Skip to main content

Addysg Ddigidol

Fy mhrofiad o wneud cwrs meicrogredydau gyda’r Brifysgol Agored drwy’r Llwyfan FutureLearn

12 Awst 2022

David John Crowther
Swyddog Cefnogi Technoleg Dysgu

Yn ddiweddar, fe wnes i gwrs meicrogredydau o’r enw Addysgu Ar-lein: Creu Cyrsiau i Ddysgwyr sy’n Oedolion gyda’r Brifysgol Agored. Roedd yn gwrs 12 wythnos a gyflwynwyd yn gyfan gwbl ar-lein trwy eu platfform FutureLearn, gyda thua 12-13 awr yr wythnos o amser astudio.

Rwy’n Dechnolegydd Dysgu ac yn gymharol newydd i’r proffesiwn. Cymorth TG mewn addysg uwch yw fy nghefndir yn bennaf, ac ar wahân i dreulio ychydig o flynyddoedd yn addysgu Saesneg dramor, nid oedd gennyf lawer o brofiad o addysgu, na dealltwriaeth o addysgeg a dylunio dysgu cyn dechrau ar y cwrs. Roeddwn yn awyddus i wella fy nealltwriaeth o’r meysydd hynny a dechrau llenwi’r bylchau gwybodaeth yn fy rôl yn weithiwr technoleg dysgu proffesiynol. Felly bachais ar y cyfle i gael Datblygiad Proffesiynol Parhaus achrededig wedi’i ariannu gan fy nghyflogwr.

Yn fy swydd, rwy’n canolbwyntio ar fyd technoleg dysgu bob dydd, ac yn cynnig cefnogaeth i addysgwyr, gan gynghori ar arferion gorau a chymhwyso ystod o dechnolegau addysgol. Gadewais addysg fy hun flynyddoedd lawer yn ôl. Cwblheais fy ngradd baglor yn 2007. Nid wyf wedi astudio’n ffurfiol ers hynny ac nid oedd gennyf unrhyw brofiad o astudio ar-lein. Roedd yn mynd i fod yn brofiad diddorol i fod yn fyfyriwr eto ar ôl yr holl flynyddoedd hyn, gan ddysgu mewn ffordd nad oeddwn erioed wedi ei brofi. A minnau’n weithiwr technoleg dysgu proffesiynol sy’n gweithio gydag academyddion, mae fy mhrofiad yn bennaf o ochr athro’r hafaliad addysgu a dysgu. Roedd yn mynd i fod yn ddiddorol gweld pethau o safbwynt myfyriwr yn astudio ar-lein.

Rhaid i mi gyfaddef, roedd y syniad o geisio dod o hyd i 12-13 awr yr wythnos i astudio yn ogystal â fy ymrwymiadau eraill yn fy mhoeni. Mae gen i swydd amser llawn a dau o blant cyn oed ysgol. Nid yw diwrnod arferol i mi yn gorffen tan tua 8:30pm, ar ôl i ddyletswyddau gwaith a gofal plant gael eu gwneud, felly roedd yn rhaid i mi geisio dod o hyd i amser i astudio pryd y gallwn yn ystod fy niwrnod gwaith, gyda’r nos, ac ar benwythnosau. Yn ogystal, roeddwn yn ymwybodol iawn o’r ffaith fy mod yn ymgymryd ag astudio ar lefel ôl-raddedig, ochr yn ochr ag addysgwyr proffesiynol a gweithwyr proffesiynol technoleg dysgu a oedd yn fy marn i’n llawer mwy clyfar, gwybodus, a phrofiadol na mi. Roeddwn i’n nerfus am drio ymddangos yn ddeallus, yn poeni y byddai cynnwys y cwrs yn rhy anodd i mi ac y byddwn i’n cael trafferth ymdopi â’r gwaith.

Cefais fy mhrofiad cyntaf o ddefnyddio FutureLearn gyda’r cwrs hwn. Roeddwn yn ymwybodol ohono, yn gwybod beth ydoedd, ac yn gwybod bod platfformau tebyg ar gael megis Coursera, ond nid oeddwn erioed wedi defnyddio’r platfform i astudio o’r blaen. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl ac felly es ati gyda meddwl agored.

Fy argraffiadau cyntaf o’r platfform oedd bod y rhyngwyneb yn lân a’i fod yn hawdd llywio o gwmpas y cwrs. Roedd wedi’i osod yn dda mewn strwythur llinol gyda chynnwys pob wythnos mewn trefn gan ei gwneud yn hawdd ei ddilyn. Roeddwn i’n hoffi’r ffordd y cafodd ei strwythuro er mwyn i ddysgwyr allu camu drwy’r cynnwys mewn trefn, gan adeiladu cynnwys pob wythnos ar y blaenorol ac yn arwain i mewn i’r nesaf. Wrth i mi symud ymlaen drwy’r cwrs a chwblhau tasgau, roedd bar cynnydd yn rhoi arwydd gweledol i mi o ble roeddwn i bob wythnos, pa dasgau roeddwn i wedi’u cwblhau a beth oedd ar ôl i mi ei wneud o hyd, felly roeddwn i bob amser yn gwybod ble roeddwn i yn fy astudiaethau. Fe wnaeth hyn fy helpu i gadw pethau dan reolaeth a gallwn neidio i mewn ac allan o’r cwrs, gan ail-ddechrau lle gadewais pan oedd yn gyfleus i mi.

Roedd Wythnos 1 yn ymwneud yn bennaf ag ymgyfarwyddo, dod i adnabod y platfform, cyflwyniadau i’r tiwtoriaid a dysgwyr eraill, cael gwybod lle gallwn i fynd am gymorth pe bai angen, a chyflwyniad ysgafn i ddeunydd y cwrs cyn dechrau arni’n iawn. Roedd yr wythnos gyntaf hon yn hollbwysig i mi gan i mi adael addysg flynyddoedd lawer yn ôl ac roedd dysgu ar-lein yn brofiad newydd i mi. Fe wnaeth fy mharatoi ar gyfer yr hyn oedd i ddilyn a rhoi syniad clir i mi o’r hyn i’w ddisgwyl o’r cwrs. Mae hyn yn werthfawr mewn cwrs ar-lein, yn enwedig i’r rhai sy’n newydd i ddysgu ar-lein. Rwy’n dod o gefndir TG a gallaf ymgyfarwyddo’n gyflym â phlatfform newydd, ond efallai nad oes gan eraill y sgiliau digidol hynny i ddechrau ac efallai eu bod yn nerfus am astudio ar-lein. Mae rhoi’r hyder a’r gefnogaeth i ddysgwyr ymgysylltu’n llawn yn eu paratoi’n dda ac yn cynyddu’r tebygolrwydd y byddant yn llwyddo yn eu hastudiaethau. Rwy’n meddwl bod hwn yn gam hanfodol y dylid ei gynnwys ym mhob cwrs ar-lein ac mae’n sicr yn rhywbeth y byddaf yn ei gadw mewn cof yn fy ymarfer fy hun.

Roedd hefyd yn werthfawr cael y cyfle i ddod i adnabod y dysgwyr eraill ar y cwrs. Hwyluswyd hyn drwy’r adrannau trafod ar waelod pob tudalen o’r cwrs. Gallem ryngweithio â dysgwyr eraill trwy bostio sylwadau i gyflwyno ein hunain, gofyn cwestiynau, a rhannu gwybodaeth a mewnwelediadau. Roedd hyn yn bwysig ar gyfer meithrin ymdeimlad o gymuned o’r cychwyn cyntaf. Cefais fy synnu ar yr ochr orau. Roeddwn i’n falch nad oedd angen i mi deimlo’n nerfus am lefel fy arbenigedd o gymharu â’r dysgwyr eraill. Roedd llawer ohonyn nhw yn yr un cwch ac roedd ganddyn nhw deimladau a phryderon tebyg am y cwrs. Fe wnaeth hyn fy helpu i ymlacio a gwneud i mi deimlo’n rhan o gymuned o ddysgwyr yn cefnogi ac yn dysgu oddi wrth ein gilydd. Roeddwn i’n teimlo’n fwy cyfforddus yn gofyn cwestiynau oherwydd gwnaed yn glir nad oedd unrhyw gwestiwn yn rhy wirion a doedd dim pwysau i geisio ymddangos yn ddeallus. Gallwn i ymgysylltu â’r cwrs yn ôl fy nhelerau fy hun, yn fy mhwysau fy hun a theimlo fy mod yn cael fy nghefnogi gan y tiwtoriaid a dysgwyr eraill.

Yn ystod wythnosau cyntaf y cwrs, roeddwn yn llawn cymhelliant ac wedi cadw trefn ar fy astudiaethau, gan lwyddo i gwblhau’r holl dasgau, gwneud sylwadau mewn trafodaethau a gwneud y 12-13 awr astudio wythnosol ddisgwyliedig. Yn ffodus pan ddechreuais ar y cwrs, roedd hi’n gyfnod tawelach yn y gwaith, a chefais amser yn ystod fy niwrnod gwaith i astudio ychydig. Rwy’n meddwl y byddwn wedi cael trafferth cwblhau’r gwaith pe bawn i’n dibynnu ar ychydig oriau yn unig gyda’r nos ac ar benwythnosau i astudio.

Efallai ei fod yn ymddangos yn ddiog, ond ar ôl diwrnod llawn yn gweithio ar gyfrifiadur ac yna dyletswyddau gofal plant tan 8.30pm, y peth olaf roeddwn i eisiau ei wneud gyda’r nos oedd eistedd i lawr wrth fy nghyfrifiadur eto i dreulio mwy o oriau yn astudio. Roeddwn wedi blino cymaint erbyn hynny nad wyf yn credu y byddwn ni wedi cofio’r hyn roeddwn yn ei astudio. Fel arfer roeddwn wedi blino’n lân ac eisiau gorwedd ar y soffa, ymlacio a gwylio Netflix. Roedd gen i gyfle i weithio ar benwythnosau, ond eto, gyda dau o blant ifanc, roeddwn yn bennaf yn treulio amser gyda’r teulu y dyddiau hynny. Cefais ychydig o amser i astudio, ond nid llawer. Yn ogystal â swydd amser llawn a chyfrifoldebau teuluol, roedd hefyd angen cysgu, bwyta a chael amser i ymlacio. Mae’n anodd canolbwyntio ar waith, teulu ac astudio drwy’r dydd, bob dydd. Rwy’n edmygu’r rhai sydd â’r stamina a’r ymrwymiad i wneud hyn. Yn anffodus, dydw i ddim yn un ohonyn nhw.

Mae’n anodd iawn bod yn fyfyriwr rhan-amser sy’n ceisio cydbwyso astudio ochr yn ochr â gwaith a gofal plant. Mae’n her wirioneddol i gynnal cymhelliant. Roeddwn yn frwdfrydig iawn yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf. Roedd popeth dan reolaeth. Yna dechreuodd gwyliau’r ysgol, ac fe es i â fy nheulu i ffwrdd am wythnos o wyliau. Es â fy ngliniadur gyda mi, yn bwriadu astudio ychydig tra i ffwrdd, ond nid oedd gan y garafán lle’r oeddem yn aros mynediad i’r rhyngrwyd a heb unrhyw opsiynau eraill, roedd astudio yn amhosibl. Erbyn i ni ddychwelyd adref, roeddwn i wythnos ar ei hôl hi ar y cwrs. Roedd hyn yn cyd-daro â chyfnod prysurach yn y gwaith, gan olygu bod gennyf lai o amser i astudio yn ystod y dydd, a dechreuais ddisgyn ymhellach ar ei hôl hi. Daeth wythnos ar ei hôl hi yn bythefnos, ac yna tair. Erbyn hyn roeddwn yn cael trafferth i gadw i fyny ac yn colli cymhelliant. Mewn ymdrech i wneud iawn am yr amser a gollwyd, dechreuais fabwysiadu agwedd fwy arwynebol at y cwrs, gan ymgysylltu llai â’r cynnwys nag y byddwn wedi dymuno. Roeddwn i’n ceisio gwneud y darllen a’r gweithgareddau mor gyflym ag y gallwn i ddal i fyny. Wnes i ddim darllen y tu hwnt i ddeunydd y cwrs, a chymerais lai a llai o ran yn y trafodaethau, gan wneud llai o sylwadau a hoffi negeseuon y dysgwyr eraill, a thalu llai o sylw i atebion i’m sylwadau fy hun. Dydw i ddim yn meddwl mai fi oedd yr unig un oedd yn teimlo fel hyn. Wrth i’r wythnosau fynd heibio, roedd nifer y negeseuon yn y meysydd trafod yn amlwg yn mynd yn llai. Mae’n ymddangos bod dysgwyr eraill wedi mabwysiadu agwedd debyg i mi ac yn ceisio brysio trwy’r cwrs i gyrraedd y diwedd a chyflwyno eu haseiniad.

Doeddwn i ddim yn hoff iawn o feysydd ‘trafod’ y cwrs. Oherwydd ei natur anghydamserol, a dysgwyr yn cyrraedd ar wahanol gyfnodau ac adegau o’r cwrs, roeddwn yn aml yn hwyr yn ymuno mewn ‘trafodaethau’. Roedd dysgwyr eraill eisoes wedi cwblhau’r adran honno o’r cwrs, wedi gwneud sylwadau yn yr adran drafod, ac wedi symud ymlaen. Roeddwn yn teimlo fy mod mewn ystafell sgwrsio wag yn darllen sylwadau blaenorol cyn-gyfranogwyr yn hytrach na sgwrs/trafodaeth amser real. Fe wnes i wneud sylwadau weithiau, ond nid oeddwn yn disgwyl cael llawer o atebion, os o gwbl. Byddai wedi bod yn well gen i rywbeth mwy cydamserol ar gyfer gweithgareddau trafod lle gallwn ryngweithio â’r tiwtoriaid a dysgwyr eraill mewn amser real. Yn y diwedd, y profiad a gefais oedd llawer mwy o ddysgu annibynnol yn hytrach na dysgu gydag eraill. Roedd yn anodd ymgysylltu a bod yn rhan o gymuned ddysgu pan oeddwn yn ceisio dal i fyny. Fe wnes i astudio ar fy mhen fy hun yn bennaf.

Agwedd arall ar y cwrs na wnes i ei fwynhau oedd y cwisiau wythnosol. Roeddent braidd yn fympwyol. Yn hytrach na phrofi ac atgyfnerthu fy nealltwriaeth o gynnwys yr wythnos, roedd yn teimlo’n debycach i ymarfer i weld a allwn ddysgu ac ailadrodd ffeithiau, ystadegau neu ddarnau o ddeunydd y cwrs ar y cof. Yng nghamau diweddarach y cwrs, roeddwn yn rhuthro drwy’r cynnwys i gadw i fyny, gan ymgysylltu’n achlysurol ac yn llai dwfn. Weithiau roedd bwlch o ychydig ddyddiau cyn dychwelyd at y gwaith, gan olygu ei bod hi’n anodd cofio beth roeddwn i wedi’i wneud yn gynharach yr wythnos honno. Yn ystod y cwis wythnosol, roeddwn yn aml yn cael trafferth cofio’r cynnwys ac yn methu ateb rhai o’r cwestiynau ar unwaith. Roeddwn yn gorfod mynd yn ôl trwy gynnwys yr wythnos honno i chwilio am yr ateb. Doeddwn i ddim yn teimlo bod y cwisiau yn weithgareddau dysgu effeithiol. Roeddent yn dasgau eraill yr oedd yn rhaid i mi eu cwblhau mor gyflym â phosibl cyn symud ymlaen.

Un agwedd o’r cwrs roeddwn i’n ei hoffi oedd bod yna weithgareddau i ddechrau meddwl amdanyn nhw a pharatoi’r cynnwys ar wahanol adegau, a byddai’r rhain yn cael eu cynnwys yn yr aseiniad terfynol. Hoffais y dull clytwaith hwn, gan adeiladu, diwygio, a gwella fy aseiniad wrth i mi fynd ymlaen. Roedd hyn yn lleihau’r pwysau oherwydd pan ddaeth yr amser i gwblhau a chyflwyno fy aseiniad, roeddwn eisoes wedi gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith. Rwy’n dychmygu pe na bawn wedi dechrau gweithio ar yr aseiniad tan ddiwedd y cwrs, byddwn wedi cael trafferth gwybod beth i’w wneud a chyflwyno cyn y dyddiad cau.

Roeddwn yn pryderu na fyddwn yn gallu cwblhau a chyflwyno fy aseiniad mewn pryd a chwblhau’r cwrs. Wrth i’r wythnosau olaf agosáu, a’r cynnwys droi at baratoi ein haseiniadau i’w cyflwyno, roeddwn i dal ychydig wythnosau ar ei hôl hi. Fe wnes i ystyried rhoi’r gorau iddi yn gyfan gwbl ond fe wnes i ddyfalbarhau. Gwnes i ruthro trwy gynnwys yr wythnosau olaf er mwyn i mi allu canolbwyntio ar gwblhau a chyflwyno fy aseiniad, ond llwyddais i grynhoi a chyflwyno rhywbeth. Nid oedd cystal ag y byddwn wedi hoffi iddo fod serch hynny. Cefais drafferth fawr wrth ysgrifennu’r rhesymeg a oedd, yn fy marn i, yn rhannol oherwydd nad oeddwn wedi ymgysylltu’n ddwfn iawn â chynnwys y cwrs. Nid oedd gennyf ddealltwriaeth ddigon da o’r deunydd i ysgrifennu rhesymeg argyhoeddiadol â thystiolaeth dda i gefnogi fy mhenderfyniadau dylunio dysgu. Roeddwn yn falch fy mod wedi gallu cyflwyno rhywbeth erbyn y dyddiad cau serch hynny, hyd yn oed os nad oedd yn dda iawn. Rwy’n gobeithio fy mod wedi gwneud digon i basio o leiaf.

Roedd yn rhyddhad mawr pan gyflwynais fy aseiniad o’r diwedd. Roedd yn waith caled, ac roedd y cwrs meicrogredydau wedi rheoli fy mywyd am y 12 wythnos flaenorol. Nawr fy mod wedi ei orffen. Gallaf anghofio amdano a symud ymlaen at bethau eraill.

Gan adlewyrchu ar y 12 wythnos a dreuliais yn astudio ar y cwrs, er ei fod yn heriol ac yn straen ar adegau, rwy’n falch fy mod wedi’i wneud ac rwy’n meddwl fy mod wedi elwa ohono. Er nad yw wedi fy nhrawsnewid yn feistr technoleg dysgu gyda dealltwriaeth ddofn o addysgeg, rwy’n teimlo fy mod wedi dysgu llawer. Roedd y cynnwys yn ddigon o gyflwyniad i’r gwahanol gysyniadau i fod yn fan cychwyn ar gyfer astudiaeth bellach. Un o fanteision cwblhau’r cwrs yw eich bod yn gallu cael mynediad at ddeunyddiau’r cwrs wedyn. Bydd hwn yn adnodd defnyddiol i mi gyfeirio ato wrth i mi barhau i ddatblygu’n broffesiynol. Roedd hefyd yn ddefnyddiol iawn cael profiad o bersbectif o safbwynt y myfyriwr, gan geisio cwblhau cwrs lefel ôl-raddedig eithaf dwys ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith a theulu. Gwelais i wir pa mor heriol ydyw.

A fyddwn i’n rhoi cynnig ar gwrs meicrogredydau 12 wythnos arall tebyg i hwn? Na, nid yn y dyfodol agos o leiaf. Nid yw’n realistig i mi ar hyn o bryd gyda’r pwysau eraill yn fy mywyd, ac ar ôl bod allan o addysg ffurfiol cyhyd, nid wyf yn hollol barod ar gyfer astudiaeth lefel ôl-raddedig eto. Cefais drafferth gyda’r ysgrifennu academaidd a dysgu sut i gyfeirnodi’n iawn. Rwy’n meddwl pe bawn i’n ceisio eto, byddai angen i mi gwblhau cwrs sgiliau astudio yn gyntaf neu efallai gwrs byr ar baratoi ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig.

A hoffwn i gwblhau cyrsiau byr eraill ar FutureLearn? Hoffwn, yn bendant. Roeddwn i wir yn hoffi’r platfform, sut roedd y cwrs wedi’i strwythuro a sut rydych chi’n cael eich tywys trwy’r deunyddiau yn eu trefn. Mwynheais y darllen, y tasgau, a’r gweithgareddau myfyrio bob wythnos. Roedd yn gwrs diddorol iawn ac i rywun tebyg i fi, nad oes ganddo’r opsiwn o ddychwelyd i addysg amser llawn ar gwrs ar y campws, mae’r hyblygrwydd i allu astudio gartref yn fy mhwysau fy hun yn fantais enfawr. Mae’n fy ngalluogi i barhau i ddysgu a datblygu ar fy nhelerau fy hun, ar gyflymder sy’n gweithio i mi. I mi, roedd FutureLearn yn cynnig dewis amgen gwych i gwrs wyneb yn wyneb. Mewn sawl ffordd roedd yn well gen i hwn na ffurfiau mwy traddodiadol o addysg. Roeddwn i wir yn teimlo fy mod yn astudio ar gwrs iawn, ochr yn ochr â dysgwyr eraill, yn hytrach na dim ond gwylio fideo tiwtorial ar LinkedIn Learning neu rywbeth tebyg.

Rydw i eisoes wedi gwneud rhestr fer o gyrsiau eraill yr hoffwn eu cwblhau ar FutureLearn. Maent yn llawer haws eu rheoli o ran ymrwymiad amser gyda dim ond 2-3 awr o astudio’r wythnos. Mae hynny’n syniad llawer mwy realistig i mi. Rwy’n ystyried talu am danysgrifiad FutureLearn diderfyn er mwyn cael mynediad i ragor o gyrsiau. Gan ei fod yn £19.99 y mis (gostyngiad o £9.99 am y misoedd cyntaf), credaf ei fod yn werth da am arian o ystyried ansawdd y cyrsiau a’r platfform. Nid oes gan y cyrsiau byr derfynau amser penodol sy’n golygu y gallaf eu cwblhau pan fydd yn gyfleus i mi, heb bwysau i gwrdd â therfynau amser.

Pe bawn i’n gallu newid unrhyw beth am y cwrs meicrogredydau a wnes i, byddai’n rhaid cael dyddiadau cau llai llym ar gyfer cyflwyno, efallai gyda sawl pwynt cyflwyno wedi’u gwasgaru drwy gydol y flwyddyn i roi rhywfaint o hyblygrwydd a dewis i ddysgwyr o ran pryd y gallant gyflwyno eu gwaith. Byddai hynny’n llai o bwysau ac yn caniatáu i ddysgwyr fel fi gael rhagor o ryddid i astudio ar eu cyflymder eu hunain. Gall y pwysau i gadw i fyny â chwrs 12 wythnos a chyflwyno erbyn y dyddiad cau fod yn ormod i rai pobl, gallai arwain at golli diddordeb ac yn y pen draw rhoi’r gorau iddi yn gyfan gwbl. Rwy’n credu y byddai cael rhagor o hyblygrwydd yn cynyddu annibyniaeth dysgwyr ac y byddai’n unol ag egwyddorion UDL a gwmpesir yn y cwrs.

Rwy’n falch o’r profiad o wneud y cwrs meicrogredydau. Ni fyddwn am ei wneud eto, ond fe wnes i elwa llawer ohono. Roedd cynnwys y cwrs yn uniongyrchol berthnasol i’m gwaith yn dechnolegydd dysgu mewn addysg uwch a byddaf yn cymhwyso llawer o’r cysyniadau a’r syniadau yn fy ymarfer fy hun.