar-lein mae angen iddynt ddatblygu’r hyder i roi cynnig ar ffyrdd newydd o ddysgu a’r cymhwysedd i ddefnyddio’r offer digidol sydd eu hangen i gefnogi hyn.

Roedd ein prosiect am osod y sylfaen i greu diwylliant digidol newydd, wedi’i ddatblygu gan gymheiriaid, ar gyfer myfyrwyr.


Sut wnaethon ni ddechrau’r prosiect a’r hyn a ddigwyddodd yn ystod yr wythnosau cyntaf

Fe wnaethon ni gyflogi tri myfyriwr i wneud y swydd hon ac roedden nhw’n anhygoel! Gyda’u sgiliau amrywiol a’u cefndir mewn cyfathrebu, dylunio a chreadigrwydd, fe wnaethant greu adnoddau y byddent wedi dymuno eu cael eu hunain. Roedd y rhain i helpu i lywio adnoddau ar-lein, megis Dysgu Canolog (amgylchedd dysgu rhithwir Caerdydd) a Mewnrwyd y Myfyrwyr.  Agwedd bwysig ar y prosiect oedd ymarfer myfyriol. Gwnaeth y myfyrwyr ennill sgiliau wrth ddefnyddio Xerte a chreu adnoddau amlgyfrwng. Yn ogystal â hyn, ysgrifennodd pob myfyriwr fywgraffiad technoleg, naratif o’u perthynas â thechnoleg (ddigidol), sydd wedi’u cyhoeddi ar-lein er mwyn i fyfyrwyr eraill ddysgu o’r prosesau o fabwysiadu arferion digidol mewn dysgu. Gwnaethant hefyd ddadansoddi data o bum arolwg mewnol i gasglu adborth am brofiad myfyrwyr o ddysgu ar-lein a hyder digidol yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth. Roedd y canlyniadau a’r canfyddiadau’n canolbwyntio ar gymorth a hygyrchedd myfyrwyr, yn ogystal â dysgu ac asesu ar-lein. Darllenwch am y canlyniadau a’r argymhellion hyn yma a gallwch weld y ffeithluniau ar y collage, 2. Canlyniadau ac Argymhellion.


Y camau, yr awgrymiadau a’r argymhellion nesaf

O ystyried mai dim ond am 6 wythnos yn ystod cyfnod yr haf y cynhaliwyd y prosiect, cafodd y myfyrwyr ganlyniadau rhagorol. Roeddent yn cydlynu agweddau penodol ar y prosiect ar eu pen eu hunain. Cawsant drafodaethau gyda’r cymunedau myfyrwyr a staff, a chyfrannu eu profiadau personol a phroffesiynol i’r prosiect. Cawsant gyfle i ddysgu llawer o sgiliau gwerthfawr a daethant yn aelodau hyderus o’r tîm, yn unigol ac ar y cyd.

Roedd y bywgraffiadau technoleg yn rhoi’r cyfle i’r myfyrwyr ddeall eu cymwyseddau digidol unigol eu hunain. Fe wnaethant hefyd gofnodi taith gyfunol y prosiect mewn map meddwl myfyriol.

Roedd hwn yn brofiad gwaith mewn amgylchedd gwaith go iawn a oedd o fudd i’r Brifysgol, myfyrwyr a staff.


Gweler y collage am ganllaw Myfyriwr i ysgrifennu bywgraffiad technolegol