Skip to main content

Hyrwyddwyr MyfyrwyrYmgysylltu a myfyrwyr

Hyrwyddwyr y Mis – Jade a Shloka

8 Mehefin 2022

Llongyfarchiadau i Jade a Shloka sydd wedi cael eu henwi’n Hyrwyddwyr y Mis ar gyfer mis Ebrill.

Mae Jade wedi gwneud gwaith gwych, ac mae bob amser wedi bod yn hynod ymroddedig i’r prosiectau y mae wedi bod yn rhan ohonynt, LinkedIn Learning a Llais y Myfyrwyr. Mae Jade wedi rhoi o’i hamser i’r cynllun wrth reoli blwyddyn ar leoliad gwaith llawnamser!

Mae Shloka wedi gwneud cyfraniadau gwych at y trafodaethau ar gyfer prosiect ‘Llais Myfyrwyr BIOSI ym Mlwyddyn 1’. Mae ei gwybodaeth o safbwynt myfyriwr wedi helpu i lywio’r gwaith hwn. Mae wedi dangos llawer iawn o ymrwymiad ac ymroddiad i’r cynllun, gan fynd i’r afael â’r tasgau a gynigiwyd iddi.

Yn cyflwyno ein hyrwyddwyr presennol

Bob mis, rydym yn cyhoeddi ein hyrwyddwr myfyrwyr y mis ac yn rhannu gwybodaeth am ein sbotoleuadau prosiect.