Dathlu ein dysgwyr Cymraeg ar Ddydd Gŵyl Dewi
15 Mawrth 2022Ysgrifennwyd gan Catrin Jones, Rheolwr yr Academi Gymraeg
Eleni, ar Ddydd Gŵyl Dewi, wrth i effeithiau’r pandemig dechrau cilio, cynhaliwyd digwyddiad newydd sbon yn y Deml Heddwch, ‘Dathlu ein Dysgwyr Cymraeg’ – cyfle i ddod at ein gilydd i ddathlu staff ledled y brifysgol sy’n siaradwyr a dysgwyr Gymraeg. Roedd yn holl bwysig fod y digwyddiad yn teimlo’n ‘sbesial’ gyda gwesteion difyr a ddiddorol a fyddai’n gallu rhannu eu profiadau o ddysgu’r Gymraeg.
Roedd yn brynhawn bendigedig, a braf oedd gweld wynebau newydd yn y gynulleidfa. Agorwyd y digwyddiad gan y Dirprwy Is-ganghellor Damian Walford-Davies, a chyflwynodd Gwenllian Grigg (Radio BBC Cymru) y sgwrs gyda’r actores Joanna Scanlan (sydd newydd ennill Bafta!) a’r tiwtor Cymraeg Joseph Gnagbo a ddaeth yn wreiddiol o’r Arfordir Ifori.
Sgwrsio gyda Joanna a Joseph
Soniodd Joanna am ei her ddiweddar o ffilmio cyfres drama newydd yng Nghymru, yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda mentor iaith bersonol yn helpu hi i ddysgu a deall y sgript. Dywedodd ei fod wedi gorfod addasu i ddarllen y sgript gyda’r dafodiaith wedi ei ysgrifennu mewn i’r llinellau – yn wahanol i sgriptiau Saesneg lle mae’r actor yn ychwanegu’r dafodiaith/acen i’r perfformiad. Trafododd ei frwydr gyda threigladau, ac roedd yn ddiddorol clywed Joseff yn ymateb fod treigladau ym mhob iaith, hyd yn oed yn Saesneg ar lafar, ond bod treiglo wedi ei ffurfioli mwy yn y Gymraeg. Rhannwyd awgrymiadau am arferion dysgu, fel ail-adrodd geiriau drosodd a throsodd i ddod i arfer a’u hynganu, ac i ymrwymo i wneud hanner awr bob bore ar un o’r apiau fel “Say Something in Welsh” neu Duolingo. Doedd dim amheuaeth ei fod yn sgwrs ysbrydoledig ac yn llwyddiant mawr. Yr uchelgais nawr yw cynnal digwyddiad tebyg ar ddydd Gŵyl Dewi bob blwyddyn.
Trefn y digwyddiad a diolchiadau
O ran trefniadau’r dydd, roedd yn arbrofol am sawl rheswm: – dyma’r tro cyntaf i ddigwyddiad cymdeithasol fyw cael eu cynnal ar gyfer staff ers dechrau’r pandemig; roedd yn hollol ddwyieithog, gyda’r gwesteion yn siarad yn Gymraeg a Saesneg, a’r dewis o gyfieithu ar y pryd ar gyfer y gynulleidfa; ac ar y funud olaf bu rhaid addasu’r digwyddiad i fformat ‘hybrid’ er mwyn i Joanna Scanlan ymuno yn rhithiol. Diolch byth fod gennym dîm technegol ardderchog yn cynnwys cwmni sain Drake, ag Andy Hilbourne a Lewis Treen o’r Academi DA yn ffilmio. Hoffwn diolch i Elliw Iwan, Huw Williams, Gwenfair Griffith, Robin Hughes, Alaw Hughes, Carys Bradley-Roberts, Llywelyn Lehnert, Ali Carter, Mary-Kate Lewis ag Owen Spacie am ei waith caled i sicrhau fod y digwyddiad yn llwyddiannus.
Cysylltwch â ni
Am ragor o wybodaeth am yr Academi Gymraeg, ewch i ein tudalennau ar y fewnrwyd neu e-bostiwch academi@caerdydd.ac.uk