Skip to main content

Cynhadledd DA

Cynhadledd Dysgu ac Addysgu 2022 – Fy mhrofiad o’r gynhadledd gan Helen Spittle

17 Awst 2022

A minnai’n Gyfarwyddwr yr Academi Dysgu ac Addysgu, roeddwn wrth fy modd yn gweld cydweithwyr a myfyrwyr yn rhannu eu profiadau a’u hastudiaethau achos gyda ni yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni. Roedd yr awyrgylch yn wych ac roedd yn ymddangos bod y rhai oedd yn bresennol wedi mwynhau eu hunain yn fawr.

Roedd cynhadledd 2022 yn gyfle i ni ddod at ein gilydd a chanolbwyntio ar ‘Llwyddiant myfyrwyr: beth yw dyfodol Addysg Uwch i’n myfyrwyr?’. Roedd hi’n hyfryd gweld dros 200 ohonoch yno ar draws y ddau ddiwrnod, wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Diolch yn fawr

Hoffem ni ddiolch i bob un ohonoch chi am eich cyfraniadau egnïol, eich trafodaethau a’ch sylwadau yn ystod y digwyddiad. Hoffem ni hefyd ddiolch i bob un o’n cyflwynwyr a’n harweinwyr yn y gweithdai am gynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu rhagorol. Roedd yn wych myfyrio ar ehangder yr enghreifftiau o arferion rhagorol yn y brifysgol.

Prif anerchiad: ‘Llais y Myfyrwyr: Ymgysylltu â’r metrigau a thu hwnt’

Roedd y straeon, Pecha Kuchas, gweithdai, a’r sesiynau Holi ac Ateb yn esmwyth, ac roeddem ni wrth ein boddau’n croesawu Camille Kandiko Howson o Goleg Imperial Llundain i draddodi araith ar ‘Llais y Myfyrwyr: ‘Ymgysylltu â’r metrigau a thu hwnt’.

Bu’r Prif anerchiad yn trin a thrafod data adborth myfyrwyr y tu hwnt i’r metrigau, gan edrych ar adborth myfyrwyr mewn gwahanol ffyrdd a defnyddio data sydd gennym eisoes, i ofyn cwestiynau mwy deallus i fyfyrwyr, gofyn cwestiynau yn seiliedig ar yr hyn yr ydym eisoes yn ei wybod yn hytrach na’r arfer ‘dywedwch wrthym beth y gallwn ei wneud yn well’.

Mae ein Prosiect Llais y Myfyrwyr yn cynnwys adborth gan fyfyrwyr ar ganol modiwl, ac rydym wedi bod yn ystyried defnyddio offer megis Mentimeter ar ddiwedd darlith, gyda staff naill ai’n ymateb ar unwaith i sylwadau myfyrwyr, neu’n ymateb yn yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir wedyn, fel y mae Camille yn sôn yn ystod ei sgwrs. Gallwch weld fideo o’r hyn sy’n digwydd gyda Llais Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a ble rydym yn mynd.

Tynnodd Camille sylw at yr ymadrodd ‘gweithio ar draws ffiniau’, sy’n golygu peidio ag eistedd yn ein seilos proffesiynol. Fe wnaeth y sgwrs fy helpu i fyfyrio ar rai o’r cyfleoedd sydd o’n blaenau ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym ni’r academi a’r Portffolio Addysg a Phrofiad Myfyrwyr yn herio ffiniau traddodiadol —gan ddod â’r Gwasanaethau Proffesiynol, staff academaidd a staff prosiect ynghyd yn gyfartal i ddylunio cymorth ac atebion ac i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n ymwneud ag ymgysylltu â myfyrwyr . Byddwn yn cynnal cyfres o brosiectau i wella llais myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, a fydd yn cynnwys cyflwyno Fframwaith Llais y Myfyrwyr cyffredinol, ffocws ar gau’r cylch adborth o’r modiwl i themâu ledled y Brifysgol, ac adolygiad Cynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr.

Rydym yn edrych ymlaen at weld beth fydd yn deillio o’n Portffolio Addysg a Phrofiad Myfyrwyr dros y misoedd nesaf.

Uchafbwyntiau

Canolbwyntiodd y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu ar nifer o themâu cyfredol:

  • gwrando ar farn y myfyrwyr
  • asesiadau effeithiol
  • ymagweddau cynhwysol a hygyrch at ddysgu ac addysgu
  • cymuned sy’n dysgu a hunaniaeth carfanau
  • ymgysylltu â myfyrwyr ar-lein

Rhannodd Dr Annabel Cartwright a Dr Richard James Lewis stori wych ar ‘Aseiniadau fideo – cyfle am hwyl a chreadigrwydd fel rhan o’ch cwrs‘, gan ganiatáu i fyfyrwyr fod yn greadigol a chynyddu eu sgiliau cyfathrebu trwy arddangos fideos yn rhan o’u haseiniadau.

Roedd y gweithdy ar-lein gan Dr Jo Smedley ar ‘Datblygu’r Uwch Gymrodoriaeth‘ yn fuddiol ar gyfer deall rhagor am safbwyntiau arweinyddiaeth a rheolaeth. Dywedodd un o staff ein Gwasanaethau Proffesiynol: “Roedd y sesiwn hon yn ardderchog ac mae wedi gwneud i mi deimlo’n fwy hyderus”.

Llongyfarchiadau eto i’r rhai sydd wedi derbyn eu cymrodoriaethau:

Digwyddiadau cyn bo hir

Rydym yn cynnal amrywiaeth o weithdai Datblygiad Proffesiynol Parhaus dros yr haf. Os hoffech gymryd rhan, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich lle. Gallwch weld y rhestr o’r digwyddiadau a gwybodaeth am sut i gadw lle ar dudalen ein digwyddiadau dysgu ac addysgu.

Ddiwedd yr haf, byddwn yn lansio ein rhaglen DPP ar gyfer semester yr hydref. Bydd hwn yn gyfle i gydweithwyr barhau i rannu arfer da. Rhowch wybod i ni beth hoffech i ni ei gynnwys.

Os hoffech gyfrannu at ein cyfres o seminarau drwy gydol y flwyddyn academaidd a rhannu eich arfer da, cadwch lygad am ragor o wybodaeth yn ddiweddarach yn yr haf.

 

Diolch i chi eto am ddod a chyfrannu at gynhadledd lwyddiannus arall. Rwy’n edrych ymlaen at themâu cynhadledd 2023!