Skip to main content

Iechyd meddwl a llesYmchwil

Pam fod angen mwy o ymchwil ar ADHD mewn menywod ifanc

25 Mai 2022

Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yw un o’r cyflyrau niwroddatblygiadol mwyaf cyffredin sy’n effeithio ar bobl ifanc. Mae astudiaethau’n awgrymu bod gan tua 1 ym mhob 20 o bobl ifanc ADHD, ond am bob merch sy’n cael diagnosis, mae rhwng tri a saith bachgen yn derbyn diagnosis o ADHD.

Mae Dr Joanna Martin o Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc wedi rhannu ei harbenigedd ar y cyflwr niwroddatblygiadol a pham fod angen mwy o ymchwil i gefnogi menywod ifanc sy’n cael diagnosis o ADHD.

 

Y bwlch rhwng y rhywiau mewn diagnosis

Mae merched yn llai tebygol o gael diagnosis o ADHD na bechgyn. Mae ymchwil ddiweddar yn awgrymu y gellir esbonio’r bwlch hwn rhwng y rhywiau yn rhannol trwy fethu diagnosis neu gael diagnosis hwyr o ADHD mewn merched. Gallai hyn fod oherwydd nad yw oedolion (rhieni ac athrawon) yn ymwybodol o sut beth yw ADHD mewn merched neu am fod ffactorau ac ymddygiadau eraill gan ferched yn cuddio eu symptomau o ADHD.

Mae angen i ni ddysgu mwy am sut beth yw ADHD mewn merched a sut y gallwn ni ganfod y merched sydd angen help gyda’u ADHD yn gynt, fel bod modd iddyn nhw elwa ar adnoddau a chymorth iechyd ac addysgol.

Mae pobl ifanc sydd ag ADHD yn profi anawsterau gyda phethau fel eistedd yn llonydd, torri ar draws pobl eraill, cadw trefn, a chanolbwyntio ar waith ysgol. Gall rhai symptomau ADHD fod yn fwy amlwg i bobl eraill (er enghraifft ‘byth yn llonydd’) na symptomau eraill (er enghraifft ‘colli sylw’n hawdd’).

Awgrymwyd y gallai fod yn anoddach weithiau sylwi ar symptomau ADHD mewn merched na mewn bechgyn. Os na chaiff ADHD ei ddiagnosio, gall person ifanc brofi anawsterau gyda gwaith ysgol a pherthnasoedd, heb wybod pam a heb dderbyn y cymorth sydd ei angen. Gall hyn arwain at anawsterau iechyd meddwl, fel gorbryder neu iselder. O ganlyniad, mae diagnosis amserol yn bwysig iawn.

 

Beth sy’n achosi ADHD?

Un ffordd i ddeall mwy am sut mae ADHD yn wahanol mewn bechgyn a merched yw drwy edrych ar yr hyn sy’n achosi ADHD.

O astudiaethau ar deuluoedd, gan gynnwys cymharu gefeilliaid unfath a brawdol, fe wyddom fod ADHD i raddau helaeth yn enetig. Canfu astudiaeth ryngwladol fawr yn 2018 rai o’r ffactorau genetig cyntaf sy’n gysylltiedig ag ADHD. Fe wyddom bellach fod ADHD yn gyflwr cymhleth a bod miloedd o wahanol ffactorau risg genetig yn cyfrannu gyda’i gilydd at gynyddu’r siawns o gael ADHD.

Mewn cyfres o astudiaethau a gynhaliwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad â thîm rhyngwladol mawr o arbenigwyr, buom yn ymchwilio i ffactorau genetig mewn bechgyn a merched ag ADHD. Defnyddiom ni set data genetig fwya’r byd o bobl gydag ADHD a heb ADHD (tua 55,000 o bobl) gan edrych ar ffactorau genetig sy’n digwydd yn gyffredin yn y boblogaeth. Ni chanfuwyd tystiolaeth o wahaniaethau, sy’n golygu bod yr un ffactorau genetig yn bwysig ar gyfer ADHD mewn merched a bechgyn.

Mae’n bwysig gwybod hyn, ond nid yw’n esbonio pam fod merched yn llai tebygol o gael diagnosis o ADHD. I archwilio hyn mewn astudiaeth arall, canolbwyntiwyd ar bobl ifanc oedd wedi cael diagnosis o orbryder ac iselder.

Gorbryder ac iselder

Mae astudiaethau blaenorol wedi awgrymu bod ffactorau risg genetig sy’n gysylltiedig ag ADHD hefyd yn chwarae rhan mewn gorbryder ac iselder. Yn yr astudiaeth hon aethom ni ati i gymharu ffactorau risg genetig yn gysylltiedig ag ADHD mewn bechgyn a merched oedd â’r cyflyrau iechyd meddwl hyn. Yn y grŵp o bobl ifanc oedd wedi cael diagnosis gan glinigwr ar ryw adwg o unrhyw orbryder neu iselder, canfuom fod gan ferched faich uwch o’r amrywiadau genetig y gwyddom eu bod yn cynyddu’r risg o ADHD o’u cymharu â bechgyn.

Mae’r canlyniadau hyn yn dangos y gall rhagdueddiad genetig i ADHD arwain at broblemau iechyd meddwl gwahanol mewn bechgyn a merched ac yn benodol, y gall olygu ei bod yn fwy tebygol y cânt eu cydnabod yn glinigol gyda diagnosis o orbryder neu iselder mewn merched nag mewn bechgyn.

Yn fwy diweddar, dilynwyd y gwaith hwn mewn astudiaeth o oedolion. Cefnogaeth wan yn unig a ganfuwyd ar gyfer gwahaniaeth rhwng y rhywiau mewn ffactorau genetig yn gysylltiedig ag ADHD. Yn benodol, canfuwyd bod menywod oedd ag iselder yn fwy tebygol o fod â rhagdueddiad genetig uwch ar gyfer ADHD na dynion dim ond os oeddent wedi datblygu iselder erbyn iddynt fod yn oedolion ifanc (hynny yw erbyn 26 oed) ond nid yn hwyrach na hynny. Ynghyd â’r astudiaeth flaenorol, mae hyn yn awgrymu y gallai ffactorau genetig ADHD fod yn gysylltiedig â gorbryder ac iselder yn ystod bywyd cynnar merched ifanc, ond yn llai felly’n ddiweddarach.

Cefnogi pobl ifanc

Mae angen mwy o ymchwil i ni allu deall yn well y rhesymau dros golli neu oedi diagnosis o ADHD mewn pobl ifanc, ac effaith hynny. Hefyd mae angen i ni wneud yn well i ganfod anawsterau’n gynnar. Mae diagnosis cynnar a chywir o ADHD a phroblemau iechyd meddwl yn angenrheidiol i wneud yn siŵr fod pobl ifanc yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen.

 

Adnoddau

 

Dr Joanna Martin

Joanna Martin – The Conversation