Cwrdd â Bettie Heatley, ein Swyddog Gweinyddol
31 Hydref 2023Elizabeth Heatley yw fy enw i ond Bettie yw fy llysenw.
Rwy’n Swyddog Gweinyddol yn nhîm Prosiectau a Gweithrediadau’r Academi Dysgu ac Addysgu ond rwy’n gweithio yn unig ar y Rhaglenni Cymrodoriaethau Addysg.
Ers faint rydych chi wedi bod yn eich swydd a beth sydd ynghlwm wrthi?
Ymunais â’r Academi Dysgu ac Addysgu ym mis Mai 2021 i sefydlu a rhedeg y prosesau a’r systemau ar gyfer cefnogi’r Rhaglenni Cymrodoriaethau Addysg.
Dywedwch ragor wrthon ni am hanes eich gyrfa …
Rwyf wedi cael tipyn o amrywiaeth o swyddi, gan gynnwys cynorthwyydd labordy, yn gweithio yn adran hysbysebu recriwtio y Western Mail & Echo ac roeddwn hyd yn oed yn rhedeg fy musnes gemwaith vintage fy hun am gyfnod. Fy rôl hiraf serch hynny, oedd gweithio fel Ymchwilydd Lleoedd Trosedd i Heddlu De Cymru am 14 mlynedd.
Beth a wnaeth eich denu i’r rôl hon?
Yn wreiddiol, ymunais â’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd fel Cynorthwyydd Gweinyddol, lle roeddwn yn ffodus i allu dysgu pob agwedd ar gefnogi rhaglenni mewn cyfnod byr. Rhoddodd hyn y profiad oedd ei angen arnaf i wneud cais am fy rôl bresennol.
Beth yw eich cyflawniad mwyaf hyd yn hyn – yn broffesiynol?
Cefnogi dros 300 o gyfranogwyr Rhaglenni Cymrodoriaethau Addysg i ennill eu gwobrau Cymrodoriaeth Cyswllt, Cymrodoriaeth neu Uwch Gymrodoriaeth.
Beth yw’r peth gorau rydych chi wedi’i ddarllen, ei wylio neu wrando arno y mis hwn?
Succession! (Un o’r pethau gorau rydw i wedi’i wylio – erioed)
Cwrdd â mwy o aelodau o’r Academi Dysgu ac Addysgu
Cwrdd â Kat Harris, Swyddog Gweinyddol yn y tîm Ymgysylltu â Myfyrwyr yn yr Academi Dysgu ac Addysgu, sy’n dweud wrthym am ei rôl a hanes ei gyrfa.