Creu profiadau dysgu sy’n ennyn diddordeb ym maes Addysg Uwch: rôl cerddoriaeth
7 Mawrth 2024Yn y blog isod mae Michael Willett o Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd yn archwilio rôl cerddoriaeth mewn ennyn diddordeb ym maes Addysg Uwch.
Mae llawer o ffyrdd y gallwn greu profiadau ysgogol i’n dysgwyr ac sy’n ennyn eu diddordeb. Er enghraifft, gan dynnu o ystod eang o strategaethau a dulliau sydd wedi’u nodi yn y llenyddiaeth addysg, efallai y byddwn yn:
- Strwythuro ein sesiynau addysgu yn fwriadol mewn fformat neu drefn benodol. Er enghraifft, mae Bligh (2000) yn argymell torri darlithoedd yn segmentau o tua 20 munud, gyda chyfleoedd ar gyfer dysgu gweithredol rhwng pob segment.
- Defnyddio amrywiaeth o wahanol fathau o weithgareddau dysgu, lle gall dysgwyr ryngweithio, ymchwilio, arbrofi, creu, darganfod, ac yn y blaen (gweler, er enghraifft, Young a Perović, 2016; CAST, 2018).
- Defnyddio hanesion diddorol, adrodd straeon neu gyfeiriadau cyfarwydd o’r cyfryngau a diwylliant poblogaidd i ennyn diddordeb dysgwyr â chynnwys cymhleth neu anghyfarwydd. Er enghraifft, mae gwahanol ysgolheigion yn trafod defnyddio Star Wars fel cyfrwng i helpu dysgwyr i ddeall ac ymgysylltu â Llenyddiaeth Saesneg (Doescher, 2013), Hanes (Reagin a Liedl, 2012) a Pheirianneg (Shostack, 2023).
Mae’r blog hwn yn canolbwyntio ar sut y gallwn hefyd ddefnyddio cerddoriaeth i greu profiadau dysgu sy’n ennyn diddordeb mewn ystod eang o gyd-destunau a disgyblaethau ar lefel Addysg Uwch, hyd yn oed pan nad yw’r deunydd pwnc ei hun yn gerddorol. Mae’r blog hwn yn ategu digwyddiad ‘Caffi’r Byd’ Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd Mawrth 2024 ar yr un thema.
Mae’r llenyddiaeth yn nodi amrywiaeth o ffyrdd y mae dysgwyr ac athrawon wedi defnyddio cerddoriaeth i wella dysgu mewn cyd-destunau Addysg Uwch, ac y gallem ystyried eu mabwysiadu yn ein harfer ein hunain, fel y dangosir yn y ffeithlun isod:
Yma ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Dr Emma Yhnell (Ysgol y Biowyddorau) a Dr Andreia de Almeida (Ysgol Meddygaeth) wedi cydweithio yn ddiweddar i ddatblygu cyfres o ddulliau cerddorol arloesol i greu amgylcheddau mwy deniadol ac ysgogol ar gyfer dysgu, yn bennaf mewn darlithoedd israddedig mawr. Mae’r rhain wedi cynnwys:
- ‘Ceisiadau am ganeuon‘, lle gwahoddir myfyrwyr i gyflwyno awgrymiadau ar gyfer caneuon sy’n gysylltiedig â’r deunydd a’r cynnwys sydd wedyn yn cael eu chwarae ar ddechrau’r darlithoedd. Er enghraifft, gofynnodd un myfyriwr am ‘Total Eclipse of the Heart’ gan Bonnie Tyler am ddarlith ar gyhyrau cardiaidd.
- ‘Disgos bach‘, lle defnyddir cerddoriaeth mewn seminarau i roi hwb i hwyliau dysgwyr a chreu awyrgylch bywiog.
- ‘Rhestrau chwarae‘, lle caiff dysgwyr eu hannog i weithio gyda’i gilydd i lunio llyfrgell fach o ganeuon sy’n berthnasol i’r maes pwnc gan ddefnyddio Spotify, sydd ar gael am gyfnod y modiwl a’r cyfnod adolygu, ac sy’n parhau i dyfu drwy gydol y cyfnod hwn.
Gyda’i gilydd, mae’r dulliau hyn wedi cael ystod drawiadol o adborth cadarnhaol gan ddysgwyr a chydweithwyr, gan dynnu sylw at werth ac effaith cerddoriaeth ar gymhelliant dysgwyr, creu amgylcheddau croesawgar a chynnal diddordeb yn y maes pwnc. I gael gwybod mwy am y prosiect hwn, gweler astudiaeth achos byr Microsoft Sway a grëwyd gan Emma ac Andreia.
Er y gallai rôl cerddoriaeth wrth feithrin cymunedau dysgu fod yn faes archwilio cymharol newydd i ni yma yng Nghaerdydd, mae ein haddysgwyr ysbrydoledig wedi defnyddio cerddoriaeth i wella dysgu mewn ffyrdd eraill ers peth amser. Yn ôl yn 2007, roeddwn i’n fyfyriwr israddedig ail flwyddyn yn astudio Saesneg Iaith. Rwy’n cofio seminar Ffonoleg arbennig o bleserus yn semester yr hydref dan arweiniad yr Athro Gerard O’Grady, lle defnyddiom y geiriau o’n hoff ganeuon i ymarfer trawsgrifio ffonemig. Rhoddodd yr addasiad syml hwn – sy’n gofyn am bâr o glustffonau a’r rhyddid i ddewis ein deunydd ffynhonnell ar gyfer trawsgrifio yn unig – gyfle inni weithio gydag ymadroddion a mynegiannau cyfarwydd, lleihau’r rhwystredigaethau o orfod gwrando ar yr un peth sawl gwaith, ac roedd yn caniatáu inni ymarfer trawsgrifio geiriau ac ymadroddion mewn cyd-destun, yn hytrach nag ar eu pennau eu hunain. Trodd hyn yr hyn oedd wedi teimlo fel tasg anhreiddadwy i ddechrau yn rhywbeth oedd o fewn ein gafael, ac roedd yr hwyliau yn y dosbarth yn codi tristwch prynhawn gwlyb ym mis Tachwedd yn gyflym. Mae’r seminar yn aros yn y cof fel un o brofiadau dysgu mwyaf bywiog a deniadol fy ngradd israddedig. Dwi erioed wedi edrych ar Bohemian Rhapsody na Summer of ’69 yr un ffordd ers hynny.
Nid gwella cymhelliant a diddordeb dysgwyr yw’r unig fanteision i ymgorffori cerddoriaeth yn ein dull gweithredu. Mae amrywiaeth o fanteision eraill a nodwyd yn y llenyddiaeth, gan gynnwys:
- Rheoleiddio emosiynol, a buddion i iechyd meddwl: Gall cynhyrchu neu wrando ar gerddoriaeth yn rheolaidd wella ein gallu i brosesu, derbyn, mynegi a rheoleiddio emosiynau (Kim a Kim, 2018; Welch et.al, 2020; Faulkner, 2022; Wang et.al, 2022). At hynny, mae cydberthynas amlwg rhwng cerddoriaeth sy’n fywiog neu yn y cywair llon a’r canfyddiad o hapusrwydd yn y gwrandäwr (Juslin, 2020; Gartside, 2022). [1] Ymhellach, mae gwaith ymchwil yn awgrymu y [2] gall cerddoriaeth gydag elfennau melodig a harmonig sy’n rhagweladwy ac yn gytseiniol ryddhau dopamin yn yr ymennydd (Aur et.al, 2019; cf Daikoku et.al, 2013) – h.y., y teimlad o wobrwyo.
- Buddion i iechyd corfforol: Mae Knight a Rickard (2001) yn nodi y gall ymgysylltu â cherddoriaeth ostwng pwysedd gwaed trwy leihau lefelau straen.
- Llai o bethau i dynnu sylw rhai dysgwyr (Doyle a Furnham, 2012).
- Lefelau uwch o greadigrwydd dysgwyr a’r gallu i wneud cysylltiadau a chymdeithasau (Wang et.al, 2022; Doyle a Furnham, 2012).
Fel gydag unrhyw ddull addysgol, mae cafeatau i’w hystyried. O ystyried amrywiaeth ein dysgwyr a’u hanghenion (Thomas a May, 2010), mae’n anochel efallai na fydd rhai myfyrwyr yn cael yr un manteision o’r defnydd o gerddoriaeth ag eraill. Er enghraifft, efallai na fydd pob dysgwr yn ystyried bod cerddoriaeth gefndirol yn eu hymlacio (Haake, 2011; Doyle a Furnham, 2012). Yn wir, efallai y bydd rhai dysgwyr niwroamrywiol yn ystyried ysgogiadau clywedol ychwanegol yn heriol i’w prosesu. Ymhellach, er bod effeithiau cerddoriaeth ar lefelau emosiwn a straen wedi’u dogfennu’n dda, ymddengys nad oes fawr o dystiolaeth y gall cerddoriaeth roi hwb i lefelau cynhyrchiant, er gwaethaf honiadau deniadol rhai cyhoeddiadau – rhywbeth mae Nuhfer (2005) yn cyfeirio ato fel ‘olew neidr academaidd’. Mae hefyd yn bwysig ystyried gwahaniaethau diwylliannol yn y systemau tonaidd ac o ran cynhyrchu a chanfyddiad cerddoriaeth, ac i sicrhau nad yw’r gwahaniaethau hyn yn creu rhwystrau i ddysgu. Yn olaf, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o unrhyw oblygiadau cyfreithiol a hawlfraint, sy’n cynnwys gwneud yn siŵr nad yw unrhyw gerddoriaeth a recordiwyd yn cael ei hail-recordio gan ein meddalwedd Panopto.
O ystyried y manteision posibl o ddefnyddio cerddoriaeth wrth ddysgu ac addysgu, mae’n amlwg bod hwn yn faes sy’n deilwng o’i archwilio ymhellach. Os ydych chi wedi defnyddio cerddoriaeth i greu profiadau dysgu sy’n ennyn diddordeb, byddwn wrth fy modd yn clywed mwy, felly cysylltwch!
[1] Mae’r gwrthwyneb hefyd yn wir am gerddoriaeth gyda thempo arafach a/neu yn y cywair lleiaf.
[2] Mae hyn yn cyfeirio at ddefnyddio cyfyngau cerddorol penodol sy’n cael eu hystyried yn eang mewn cymdeithasau Gorllewinol fel rhai ‘llyfn, cytûn ac sydd â falans cadarnhaol’ (Di Stefano et.al, 2022). Y gwrthwyneb yw cyfyngau anghytseiniol neu sy’n gwrthdaro.
Canfod Mwy
Bydd sesiwn Caffi’r Byd a Chlinig Addysgu yn canolbwyntio ar rôl cerddoriaeth mewn addysg uwch ddydd Gwener 15 Mawrth. Mae croeso i bawb a gallwch gofrestru a gweld y manylion ar y mewnrwyd.
Cyfeiriadau
Bligh, D. (2000) What’s the Use of Lectures? San Francisco: Jossey-Bass.
CAST (2018) ‘Universal Design for Learning Guidelines’. Ar gael ar-lein yn http://udlguidelines.cast.org, cyrchwyd ar 16.1.24.
Crowther, GJ, Adjapong, E., a Jenkins, L.D. (2023) ‘Teaching science with the “universal language” of music: alignment with the Universal Design for Learning framework’. Ar gael ar-lein, cyrchwyd ar 30.10.2023.
Daikoku, T., Ogura, H., a Watanabe, M. (2013) ‘The variation of hemodynamics relative to listening to consonance or dissonance during chord progression’. Neurological Research, 34(12). https://doi.org/10.1179/1743132812Y.0000000047
Doescher, I. (2013) William Shakespeare’s Star Wars: Verily, A New Hope. Philadelphia: Quirk Books.
Di Stefano, N., Vuust, P., a Brattico, E. (2022). ‘Consonance and dissonance perception. A critical review of the historical sources, multidisciplinary findings, and main hypotheses’. Physics of Life Reviews. 43, 273-304. https://doi.org/10.1016/j.plrev.2022.10.004
Doyle, M., a Furnham, A. (2012) ‘The distracting effects of music on the cognitive test performance of creative and non-creative individuals’. Thinking Skills and Creativity 7, 1: 1-7. https://doi.org/10.1016/j.tsc.2011.09.002
Faulkner, SC (2022) ‘Rhythms of learning—a model of practice supporting youth mental health in the era of COVID-19’. J. Psychol. Couns. Sch. 1–7. doi:10.1017/jgc.2021.33.
Gartside, C. (2022) ‘Music’s potential to overcome barriers in higher education’. Advance-HE News and Views. Ar gael ar-lein yn https://www.advance-he.ac.uk/news-and-views/music-potential-to-overcome-barriers, cyr chwyd 16.1.2024.
Gold, BP, Mas-Herrero, E., Zeighami, Y., a Zatorre, R.J. (2019) ‘Musical reward prediction errors engage the nucleus accumbens and motivate learning’. PNAS 116 (8), 3310-3315. https://doi.org/10.1073/pnas.1809855116
Juslin, P., N. (2020) ‘Neural Correlates of Music and Emotion’. Yn M.H. Thaut aD.A. Hodges (goln.) The Oxford Handbook of Music and the Brain. Rhydychen: Oxford University Press. tt. 285-332.
Haake, AB (2011) ‘Individual music listening in workplace settings: An exploratory survey of offices in the UK’. Musicae Scientiae, 15(1), 107-129. https://doi.org/10.1177/1029864911398065
Kim, HS, a Kim, H.S. (2018) ‘Effect of a musical instrument performance program on emotional intelligence, anxiety, and aggression in Korean elementary school children’. Psychol. Music 46, 440–453. https://doi.org/10.1177/0305735617729028
Knight W. E. J., a Rickard N.S. (2001) ‘Relaxing music prevents stress-induced increases in subjective anxiety, systolic blood pressure, and heart rate in healthy males and females’. J. Music Ther. 38;4(254):272.
Kumar, T., Akhter, S., Yunus, MM, a Shamsy, A. (2022) ‘Use of Music and Songs as Pedagogical Tools in Teaching English as Foreign Language Contexts’. Ar gael ar-lein, cyrchwyd ar 30.10.2023.
Ludke, K.M. (2013) ‘Songs and Music’. In Dressman, M., a Sadler, R. W. (goln.) The Handbook of Informal Language Learning. Hoboken, NJ: Wiley-Blackwell.
Nuhfer, EB (2005) ‘De Bono’s red hat on Krathwohl’s head: Irrational means to rational ends – more fractal thoughts on the forbidden affective: Educating in fractal patterns XIII’. National Teaching and Learning Forum 14(5), 7-11.
Reagin, N.R., a Liedl, J. (2012) Star Wars and History. Hoboken, NJ: John Wiley and Sons, Inc.
Shostack, A. (2023) Threats: What Every Engineer Should Learn from Star Wars. Hoboken, NJ: Wiley.
Thomas, L. a May, H. (2010) ‘Inclusive Learning and Teaching in Higher Education’. Report for the Higher Education Academy (Advance-HE bellach). Ar gael ar-lein yn https://www.advance-he.ac.uk/knowledge-hub/inclusive-learning-and-teaching-higher-education, cyr chwyd 16.1.24.
Wang, F., Huang, X., Zeb, S., Liu, D., a Wang, Y. (2022) ‘Impact of Music Education on Mental Health of Higher Education Students: Moderating Role of Emotional Intelligence’. Ar gael ar-lein, cyrchwyd ar 30.10.2023.
Watanabe, K., Ooishi, Y., a Kashino, M. (2017) ‘Heart rate responses induced by acoustic tempo and its interaction with basal heart rate’. Scientific Reports 7, 438-56:
Weinhaus, AJ, a Massey, JS (2015). Pre-lecture reviews with anatomy tunes. HAPS Educator 19(3): 35-38.
Welch, G.F., Biasutti, M., MacRitchie, J., McPherson, GE, a Himonides, E. (2020) ‘The impact of music on human development and well-being’. Frontiers in Psychology, 11:1246. https://doi.org/10.3389/fpsyg.2020.01246
Werner, R. (2018) ‘Music, movement and memory: Pedagogical songs as mnemonic aids’. TESOL 9, 4: 1-11. https://doi.org/10.1002/tesj.387
Yhnell, E., a de Almeida, A. (2023) ‘Using music to enhance the learning experience in Higher Education’. Adnodd a luniwyd ar gyfer y Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt, Prifysgol Caerdydd. Ar gael ar-lein yn https://sway.cloud.microsoft/3BaaGr2gziJ66GOA?ref=Link, cyrchwyd ar 16.1.2024.
Young, C., a Perović, N. (2016) ‘Rapid and Creative Course Design: As Easy as ABC?’. Procedia – Social and Behavioral Sciences 228, 390-395. DOI: http://dx.doi.org/10.1016/j.sbspro.2016.07.058