Skip to main content

DigwyddiadauNewyddion

Tymor cyntaf llwyddiannus ar gyfer cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus newydd

11 Gorffennaf 2022

Mae cyfres ddarlithoedd cyhoeddus newydd Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc wedi cael derbyniad da yn ei thymor cyntaf.

Mae’r ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol, sy’n canolbwyntio ar ddeall a gwella iechyd meddwl pobl ifanc, wedi cynnal y pedair darlith rithwir gyntaf yn y gyfres fisol, sy’n cynnwys amrywiaeth o arbenigwyr sy’n gweithio yn y DU a ledled y byd.

Mae’r pynciau a drafodwyd hyd yn hyn yn y gyfres wedi cynnwys adnoddau cymorth i rieni a theuluoedd mewn argyfyngau, effaith straen, dysgu atgyfnerthu ac iselder, gweithredu ymyriadau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc mewn cyd-destunau adnoddau isel ac iechyd meddwl plant a fabwysiadwyd o ofal.

Trefnir y gyfres gan Dr Lucy Riglin a Dr Yulia Shenderovich, sy’n cyd-arwain ffrydiau ymchwil ac arferion gwyddoniaeth agored Canolfan Wolfson.

Dywedodd Dr Lucy Riglin: “Rydym wedi bod yn falch iawn o’r ymateb cychwynnol i Ddarlithoedd Canolfan Wolfson. Dros y pedwar mis diwethaf, mae amrywiaeth wych o siaradwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau wedi ymuno â ni ar-lein, gan gynnwys arbenigwyr o Brifysgolion Rhydychen a Sussex, Coleg Prifysgol Llundain ac yma ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Diolch yn arbennig i’r Athro Lucie Cluver, yr Athro Glyn Lewis, Dr Daniel Michelson a’r Athro Katherine Shelton am eu sgyrsiau a dechrau’r gyfres mor dda.”

Ychwanegodd Dr Yulia Shenderovich: “Mae cynnal y darlithoedd ar-lein wedi galluogi’r gyfres i gyrraedd cynulleidfa ryngwladol yn barod gyda dros 400 o bobl yn cofrestru ar gyfer y gyfres hyd yn hyn. Dilynwyd pob sgwrs gan sesiwn holi ac ateb ddiddorol ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi mynychu i gefnogi’r gyfres hyd yn hyn.

“Mae’r holl sgyrsiau wedi’u recordio hefyd felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ddal i fyny ar sianel YouTube Canolfan Wolfson nawr.”

Daeth Dr Riglin i’r casgliad: “Mae wedi bod yn dymor cyntaf gwych i Ddarlithoedd Canolfan Wolfson ac rydym yn edrych ymlaen at weld y gyfres yn datblygu dros y flwyddyn i ddod.

“Cynhelir y sgwrs nesaf ddydd Mercher 12 Hydref am 14.00 (GMT) a byddwn yn rhannu’r manylion yn fuan.”

Mae pedair Darlith gyntaf Canolfan Wolfson ar gael i’w gweld ar-lein: