Skip to main content

Heb gategori

Beth yw asesiadau dilys?

11 Awst 2021

Os ydych chi eisoes wedi clywed am asesiadau dilys, byddwch chi’n gwybod nad yw’r syniad yn un newydd. Maen nhw’n un o’r dulliau mwyaf ymarferol o werthuso cyrsiau. Drwy gynnal asesiadau dilys, bydd y myfyrwyr yn cymhwyso’r wybodaeth maen nhw wedi ei dysgu drwy gydol y cwrs, gan ddefnyddio’r dulliau a’r offer a ddefnyddir yng ngweithgareddau’r byd go iawn. Mae’n rhaid i fyfyrwyr ddefnyddio eu barn i benderfynu pa wybodaeth a sgiliau sy’n berthnasol i ddangos eu bod wedi cyflawni’r deilliannau dysgu.

Pam maen nhw’n bwysig?

Lluniwyd asesiadau dilys i wella perfformiad myfyrwyr yn y dyfodol. Maen nhw’n golygu y gall staff lunio tasgau effeithiol a deniadol sy’n rhoi profiadau dysgu mwy ystyrlon i fyfyrwyr. Mae’n gweithio yn sgîl creu’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu a dysgu sgiliau bywyd ar ôl i’r staff ymgorffori tasgau’r byd go iawn yn rhan o’u modiwlau.

Mae asesiadau dilys yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr gymhwyso sgiliau gwybodaeth a rhesymu i’w gwaith dysgu. Wrth wneud hynny, gall myfyrwyr ddatblygu priodoleddau a sgiliau trosglwyddadwy sy’n ganolog i’r gweithle.

Beth sy’n gwneud asesiad yn ddilys?

(Ffynhonnell: Browne, S. a Sambell, K. (2021) Asesu ar ôl pandemig: defnyddio dulliau asesu dilys drwy ganolbwyntio ar y dyfodol [Sleidiau cyflwyniad ar gyfer Prifysgol Caerdydd])

Er mwyn sicrhau bod eich aseiniadau wedi eu llunio’n ddilys a’u bod yn helpu myfyrwyr i ddatblygu, tyfu, cymryd rhan a llwyddo, dylech chi ystyried y canlynol: A yw’n caniatáu i’r myfyriwr ddefnyddio ei farn, ei greadigrwydd a’i arloesedd? A yw’n caniatáu i’r myfyriwr ddangos ystod eang o sgiliau sy’n ymwneud â phroblem gymhleth? A yw’r dasg yn defnyddio gweithgaredd sy’n digwydd yn y byd go iawn? A yw’n caniatáu i’r myfyrwyr ddefnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau? (Wiggins 1998) (Lynch 2010 wedi’i ddyfynnu yn A, Arthur 2012)

Sut olwg sydd ar Asesiadau Dilys?

Gellir defnyddio asesiadau dilys mewn sawl ffordd fydd yn gweddu i’ch cwrs. Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o asesiadau dilys y gallwch chi eu defnyddio:

Asesiadau llafar

Mae cyflwyniadau,arholiadau llafar a’r thesis tair munud ond yn ychydig o enghreifftiau y gallwch chi eu cynnwys yn eich modiwlau i asesu myfyrwyr. Mae asesiadau llafar yn golygu bod modd datblygu sgiliau cyfathrebu sy’n bwysig ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. I gael awgrymiadau ac ysbrydoliaeth ar sut i ddefnyddio asesiadau llafar dilys yn rhan o’ch addysgu, edrychwch ar y canllaw byr hwn a chlipiau fideo yn y dolenni o aelodau eraill o’r staff sy’n rhannu eu profiadau.

Asesiadau creadigol digidol

Ydych chi eisiau creu asesiad sy’n dangos deilliannau dysgu tra’n datblygu sgiliau y mae eu hangen mewn cymdeithas sy’n mynd yn fwy digidol byth? Mae fideos, gwefannau, blogiau, recordiadau sain a phosteri ymhlith yr  enghreifftiau asesu dilys y gallech chi eu defnyddio. Darllenwch flog Dr Rikke Duus (academydd o Goleg Prifysgol Llundain), Preparing students for the workplace sy’n esbonio pam a sut y cyflwynodd asesiadau digidol yn ei modiwl.

Asesiadau llyfr agored

Mae asesiadau llyfr agored yn ffordd wych o brofi sgiliau myfyrwyr wrth iddyn nhw gymhwyso, dadansoddi a gwerthuso. Maen nhw’n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu cymwyseddau graddedigion ac yn pontio i waith addysg uwch. Mae asesiadau llyfr agored yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddefnyddio ystod eang o adnoddau pan fydd yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio eu barn i benderfynu pa sgiliau a gwybodaeth sy’n berthnasol. Maen nhw’n adlewyrchu cyd-destunau yn y byd go iawn ac yn rhoi profiadau dysgu mwy perthnasol ac ystyrlon i fyfyrwyr.

Portffolios

Portffolio academaidd yw casgliad trefnus o dystiolaeth o brofiadau, cyflawniadau a datblygiad myfyriwr yn ystod modiwl, cyfnod o amser neu raglen gyfan. Mae portffolio yn gofyn i fyfyrwyr gasglu’r dystiolaeth orau a meddwl yn feirniadol am sut maen nhw wedi cyflawni’r deilliannau dysgu a sut maen nhw’n myfyrio ar eu profiadau. Fel darn o waith a asesir, gall ledaenu llwyth yr asesiadau dros gyfnod o amser gan roi’r cyfle i’r myfyrwyr gael adborth cefnogol wrth i’r portffolio gael ei ddatblygu.

Cymerwch gip ar y sleidiau o’r gweithdy Portffolio a gynhelir gan CESI.  Cyflwynodd y siaradwr gwadd, Dr Chris Deneen o Brifysgol Melbourne ei ymchwil ar e-bortffolios.

Am ragor o enghreifftiau sy’n dangos sut mae prifysgolion eraill wedi gweithredu asesiadau dilys da edrychwch yma.

Sut i sicrhau bod eich asesiad dilys yn llwyddiant?

Mae cynnwys myfyrwyr ar ddechrau ac wrth gyd-greu asesiadau yn hanfodol i lwyddiant gweithredu asesiadau dilys. Mae ymchwil yn awgrymu bod ymgysylltu â myfyrwyr yn un o ragamodau llwyddiant.

Angen cymorth?

Os hoffech chi wybod rhagor am asesiadau dilys neu os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â Thîm Datblygu Cwricwlwm CESI.

Os ydych chi’n aelod o staff, gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am asesu ac adborth yng Nghaerdydd drwy ddarllen ein tudalennau ar y fewnrwyd.

Ysgrifennwyd gan Chloe Rideout, Swyddog Gweinyddol sy’n gweithio gyda Thîm Datblygu Cwricwlwm CESI


Llyfryddiaeth

Prifysgol Caerdydd (2020) Blog-Vlog [ar-lein] Ar gael yn:  Blog-Vlog.pdf (caerdydd.ac.uk) [Cyrchwyd ar 27  Ebrill 2021]

 Prifysgol Caerdydd (2020) Exam-Open Book [ar-lein] Ar gael yn: Exam-open-book.pdf (caerdydd.ac.uk) [Cyrchwyd ar 27  Ebrill 2021]

Prifysgol Caerdydd (2020) Poster [ar-lein] Ar gael yn: Poster.pdf (caerdydd.ac.uk) [Cyrchwyd ar 27  Ebrill 2021]

Prifysgol Caerdydd (2020) Cyflwyniad [ar-lein] Ar gael yn: Presentation.pdf (caerdydd.ac.uk) [Cyrchwyd ar 28  Ebrill 2021]

Dr Catherine Gliddon a Dr Kirsten Pugh yn cyflwyno yng Nghynhadledd Dysgu ac Addysgu CESI Prifysgol Caerdydd (2019) Ar gael yn: Using the three-minute thesis competition format as an authentic assessment to development science communication in undergraduates – Hyb Dysgu – Prifysgol Caerdydd [Cyrchwyd ar 26 Ebrill 2021]

Dr Neil Harris (2017) Using a viva voce in a taught module. Ar gael yn: Dr Neil Harris ”Using a viva voce in a taught module’- YouTube [Cyrchwyd ar 29 Ebrill 2021]

Dr Paul Brennan yn cyflwyno yng nghynhadledd Dysgu ac Addysgu CESI Prifysgol Caerdydd (2017) Ar gael yn: Inspiring digital creativity through assessment – Hyb Dysgu – Prifysgol Caerdydd [Cyrchwyd ar  29 Ebrill 2021]

Duus, R. (2018) Preparing students for the workplace: why I introduced digital assessments [ar-lein] Ar gael yn: Preparing students for the workplace: why I introduced digital assessments | Teaching & Learning – UCL – Coleg Prifysgol Llundain [Cyrchwyd ar 28  Ebrill 2021]

Joughin, G. (2010) A short guide to oral assessment [ar-lein] Ar gael yn 100317_36668_ShortGuideOralAssess1_WEB.pdf (leedsbeckett.ac.uk) [Cyrchwyd ar 29 Ebrill 2021]

Lynch (2010) a ddyfynnwyd yn Arthur, A. (2012) Providing Authentic Assessments as a means to ensure student success [ar-lein] Ar gael yn: Authentic Assessment – Providing authentic assessment as a means to ensure student success (weebly.com) [Cyrchwyd ar 27 Ebrill 2021]

Gweithdy Portffolio CESI (2021) [ar-lein] Ar gael yn: dolen https://vimeo.com/543067876/1c943a3ad7 [Cyrchwyd ar 30 Ebrill 2021]

Sambell, K. a Brown, S. (2021) The Covid 19 Collection [ar-lein] Ar gael yn: Kay Sambell a Sally Brown: Covid-19 Assessment Collection – Sally Brown Sally Brown (sally-brown.net) [Cyrchwyd ar 6 Mai 2021]

Wiggins, G. (1998 ) Educational assessment: Designing assessments to inform and improve student performance. San Francisco: John Wiley.