Skip to main content

Addysg DdigidolYmgysylltu a myfyrwyr

Gwella ymgysylltiad myfyrwyr gan ddefnyddio Mentimeter ym Mhrifysgol Caerdydd

1 Mehefin 2022

Rydym wedi bod yn llunio’r Cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd am y tair blynedd diwethaf. Pan ddaeth fy nghydweithwyr o’r Tîm Ymgysylltu â Myfyrwyr ataf fis Medi diwethaf a gofyn i mi weithio gyda’r Hyrwyddwyr eto, roeddwn yn gyffrous i rannu fy syniadau prosiect gyda nhw a chlywed am eu hawgrymiadau a’u hargymhellion ar gyfer eu profiadau dysgu.

Mae rôl Technolegydd Dysgu yn cynnig llawer o gyfleoedd gwych i weithio’n uniongyrchol gyda myfyrwyr a gwella eu profiadau dysgu digidol, felly dyma oedd fy mhrif flaenoriaeth ar gyfer prosiect eleni.

Er i mi gymryd rhan yn y broses o gyflwyno Mentimeter yn 2018, dylunio a chynnal sesiynau hyfforddi ar gyfer ein cydweithwyr a bod yn gyswllt ‘Menti’ yn y brifysgol, roeddwn i eisiau cael rhagor o wybodaeth am sut mae’n cael ei ddefnyddio wrth addysgu. Roeddwn i eisiau clywed gan ein myfyrwyr a chael gwybod beth oedd eu barn am y system ymateb cynulleidfa hon a sut mae’n cael ei defnyddio yn eu dosbarthiadau. Roeddwn i eisiau ystyried sut y gallem wella ei ddefnydd a’i ddyluniad a chael mwy o gydweithwyr a myfyrwyr i ymuno â Mentimeter.

Cefais ddwy fyfyrwraig brwdfrydig iawn i helpu gyda’r prosiect hwn a’i lunio — Ioana Bold (myfyriwr meistr integredig yn ei blwyddyn olaf, o’r Ysgol Peirianneg) a Fatima Bibi (myfyriwr Meistr yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth). Ar ddechrau mis Tachwedd, cawsom gyfarfod rhagarweiniol, lle sefydlwyd nodau ac amcanion y prosiect, yr amserlen, y canlyniadau a gynlluniwyd a’r camau nesaf. Rhan arloesol o’r prosiect oedd hyfforddi’r myfyrwyr yn llawn mewn Mentimeter drwy Academi Mentimter, cwrs wedi’i ardystio’n llawn lle mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn ennill ardystiad hyfforddwr unwaith y bydd y cwrs wedi’i gwblhau. Elfen greadigol arall oedd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi sy’n wynebu’r staff a chyflwyno canfyddiadau eu prosiect i hysbysu ac ysbrydoli cydweithwyr academaidd, ac awgrymu ffyrdd o ddefnyddio Mentimeter ac ymgysylltu â myfyrwyr.

Bu’r myfyrwyr yn dylunio, dosbarthu a dadansoddi canlyniadau’r arolwg ddiwedd Ionawr. Mae cymuned y myfyrwyr wedi dangos diddordeb mawr ynddo, gan ystyried mai prosiect ar raddfa fach oedd hwn gydag amserlen dynn. Gellir dod o hyd i gwestiynau a chanlyniadau’r arolwg yma: https://www.mentimeter.com/s/28cc2ac7a09c07fb0b2b3dcc32ed7013/12d2e0ef671f

Yng ngham olaf y prosiect creodd y myfyrwyr . Fe wnaethon nhw roi persbectif personol a mewnwelediad i’w profiad. Isod gweler myfyrdod Ioana ar sut roedd hi’n teimlo am gymryd rhan a’r gwerth a roddodd i’w bywyd prifysgol a’i hymarfer.

Beth wnaeth eich cymell i gymryd rhan yn y prosiect hwn?

Er bod cynnwys ansawdd fy narlithoedd wedi bod yn wych, nid oedd llawer ohonynt yn ennyn diddordeb. Mae’r myfyrwyr wedi cael digon o wylio PowerPoints syml ar gyfer pob darlith ac roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i newid hynny. Yn aml nid ydym yn sylweddoli pa mor hawdd yw gwella ein cyflwyniadau a’u gwneud yn fwy atyniadol er mwyn arbed i’n cyfoedion fynd i gyfarfodydd/cyflwyniadau diflas o hyd. Gan fy mod yn astudio gradd STEM, ni ddysgais i sgiliau dylunio graffeg, felly roeddwn yn falch o weld pa mor hygyrch oedd Mentimeter i bobl debyg i mi 😊

Pa ddulliau wnaethoch chi eu defnyddio i fodloni nodau ac amcanion y prosiect?

Ar ôl dwy awr o hyfforddiant yn yr academi Mentimeter i gyrraedd lefel ganolradd roedd gen i’r sgiliau i gynhyrchu cyflwyniad proffesiynol. Roedd yn ddiddorol dylunio’r arolwg. Roedd angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn gofyn ystod eang o gwestiynau ar ddefnyddio Mentimeter mewn lleoliad academaidd, gan gynnwys yr holl fyfyrwyr a mathau o leoliadau academaidd (h.y. darlithoedd, tiwtorialau, seminarau) heb i’r cwestiynau fod yn ailadroddus.

Roedd y dadansoddi hefyd yn bwysig iawn gan fod gennym lawer iawn o ddata (bron i 300 o ymatebwyr) i’w grynhoi heb golli syniadau a barn unrhyw un. 

Dynameg grwp y prosiect – sut oeddech chi’n teimlo am y bartneriaeth hon

Dyma un o’r prosiectau gorau i mi weithio arno. Rwyf wedi datblygu fy sgiliau ac wedi dysgu sut i wneud pethau eraill ar wahân i arolygon ar Mentimeter, sydd wedi bod yn ddiddorol iawn. 

Sut wnaethoch chi gydbwyso amser/llwyth gwaith a’ch astudiaethau?

Gan fod y prosiect hwn yn ddiddorol iawn ac yn ddefnyddiol ar gyfer fy astudiaethau hefyd, roedd yn hawdd ei integreiddio gyda fy astudiaethau prifysgol. Fel arfer byddwn yn neilltuo dwy awr yr wythnos i gwblhau’r tasgau. 

Ydych chi’n meddwl bod y prosiect hwn yn dod ag unrhyw werth i fyfyrwyr a staff Brifysgol Caerdydd? Beth yw hyn?

Ydw, yn bendant. Rwy’n credu y gellir gwella profiad prifysgol i bawb trwy ddefnyddio Mentimeter. Gall myfyrwyr gymryd rhan heb ofni gwneud camgymeriadau a chael eu barnu a gall y darlithwyr weld mewn amser real pa bynciau sy’n anodd iddynt a pha bynciau maent wedi’u deall yn dda iawn. Yn y modd hwn, nid oes angen aros tan ddiwedd y semester ar gyfer gwerthuso modiwlau.

O ystyried bod y prosiect wedi’i gynnal dros 3 mis yn unig, cafodd y myfyrwyr ganlyniadau rhagorol. Fe wnaethant gydlynu agweddau penodol o’r prosiect ar eu pen eu hunain, dylunio’r arolwg, ymgysylltu â’r cymunedau staff a myfyrwyr, a dadansoddi a dehongli’r canlyniadau mewn ffordd syml ond pwerus. Yn fy marn i, cawsant lawer o sgiliau gwerthfawr (megis hyfforddiant ardystiedig Menti). Rwy’n teimlo eu bod wedi dod yn aelodau hyderus o’r tîm ac yn barod i fentro ymhellach. Roedd eu cymhelliant, eu hymgysylltiad a’u parodrwydd i wella profiad Mentimeter ar draws y brifysgol yn amlwg iawn.

Rhagor o wybodaeth:Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Mentimeter ar dudalennau mewnrwyd Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd.