Skip to main content

Addysg DdigidolDatblygu cwricwlwm

Proffil Tiwtor Personol: Merideth Gattis, Ysgol Seicoleg

31 Gorffennaf 2020

Dywedwch ychydig amdanoch chi eich hun wrthym, pa ysgol rydych yn Uwch-diwtor Personol ynddi ac ers faint rydych wedi bod yn cynnig Tiwtora Personol?
Fe wnes i fy astudiaethau israddedig mewn coleg celfyddydol breiniol bach yn Massachusetts, lle roedd yr athrawon ar ein cwrs gradd yn adnabod pob myfyriwr yn ôl eu henwau. Roedd fy athrawon yn fy annog i ystyried gyrfa academaidd, a rhoddwyd cyngor ymarferol, a llym ar adegau, ar drosglwyddo i brifysgol fawr sy’n canolbwyntio ar ymchwil ar gyfer fy astudiaethau ôl-raddedig. Gosododd y profiadau hynny feincnod i mi fel tiwtor personol.

Beth sydd wedi bod y peth mwyaf buddiol am fod yn Diwtor Personol hyd yn hyn?
Prif wobr tiwtora personol i mi yw gweld datblygiad myfyrwyr – o ran gwybodaeth a sgiliau, hyder a phersbectif. Ar gyfer rhai myfyrwyr, mae eu datblygiad yn sicr a chyson, ond gall gymryd yn hirach i eraill, a gall hyd yn oed gynnwys oedi ac ailddechrau, ond mae datblygiad yn rhan anochel o radd yn y brifysgol. Mae tiwtoriaid personol yn cwrdd â myfyrwyr yn yr Ysgol Seicoleg ar y diwrnod y maent yn dechrau yn y brifysgol ac yn ffarwelio â nhw yn y seremoni raddio. Felly, rydym mewn man ffafriol unigryw a breintiedig i weld y datblygiad hwnnw.

Beth ydych chi wedi sylweddoli fwyaf arno o ran yr effaith y gall Tiwtor Personol ei chael ar fyfyrwyr?
Mae Tiwtoriaid Personol weithiau’n anghyfforddus yn siarad am faterion emosiynol gyda myfyrwyr, ond rwyf yn hoffi cael sgwrs gonest am straen ac ymdopi â phethau ar ddechrau’r blwyddyn. Rwyf bob amser yn dechrau drwy ofyn i fyfyrwyr am chwaraeon, hobïau, a gweithgareddau eraill y tu allan i’r gradd. Rwyf yn annog myfyrwyr i ddod o hyd i weithgareddau sy’n eu helpu i ymdopi â straen a phwysau’r brifysgol, ac monitro eu dibyniaeth ar strategaethau llai cynhyrchiol megis cyffuriau ac alcohol. Rwy’n ystyried y sgwrs honno fel pwyth mewn amser – gall helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau da.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i gydweithwyr sy’n dechrau ym maes Tiwtora Personol?
Fel Tiwtor Personol, rwyf yn cael fy atgoffa’n gyson o amrywiaeth profiadau dynol. Nid oes myfyriwr normal nac arferol, felly cadwch eich llygaid a’ch clustiau’n agored.

Pa 5 peth y byddech yn eu hargymell fel arferion da ar gyfer Tiwtoriaid Personol? 
Dysgwch enwau eich myfyrwyr! Mae’n andros o bwysig iddynt. Trefnwch gyfarfodydd rheolaidd gyda’ch myfyrwyr fel y gallwch eu helpu i ragweld heriau anochel a’u rheoli. Anogwch eich myfyrwyr i osod amcanion ar gyfer eu hunain nad ydynt wedi’u diffinio gan farciau yn unig. Mae pob un o’r arferion hyn yn ymwneud â bod yn rhagweithiol yn hytrach na bod yn ymatebol, a fydd yn eich helpu i reoli eich rôl a bydd yn annog eich myfyrwyr i fod yn rhagweithiol hefyd.

Bydd yr Adnodd Tiwtora Personol Ar-lein yn fyw yn fuan ac ar gael i’r holl Diwtoriaid Personol, Uwch Diwtoriaid Personol a’r rhai sy’n helpu i gefnogi’r System Tiwtora Personol. Cadwch lygad ar flog CESI am fwy o wybodaeth.