Skip to main content

Heb gategori

Cynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 – Arwain trwy esiampl: creu awyrgylch cynhwysol ar-lein

27 Awst 2021
Joyful young woman with headset having online conference, working from home, copy space. Happy curly lady making video call with friends or lover, using laptop, living room interior

Roedd y Prosiect Mentora Ffiseg yn hapus i drafod eu profiadau diweddar o addysgu ar-lein yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu. Bu Rosie Mellors, Cydlynydd Cenedlaethol yn siarad am y prosiect, â’r camau a gymerwyd i greu awyrgylch cynhwysol ar-lein.

Y Prosiect Mentora Ffiseg

Mae’r Prosiect Mentora Ffiseg yn brosiect cydweithredol sy’n ceisio magu hyder y myfyrwyr prifysgol a’r disgyblion ysgol sy’n cymryd rhan a chynyddu’r niferoedd sy’n astudio Ffiseg Safon Uwch. Mae ethos y prosiect yn canolbwyntio ar y gred bod pawb, waeth beth fo’u cefndir, eu nodweddion, neu eu gallu, yn ffisegydd a bod astudio ffiseg yn arwain at ddatblygu nifer helaeth o sgiliau trosglwyddadwy sy’n eich galluogi i i ddilyn gyrfaoedd mewn amrywiaeth eang o feysydd.

Symud Ar-lein

Symudodd y Prosiect Mentora Ffiseg ar-lein mewn ymateb i bandemig COVID-19. Roedd hyn yn gofyn am addasu dwy elfen graidd o’n rhaglen:

  • Hyfforddiant Mentoriaid – Rhaglen pythefnos o hyfforddiant ar gyfer ein mentoriaid israddedig ac ôl-raddedig.
  • Sesiynau Mentora – Sesiynau grŵp bach yn yr ysgol ar gyfer mentoreion B9-11, dan arweiniad ein mentoriaid israddedig ac ôl-raddedig.

Wrth ystyried sut y byddem yn trosglwyddo ein hyfforddiant mentor ar-lein, gwnaethom ystyried ein nodau craidd:

  • Creu ymrwymiad a brwdfrydedd am ethos y prosiect
  • Creu cymuned ac adeiladu perthynas
  • Datblygu hyder, sgiliau a gwybodaeth

Mae’r rhain yr un peth â’n nodau craidd ar gyfer y sesiynau mentoreion a symudwyd ar-lein hefyd. Daeth yn amlwg mai ein her ar gyfer yr hyfforddiant oedd arwain trwy esiampl: Wrth arddangos amgylchedd dysgu cynhwysol ar gyfer ein hyfforddiant mentor israddedig ac ôl-raddedig, byddai eu sgiliau yn cryfhau hefyd.

Pedair elfen ein diwylliant cynhwysol

Roedd angen i’r hyfforddiant Mentor greu ac arddangos diwylliant lle roedd croeso i’r bobl a’u cyfraniadau. Fe benderfynon ni bod hyn yn cynnwys pedair elfen allweddol:

  1. Gwahodd cyfranogwyr i fod yn naturiol yn y man hyfforddi,
  2. Creu lle diogel ar gyfer cyfraniadau,
  3. Ennyn cyfraniadau trwy gael gwared ar rwystrau, ac
  4. Addasu’r man hyfforddi wrth gydweithio â’r mentoriaid.

Gall cyflawni’r uchod fod mor syml â’r gweithgaredd rhagarweiniol a wnaethom ym mhob sesiwn, pan ofynnwyd i bawb rannu eu henw/llysenw, eu rhagenwau (os yn gyffyrddus), a’r ateb i gwestiwn ysgogi (ee beth ydych chi’n ei gael i ginio?). Atebwyd y pedair elfen gan y gweithgaredd hwn trwy:

  1. Wahodd y mentoriaid i ddod a rhannu eu hunaniaeth,
  2. Creu lle diogel ar gyfer cyfraniadau trwy wahodd ymateb i gwestiynau risg isel,
  3. Ennyn cyfraniadau, ar lafar, yn ystod munudau cyntaf y sesiwn a gwerthfawrogi eu hymatebion trwy sgwrsio, a
  4. Chreu’r gweithgaredd hwn mewn cydweithrediad â’r mentoriaid a rhoi mwy o amser iddynt gyflwyno eu hunain i’w gilydd cyn ymuno â’r grwpiau bach.

Profiad y Mentor

Rhannodd y mentor ffiseg, Nkosi, hefyd sut y trosglwyddodd yr hyn a ddysgodd yn yr hyfforddiant mentor i ddatrys yr heriau a gafodd yn ei sesiynau mentorai.

Yr hyn sy’n allweddol i gyflwyno’n llwyddiannus wrth barhau i feithrin perthynas yw brwdfrydedd a pharch at ein gilydd. Gall mentor wneud ymdrech i werthfawrogi pob cyfraniad, fodd bynnag y Rhyngrwyd sy’n ysgrifennu; mae’n cymryd llawer o ddewrder i fentorai deipio ymateb. Mae sgyrsiau ar-lein yn teimlo’n bwrpasol oherwydd eu bod yn barhaol, felly gall defnyddio personoliaeth, gweithgareddau torri’r garw a hiwmor helpu i gynnal sgyrsiau hamddenol ar-lein. Ni fydd pawb yn ymateb i weithgareddau torri’r garw ac mae hynny’n iawn, peidiwch â gorfodi cyfraniad: dim ond ei wneud mor agored â phosib. Gall cyd-fentor sicrhau bod popeth yn y sgwrs yn cael ei werthfawrogi ac nad oes unrhyw beth yn cael ei anwybyddu. Gwnewch sesiynau’n gynhwysol trwy ofyn am lysenwau a rhagenwau, enghraifft wych o ennyn cyfraniad trwy gael gwared ar rwystrau cymdeithasol.

Mae dysgwyr yn cysylltu cynnwys (ac emosiynau tuag at y cynnwys hwnnw) â’r ffordd y gwnaethon nhw ei ddysgu. Dylid cyflwyno cynnwys gan ystyried arddulliau dysgu’r mentoreion, a bod yn hyblyg i ganiatáu ar gyfer cyfrannu mewn sawl cyfrwng (ee mentimeter, emojis, negeseuon sgwrsio, ffurflenni myfyrio ar ddiwedd sesiwn) yn ddienw i sicrhau’r ymgysylltiad mwyaf posibl. Mae’n anodd cyflwyno i sgrin wag, ond gall emojis roi mynegiant i negeseuon sgwrsio. Mae wynebu’r camera a chael cyswllt llygad hefyd yn helpu cyfranogwyr i gysylltu â’r gwesteiwr.

Mae pobl ar-lein yn aml yn ymddangos yn anghyflawn, ond gallwn gyflwyno ein hunain yn well! Mae rhannu ein personoliaethau yn dangos i’r mentoreion fod mentoriaid yn fwy na pherson sy’n hoffi ffiseg yn unig. Mae angen i ni wrthod perffeithiaeth, gan fod camgymeriadau yn ein gwneud ni’n ddynol mewn cyfrwng sydd fel arall yn robotig.

Yn olaf, mae cael recordiadau o sesiynau ac adborth mentorai yn helpu i fyfyrio ar y cyflwyno a gwella profiad y mentoreion, ond hefyd yn gwella ein sgiliau a’n galluoedd ein hunain.

Prif Argymhellion

Ein hargymhelliad pwysicaf, pa bynnag adnoddau rydych yn penderfynu eu defnyddio i greu cymuned gyda’ch dysgwyr, yw creu’r amser ar gyfer y gweithgareddau hynny. Pan fydd amser yn brin, mae’n demtasiwn i’w gadael, ond mae’r rhain yn rhan allweddol o greu awyrgylch diogel a brwdfrydedd ymhlith eich dysgwyr. I gael syniadau ac argymhellion ychwanegol, gweler y sleidiau cyflwyniad, recordiad o’r sesiwn, neu cysylltwch â’r tîm mentora ffiseg.