Skip to main content

Ymchwil

Ymchwilwyr yn adolygu technolegau digidol i gefnogi pobl ifanc ag iselder a phryder

13 Mehefin 2022

Cynhaliwyd adolygiad o dechnolegau iechyd meddwl digidol gan dîm cydweithredol sy’n cynnwys cydweithwyr o Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.

Mae ymchwilwyr o bob rhan o’r Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi adolygiad clinigol o’r technolegau sydd ar gael ar hyn o bryd i gefnogi pobl ifanc ag iselder a phryder.

Archwiliodd y gwaith, dan arweiniad Dr Rhys Bevan-Jones, dechnolegau iechyd meddwl digidol ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys amrywiaeth o raglenni ac apiau ar y wefan. Roedd y rhain yn defnyddio ystod o fformatau, megis gweithgareddau rhyngweithiol, gemau, negeseuon a chatbots.

Cefnogir rhai o’r technolegau a adolygwyd gan y tîm gan gyswllt â darparwr gofal iechyd neu weithiwr proffesiynol arall. Roedd hyn yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir gan ymarferydd yn ddigidol mewn ‘amser real’ (e.e. therapi a ddarperir drwy fideogynadledda) tra bod adnoddau ac ymyriadau eraill yn ‘hunangymorth pur’ ac felly’n cynnwys dim cymorth dynol i ddefnyddiwr unigol.

Dywedodd Dr Bevan-Jones: “Mae iselder a phryder yn gyffredin ymhlith pobl ifanc ond yn aml ni fydd y rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf yn cael unrhyw gymorth ffurfiol. Mae adnoddau digidol yn ffordd bosibl o ymestyn cyrhaeddiad a chynyddu mynediad pobl ifanc at therapïau, am gost gymharol isel. Mae’r adolygiad clinigol hwn yn rhoi trosolwg o dechnolegau digidol i gefnogi’r gwaith o atal a rheoli iselder a phryder yn y glasoed.

“Gweithiais ochr yn ochr â chydweithwyr o’r GIG, Canolfan Wolfson, MRC Caerdydd, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, Prifysgolion Auckland, Glasgow a Chaerfaddon, a’r Brifysgol Agored.

“Nodwyd 33 o wahanol dechnolegau digidol, y rhan fwyaf yn targedu symptomau iselder yn unig neu ynghyd â symptomau gorbryder. Cynlluniwyd llawer ohonynt i’w defnyddio mewn gwahanol gyd-destunau, gan gynnwys lleoliadau clinigol a chymunedol, tra bod eraill wedi’u cynllunio i gael eu hintegreiddio i leoliadau penodol, megis ysgolion.

“Roedd y rhestr yn cynnwys MoodHwb, rhaglen i gefnogi pobl ifanc gyda’u hwyliau a’u lles. Cyd-ddatblygais hyn gyda phobl ifanc, eu rhieni/gofalwyr ac ymarferwyr, yma yng Nghymru. Fe’i cyflwynir yn Gymraeg a Saesneg ac mae ganddi ddarluniau, animeiddiadau a chydrannau rhyngweithiol a phersonol. Mae’n seiliedig ar seicoaddysg, CBT, seicoleg gadarnhaol a theori rhyngbersonol. Ei nod yw hyrwyddo hunangymorth, ceisio cymorth lle bo hynny’n briodol a chymorth cymdeithasol.”

Gall technolegau digidol hefyd helpu gyda chanlyniadau eraill sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl, gan gynnwys gwybodaeth, stigma ac ymddygiad sy’n ceisio cymorth. Mae manteision posibl eraill technolegau digidol yn cynnwys hyblygrwydd defnydd a mwy o ddewis personol.

Daeth Dr Bevan-Jones i’r casgliad: “Mae gan dechnolegau digidol botensial mawr i wella iechyd meddwl pobl ifanc mewn ffordd hygyrch i bobl ifanc, gan eistedd ochr yn ochr â gwasanaethau iechyd meddwl mwy traddodiadol. Fodd bynnag, mae angen ymchwil a chanllawiau pellach yn y maes hwn o ran pob cam o’r cylch ymchwil.”

 

“Mae’n bwysig bod technolegau’n cael eu gwneud ar y cyd â darpar ddefnyddwyr a’u gwerthuso gan ddefnyddio dulliau priodol a newydd o bosibl. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn hygyrch, yn dderbyniol, yn ymarferol ac yn effeithiol o ran cefnogi pobl ifanc a’u teuluoedd, gofalwyr, ffrindiau ac ymarferwyr.”

Dr Rhys Bevan-JonesUwch Gymrawd Ymchwil Clinigol, Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol

 

Mae ‘Technolegau digidol i gefnogi pobl ifanc ag iselder a phryder: adolygu‘, ar gael i’w gweld ar-lein yn BJPsych Advances. Mae hyn yn dilyn adolygiad ar gyd-ddylunio technolegau iechyd meddwl digidol gyda phlant a phobl ifanc, a arweiniwyd hefyd gan Dr Bevan-Jones, ac sydd wedi cael ei gydnabod fel ‘prif erthygl a nodwyd’ yn y Cyfnodolyn Seicoleg Plant a Seiciatreg.