Blog Hyrwyddwyr y Flwyddyn
28 Gorffennaf 2022Blog Hyrwyddwyr y Flwyddyn
Wrth i’r Cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr ddirwyn i ben ar gyfer y flwyddyn academaidd 21/22, roedd y tîm staff eisiau gwobrwyo’r Hyrwyddwyr sydd wedi mynd y tu hwnt i ofynion drwy gydol y flwyddyn academaidd hon, felly maent wedi cyflwyno’r wobr newydd, Hyrwyddwyr y Flwyddyn. Mae hyn er mwyn dathlu a gwobrwyo eu llwyddiannau a’u cyflawniadau.
Llongyfarchiadau i Saffron ac Ioana ar ennill Hyrwyddwyr Myfyrwyr y Flwyddyn.
Mae Saffron ac Ioana wedi dangos lefel wych o ymroddiad i’r cynllun ac wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o wella profiadau myfyrwyr y Brifysgol. Maent nid yn unig wedi ymwneud â phrosiectau a thasgau lluosog ond hefyd wedi bod yn fodlon derbyn gwaith ar y funud olaf i helpu eu cyd-Hyrwyddwyr Myfyrwyr. Mae’r lefel hon o ymroddiad ynghyd â safon uchel o waith yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan bob un ohonom a hoffem ddiolch yn fawr iawn a llongyfarchiadau am fod yn Hyrwyddwr y Flwyddyn eleni.
Dyma farn Saffron ac Ioana am y cynllun:
Saffron
Mae bod yn hyrwyddwr myfyrwyr wedi bod yn brofiad hynod ddiddorol o’r dechrau i’r diwedd. Rwyf wedi cael y cyfle i archwilio profiad myfyrwyr o safbwynt hollol wahanol i fy mhrofiadau personol yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ers 4 blynedd.
Mae gweithio gyda’r tîm hyrwyddwr myfyrwyr yn caniatáu datblygu sgiliau amrywiol. Mae fy sgiliau rheoli amser a threfnu wedi gwella, gan fy mod wedi rheoli gwaith yr hyrwyddwr ochr yn ochr â’m gradd. Y datblygiad mwyaf yw fy mod wedi magu hyder wrth ryngweithio â staff y brifysgol a chymryd rhan mewn tasgau na fyddai wedi apelio ataf ar ddechrau fy nghyfnod yn y brifysgol.
Rwy’n hoffi meddwl fy mod wedi cael effaith gadarnhaol ar brofiad myfyrwyr cyfredol a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn y dyfodol. Mae gweithio ar dasgau amrywiol drwy gydol y flwyddyn wedi rhoi cyfle i mi wneud gwahaniaeth i brofiad y myfyrwyr. Fodd bynnag, mae gweithio ar y prosiect ‘Cysylltedd’ yn Ysgol y Biowyddorau wedi fy ngalluogi i weld yr effaith gadarnhaol yr wyf i a’r tîm o staff a hyrwyddwyr eraill wedi’i chael ar brofiad myfyrwyr. Cefnogwyd hyn gan yr adborth ansoddol a meintiol helaeth a gawsom gan fyfyrwyr Biowyddoniaeth. Rwy’n gobeithio y gellir ymestyn y prosiect ‘Cysylltedd’ i ysgolion eraill yn y brifysgol yn y dyfodol agos.
Manteision bod yn hyrwyddwr myfyrwyr yw ei fod yn gynllun hyblyg sy’n cyd-fynd â’m gradd i. Mae’r gallu i gymryd rhan mewn amrywiaeth o dasgau a phrosiectau yn adeiladu set amrywiol o sgiliau. Yn ogystal, mae bod yn hyrwyddwr yn cynnwys cyfarfod a gweithio ochr yn ochr â thîm hyfryd o bobl, boed hyn yn Dîm Ymgysylltu â Myfyrwyr, aelodau staff neu hyrwyddwyr eraill. Mae’r gwaith rydw i wedi’i wneud eleni wedi arwain at fwy o syniadau a chyfleoedd pellach i gymryd rhan ynddynt.
Ioana
Rydw i wedi bod yn hyrwyddwr myfyrwyr ers 2 flynedd bellach ac rydw i wrth fy modd yn cael effaith ar brofiad fy nghyd-fyfyrwyr. Rydw i wedi bod yn ymwneud â gwella arolygon, y weithdrefn amgylchiadau esgusodol ar ôl COVID, a gweithredu’r defnydd o Mentimeter, yr offeryn rhyngweithiol newydd.
Mae fy sgiliau wedi ehangu’n aruthrol yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf. Rydw i wedi camu y tu allan i’m parth cysur heb ofni amdano gan fod y tîm wedi bod yn gefnogol iawn.
Nid oeddwn yn hoffi cael tynnu fy llun ac nid oeddwn yn mwynhau ysgrifennu creadigol, ond yn y swydd hon cefais y cyfle a chefnogaeth i greu nifer o erthyglau a fideos. Felly, dechreuais deimlo’n llai ofnus wrth wynebu tasgau roedd gen i sgiliau rhagofynnol ar eu cyfer, ac erbyn hyn rwy’n teimlo’n fwy parod ar gyfer cyfweliadau a swyddi i raddedigion.
Mae’r profiad hwn hefyd wedi gwella fy sgiliau rheoli amser ac wedi rhoi blas i mi o sut beth yw gweithio mewn amgylchedd proffesiynol lle mae darlithwyr a Pherchnogion Prosiect Allanol yn gydweithwyr i chi ac yn eich trin ar yr un lefel. Rydw i wedi dysgu sut i drefnu fy amserlen i gynnwys digon o amser ar gyfer fy ymrwymiadau prifysgol yn ogystal â thasgau diddorol.
Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i wella’r drefn amgylchiadau esgusodol drwy adrodd yn ôl i’r brifysgol am y problemau a’r adborth cadarnhaol gan fyfyrwyr. Rydw i hefyd wedi mwynhau cyfrannu at ddatblygiadau technolegol trwy esbonio i ddarlithwyr pam a sut y dylid defnyddio offer megis Mentimeter yn ystod darlithoedd.
Rhagor o Wybodaeth
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn hyrwyddwr myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd 22/23, byddant yn cynnal ail gam y recriwtio ym mis Medi. Bydd rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar y fewnrwyd yn fuan.
Yn yr un modd, os ydych yn aelod o staff sydd â diddordeb mewn gweithio gyda’n Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn ystod y flwyddyn nesaf, cofrestrwch eich diddordeb yma.