Skip to main content

Dathlu rhagoriaeth addysgu

Croeso’n ôl i Gymrodoriaethau

23 Medi 2022
Nathan Roberts, Fellowships Programme Manager
Nathan Roberts, Fellowships Programme Manager

Post blog gan Nathan Roberts, Rheolwr y Rhaglenni Cymrodoriaethau Addysg

Dechrau blwyddyn academaidd newydd 

Mae mis Medi yn fis pwysig iawn i Raglen y Cymrodoriaethau Addysg, rhaglen datblygu dysgu ac addysgu achrededig Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd.  

Ar y naill law, mae llawer o’n cyfranogwyr cynnar wedi cyrraedd penllanw eu taith ddysgu gyda ni ac wedi cyflwyno eu portffolios terfynol. Cyflwynwyd ymhell dros 100 o bortffolios ar ddechrau mis Medi ar draws ein darpariaeth ar gyfer Cymrodorion Cyswllt, Cymrodorion, ac Uwch- gymrodorion.   

Mae ymdrech ac ymgysylltiad pawb sydd ar y rhaglenni wedi bod yn anhygoel. Mae 70 o gyfranogwyr eisoes wedi bod yn llwyddiannus mewn paneli gwobrwyo blaenorol, ac mae’n mynd o nerth i nerth.   

Yn ystod misoedd Medi a Hydref rydym yn croesawu cyfranogwyr newydd i’n rhaglenni. Bydd sawl carfan newydd yn ymuno â ni ar draws ein holl ddarpariaeth yn ystod yr wythnosau nesaf.   

Mae’n galonogol i’n tîm glywed gan gydweithwyr y mae eu hamser ar y Rhaglenni Cymrodoriaeth Addysg wedi llywio eu hyder, eu harbenigedd a’u huchelgais. Byddwn yn rhannu eu safbwyntiau gyda chi yn ystod y flwyddyn i ddod.  

Sesiwn galw heibio  

Rydym ar gael bob amser i drafod sut y gallai Rhaglen y Cymrodoriaethau Addysg eich helpu i ddatblygu eich arferion addysgu eich hun. Rydym yn cynnal sesiwn galw heibio ar-lein ar Zoom bob dydd Mercher rhwng 12:30 a 13:30, ac er bod galw mawr am leoedd, rydym wedi trefnu derbyn carfannau newydd ar draws y flwyddyn.   

Rydym eisoes wedi cynnal sesiwn o’n gweithdy Launchpad dwys, wedi’i ddylunio i baratoi’r newydd-ddyfodiaid i’r byd addysgu mewn cyfnod byr. Mae’r llwybrau ar gyfer Cymrodorion Cyswllt, Cymrodorion ac Uwch-gymrodorion yn barod i ddechrau.   

Dathlu Rhagoriaeth  

Mae ein tîm addysgu craidd o arbenigwyr addysg wedi tyfu a bydd yn parhau i esblygu yn ystod y misoedd nesaf. O’r cychwyn cyntaf, y syniad y tu ôl i Raglen y Cymrodoriaethau oedd y byddent yn eiddo i’n holl Ysgolion academaidd a’n Gwasanaethau Proffesiynol sy’n ymwneud â chefnogi dysgu.  

O ganlyniad, mae tîm estynedig mawr o fentoriaid, aseswyr a ffrindiau beirniadol wedi deillio o bob rhan o’r brifysgol i gefnogi ein cyfranogwyr.   

Diolch o galon iddyn nhw wrth i ni barhau i gynyddu a dathlu llwyddiannau ein hathrawon rhagorol!