Ddim yn siŵr beth i’w wneud am addysgu ar-lein y flwyddyn nesaf? Peidiwch â phoeni, mae help ar ei ffordd!
23 Mehefin 2020Ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21, bydd angen i ni addasu ein haddysgu i ddull ‘cyfunol’ (gan integreiddio gweithgareddau ar-lein ac ar y campws). Bydd rhai cydweithwyr eisoes yn gyfarwydd â’r dull hwn, ond i eraill bydd hyn yn hollol newydd. Un o linynnau’r Rhaglen Addysg Ddigidol yw creu cyfres o ddigwyddiadau ac adnoddau hyfforddi a datblygu i bawb ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n dysgu neu’n cefnogi addysgu fel y gallwn gynnig profiad addysgol bywiog ac ymgysylltiol i’n myfyrwyr yn 2020/21 a thu hwnt.
Bydd y rhaglen yn dechrau gyda chyfres o bodlediadau, gyda chefnogaeth trafodaethau ar-lein ac adnoddau digidol. Bydd pob grŵp o bodlediadau yn gorffen gyda sesiwn Holi ac Ateb ar thema agored. Byddwn hefyd yn rhyddhau gweminarau, canllawiau fideo a hyfforddiant i gwmpasu unrhyw agweddau sydd angen mwy o fanylion. Yn olaf, mae gennym gyfres o ddigwyddiadau ar-lein cyffrous wedi’u cynllunio gydag arbenigwyr blaenllaw mewn dysgu ar-lein o bob rhan o sector y DU. Gellir gwylio’r rhain yn fyw, neu fel recordiadau.
Bydd y casgliad gyntaf yn canolbwyntio ar hanfodion dysgu ar-lein a chymysg. Bydd y rhain yn cynnwys termau allweddol a chysyniadau craidd, pethau i’w hystyried ar gyfer dylunio cwricwla ar-lein, a phodlediadau yn ehangu ar bum egwyddor y Fframwaith Addysg Ddigidol. Nod y cam hwn yw sefydlu sylfaen gadarn i bawb, waeth beth yw eu profiad.
Bydd y cam nesaf (trwy fis Gorffennaf ac i mewn i fis Awst) yn canolbwyntio ar roi’r syniadau hyn ar waith. Beth yw’r ffyrdd gorau o redeg gweithgareddau addysgu ar-lein neu gyfunol? Beth yw triciau’r dulliau hyn? Beth yw’r ffyrdd gorau o wella ymgysylltiad myfyrwyr? Bydd y rhaglen hefyd yn rhannu nifer o enghreifftiau o addysgu ar-lein, asesu, cefnogi myfyrwyr, a gweithgareddau adeiladu cymunedol. Bydd y rhain yn darparu enghreifftiau o’r opsiynau sy’n agored i chi, ar draws ystod o arbenigeddau pwnc, ar gyfer dysgu ar-lein effeithiol ac atyniadol. Wrth inni symud tuag at ddechrau’r tymor, byddwn yn symud mwy tuag at swyddogaethau manwl yr offer ar-lein sydd ar gael, a sut i gael y gorau ohonynt yn ymarferol.
Wrth symud ymlaen, rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn mynd ati i ymgorffori’r dulliau hyn yn ein DPP sy’n gysylltiedig â dysgu ac addysgu ar gyfer y dyfodol, a ffyrdd y gallwn gefnogi dysgu ar-lein a chyfunol i ddod yn rhan o brofiad bob dydd myfyrwyr mewn swydd yn y byd ôl- Covid-19.
Os oes unrhyw beth yn benodol yr hoffech gael cefnogaeth arno, yna rhowch wybod i ni. O’r mis nesaf ymlaen, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cymorth Addysg Ddigidol newydd ond yn y cyfamser anfonwch e-bost atom yn cesi@cardiff.ac.uk.
Ysgrifennwyd gan Steve Rutherford
Arweinydd Academaidd Hyfforddi a Datblygu’r Rhaglen Addysg Ddigidol