Skip to main content

Addysg Ddigidol

Dylunio Asesu mewn Amgylchedd Digidol

7 Gorffennaf 2020
Dr Andrew Roberts, Arweinydd Academaidd newydd ar gyfer prosiect Trawsnewid Asesu’r Brifysgol

Fel yr arweinydd academaidd newydd ar gyfer prosiect Trawsnewid Asesu’r Brifysgol, roedd yn ymddangos yn amserol imi ysgrifennu blog byr ar rai o’r pethau y mae’n rhaid i ni feddwl amdanynt wrth inni ddatblygu ein rhaglenni ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Mae’r flwyddyn ddiwethaf yn sicr wedi cyflwyno rhai heriau i ni o ran asesu, ac mae angen rhoi diolch a chydnabyddiaeth i’r gwaith caled a’r ymrwymiad gan staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol gan sicrhau bod y newid i asesu ar-lein yn llwyddiannus.

Fodd bynnag, mae peidio â chael arholiadau wedi eu goruchwylio yn rhoi cyfle i ni ailfeddwl am yr hyn yr ydym am ei gyflawni trwy asesu ac os yw’r hyn yr ydym wedi’i wneud yn draddodiadol yw’r ffordd fwyaf effeithiol i’w gyflawni. Rydym yn gwybod bod llwythi gwaith, yn enwedig pan fydd arholiadau yn cael eu baglu ddiwedd y tymor, yn gallu bod yn brofiad ingol i fyfyrwyr a staff. Rydym hefyd yn gwybod nad yw boddhad myfyrwyr ag asesu ac adborth yn aml cystal ag y byddem yn gobeithio. A oes ffordd well o wneud hyn?

Yr wythnos nesaf byddwn yn cynnal cyfres o weminarau yn y tri choleg a fydd yn rhoi cyfle i chi feddwl sut y gallech chi ail-ddylunio’r asesiad yn eich modiwl. Pa gyfleoedd y mae symud i asesiad ar-lein neu ddigidol yn eu darparu? Byddwn yn eich annog i feddwl am eich modiwlau, sut maent yn cysylltu ag eraill yn y rhaglen a sut y gellir optimeiddio’r llwyth asesu cyffredinol. Rydyn ni hefyd yn awyddus eich bod chi’n meddwl sut rydych chi’n gweithio gyda myfyrwyr trwy gydol eich modiwlau, fel eu bod nhw’n deall yr hyn y gallai llwyddiant yn eu hasesiad ei olygu ac fel bod adborth yn dod yn rhan o’r broses ddysgu.

Rydyn ni’n gwybod y gallai llawer o’r pethau hyn fod yn newydd i chi, yn enwedig os ydych chi wedi dibynnu ar yr arholiadau ysgrifenedig traddodiadol yn y gorffennol. Felly, byddwn yn llunio bwydlen o ryseitiau asesu y gallwch eu mabwysiadu neu eu haddasu ar gyfer eich addysgu eich hun. Darperir cefnogaeth trwy’r CESI a bydd eich arweinydd asesiad ysgol ac adborth hefyd yn bwynt cyswllt pwysig.

Ysgrifennwyd gan Dr Andrew Roberts
Arweinydd Academaidd newydd ar gyfer prosiect Trawsnewid Asesu’r Brifysgol

Gweminarau Trawsnewid Asesu:
I’ch cefnogi chi wrth adolygu cynlluniau asesu cyn terfyn amser mis Medi, bydd y tasglu Trawsnewid Asesu yn cynnal gweminarau colegol er mwyn rhoi canllawiau, enghreifftiau a chefnogaeth i chi, ynghylch y mathau o arferion asesu a fydd yn effeithiol mewn cyd-destun dysgu cyfunol, yn ogystal â chyfleoedd i leihau’r baich ar fyfyrwyr ac academyddion.

• Y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol (AHSS)
Dydd Llun 13 Gorffennaf, 11:30pm – 12:30pm
Dolen Gofrestru Zoom: https://cardiff.zoom.us/webinar/register/WN_c6TrVbyIQtqjjJdCLOI1Xg

• Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (PSE)Dydd Mercher 15 Gorffennaf, 3:30pm – 4:30pm
Dolen Gofrestru Zoom: https://cardiff.zoom.us/webinar/register/WN_EvkJl7AyRkqhTY_C3CZ2QA

• Y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd (BLS)
Dydd Iau 16 Gorffennaf, 1:30pm – 2:30pm
Dolen Gofrestru Zoom: https://cardiff.zoom.us/webinar/register/WN_CGprcYFtTym91jHdWVh1HA