Skip to main content

Iechyd meddwl a llesNewyddion

Cysylltu yn ôl â chi’ch hun wrth deimlo’n unig

9 Mai 2022

Dyma Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd y Meddwl, ac unigrwydd yw’r thema eleni. Mae unigrwydd yn deimlad a ddaw ar bawb weithiau – gall fod yn anodd ei adnabod, ei ddisgrifio a’i gydnabod.

Yn y blog hwn, byddwn ni’n cynnig rhai syniadau i’w hystyried os ydych chi’n teimlo’n unig yr wythnos hon neu ar unrhyw ddiwrnod arall o’r flwyddyn.

Beth yw unigrwydd?

Bydd pawb yn teimlo’n unig o bryd i’w gilydd.

Mae teimladau o unigrwydd yn bersonol ac, felly, bydd pawb yn profi unigrwydd mewn ffordd wahanol.

Disgrifir unigrwydd fel arfer yn deimlad a brofwn ni pan fo angen cyswllt cymdeithasol a pherthnasoedd arnon ni heb ei ddiwallu. Dyw unigrwydd ddim yr un fath â bod ar eich pen eich hun.
Gallech chi ddewis bod ar eich pen eich hun a byw’n fodlon heb weld llawer o bobl, er y gallai hynny achosi unigrwydd i bobl eraill.

Gallech chi deimlo’n unig er gwaethaf cymdeithasu, perthynas a theulu – yn arbennig os ydych chi o’r farn nad yw’r bobl sydd o’ch cwmpas yn eich deall neu’n eich caru.

Weithiau, gallwn ni deimlo’n unig hyd yn oed os ydyn ni yng nghwmni llawer o bobl neu os oes llawer o ffrindiau gyda ni.

Gall pawb deimlo’n unig ar adegau am resymau gwahanol megis newidiadau anodd yn ein hoesau – symud i rywle newydd, diwedd perthynas â chariad neu gyfaill, dechrau yn y brifysgol, newydd swydd neu brofi profedigaeth.

Weithiau, gall cyfryngau cymdeithasol beri inni deimlo na allwn ni fod yn rhan o’r ‘bywydau perffaith’ a welwn ni ar y sgrîn bob dydd. Gall ymddangos bod pawb arall yn cael hwyl gyda llawer o ffrindiau a pherthnasau o’i gwmpas. O ganlyniad, gall ymddangos yn anos pan fyddwn ni’n teimlo’n unig heb wybod pwy y dylen ni droi ato i’n helpu.

Cofiwch mai uchafbwyntiau bywyd rhywun welwch chi ar gyfryngau cymdeithasol. Er y gall llun, pennawd neu fideo gyfleu argraff, nid dyna’r holl hanes bob tro, ac mae’ch teimladau a’ch profiadau chi yn ddilys waeth beth welwch chi gan bobl eraill.

Unigrwydd ac iechyd y meddwl

Er nad yw teimlo’n unig yn ymwneud ag afiechyd y meddwl o reidrwydd, mae cysylltiad cryf rhwng y ddau. Gall fod yn fwy tebygol y byddwch chi’n teimlo’n unig os oes problem ynghylch iechyd eich meddwl. Gall afiechyd y meddwl effeithio’n fawr ar fywyd rhywun ac mae’n debygol y bydd llai o gyswllt cymdeithasol o ganlyniad.

Er enghraifft, efallai na fydd rhai pobl yn deall hanfod amryw broblemau iechyd y meddwl ac, felly, gall fod yn anodd trafod eich problemau gyda nhw.

Ar y llaw arall, gall fod ofn cymdeithasol neu bryder arnoch chi fel y bydd gweithgareddau beunyddiol gyda phobl yn anodd, gan arwain at brinder cyswllt cymdeithasol ystyrlon ac achosi unigrwydd.

Mae pandemig COVID-19 wedi arwain at ragor o unigrwydd ymhlith y boblogaeth, yn enwedig pawb oedd yn byw ar ei ben ei hun yn ystod cyfnod y clo heb allu cwrdd â ffrindiau, perthnasau neu gydweithwyr yn rheolaidd.

Mae 1 o bob 14 o bobl 16 oed neu’n hŷn yn y deyrnas hon yn dweud eu bod yn unig (Swyddfa’r Ystadegau Gwladol)

Cysylltiadau

Mae’n hanfodol dod o hyd i’n cysylltiadau â ni ein hunain, pobl eraill a’r byd o’n cwmpas i ddiogelu iechyd y meddwl a lleddfu teimladau o unigrwydd.

Hanfod unigrwydd yw teimlo nad oes gyda ni’r perthnasoedd ystyrlon a hoffen ni o’n cwmpas.

Mae’n arbennig o bwysig helpu pobl ifanc i wybod pan fyddan nhw’n teimlo’n unig, deall eu meddyliau a’u teimladau a nodi’r cysylltiadau cefnogol sydd ar gael.

Dywedodd 69% o bobl ifanc 13-19 oed eu bod yn teimlo’n unig “yn aml” neu “weithiau” dros y pythefnos diwethaf a dywedodd 59% nad oes neb i droi ato “yn aml” neu “weithiau”. (YouGov)

Mae rhai pethau isod i’ch helpu i gysylltu yn ôl â chi’ch hun ac eraill a theimlo’n llai unig pan fyddwch chi’n teimlo’n isel.

Bod yn garedig i chi’ch hun

Efallai na fydd treulio amser ar eich pen eich hun yn ymddangos yn hwyl, ond byddwch chi’n fwyfwy hyderus o ganlyniad i wneud pethau rydych chi’n eu mwynhau a bod yn garedig i chi’ch hun. Mae’n dda neilltuo amser i fod ar eich pen eich hun ac ymlacio.

Mynegi’ch teimladau

Mae’n bwysig cael cyfleoedd i fynegi’ch teimladau hyd yn oed os nad oes neb i siarad ag e ar hyn o bryd. Trwy gadw dyddiadur, gallwch chi gofnodi’ch hwyliau ac, o ddarllen y darnau eto, gallai fod modd gweld problemau sy’n digwydd yn aml a’u datrys.

Mae rhai pobl yn hoffi mynegi eu teimladau trwy arlunio, paentio, cerddoriaeth, ffasiwn neu chwaraeon. Neu, beth am roi cynnig ar wirfoddoli?

Gall gwirfoddoli fod yn ffordd wych o ddysgu medr newydd, cyfrannu at eich cymuned, teimlo’n dda amdanoch chi’ch hun a chwrdd â phobl sy’n frwd am yr un pethau â chi. Mae cyfleoedd i wirfoddoli yn eich bro ar wefan Vinspired.

Dod o hyd i’r hyn sy’n sbarduno llawenydd ynoch chi

Does dim rhaid ichi fod yn fedrus i roi cynnig ar rywbeth a’i fwynhau. Gallwch chi ymuno â chlwb hobïau, tîm neu gylch lleol i’ch helpu i gwrdd â phobl, hel ffrindiau a chael hwyl.

Gall mynd i rywle newydd wneud ichi deimlo’n nerfus, yn enwedig os yw’r bobl yno yn adnabod ei gilydd yn barod, ond mae’n debygol y byddan nhw’n fodlon eich helpu i gael eich traed tanoch.

Os oes rhywbeth rydych chi’n ei hoffi’n fawr, bydd pobl eraill yn y byd o’r un farn.

Cadw golwg ar iechyd eich meddwl

Os ydych chi yng Nghymru, mae dulliau hunangymorth am ddim trwy Silvercloud. Diben y rhaglenni rhyngweithiol, hawdd eu defnyddio, ar y we yw cryfhau iechyd eich meddwl a’ch llesiant. Mae cymorth ar gyfer gorbryder, iselder, straen, anawsterau cysgu, problemau ariannol ac ati.

Peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun.

Cofiwch ofyn am gymorth os ydych chi’n teimlo’n unig. Mae pobl yno i’ch helpu chi a gwrando pan fyddwch chi’n barod. Mae rhestr o fudiadau cymorth isod y gallwch chi gysylltu â nhw trwy ffôn neu neges destun.

Cymorth