Taflu Goleuni ar Fis Hydref 2021
8 Mehefin 2022Taflu Goleuni ar Fis Hydref 2021
Ysgrifennwyd gan: Geena Whiteman and Phoebe Bowers.
Dros y misoedd diwethaf, mae Phoebe a minnau (Geena) wedi bod yn gweithio gyda Liz Irvine o ENCAP i adolygu rhaglen tiwtora personol ENCAP. Roeddem am ddeall, o safbwynt y myfyrwyr, beth oedd yn gweithio’n dda a beth oedd angen ei gwella, gan gynnwys beth y dylai sesiynau tiwtora personol ganolbwyntio arno a sut i gynnwys myfyrwyr mewn modd cymdeithasol er mwyn gwella eu profiad yn ENCAP fwy fyth. Gwnaeth y ddwy ohonom fynd ati o safbwyntiau gwahanol. Gan mai un o fyfyrwyr ôl-raddedig (a chynfyfyrwyr israddedig) ENCAP yw Phoebe, mae ganddi brofiad bywyd o’r system, tra fy mod i’n dod o brifysgolion gwahanol a chyrsiau gradd gwahanol, sy’n golygu fy mod i’n ‘rhywun o’r tu allan’. Gwnaethom gydweithio i ddatblygu arolwg i fyfyrwyr gymryd rhan ynddo. Roedd yn gofyn iddynt, yn ôl blwyddyn, a oedd y rhaglen tiwtora personol yn gweithio iddynt. Gwnaethom ddod â’r prosiect i ben drwy lunio adroddiad terfynol i’w adolygu gan dîm ENCAP. Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi syniad o farn y myfyrwyr am y rhaglen tiwtora personol ac yn awgrymu sut i wella’r rhaglen ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol.