Skip to main content

PoblSefydliadau Arloesedd ac Ymchwil y Brifysgol

Bywyd gyda chyflwr prin – pam mae meithrin cymuned mor bwysig.

23 Mehefin 2023
Composite of photos of Calvin Muir from early infancy to early teens. Calvin has fair skin, red wavy hair, and glasses.

 

Fy enw i yw Sophie. Mae fy mab, Calvin, yn 15 oed. Fel llawer o bobl ifanc ei oedran mae’n mwynhau cardiau Pokémon a pizza pepperoni. Ei hoff bwnc yn yr ysgol yw celf. Mae wrth ei fodd yn cael cwtch gydag ein dau gi, Toast a Bean.

Ond, yn wahanol i’r rhan fwyaf o’i gyfoedion, mae Calvin yn byw gyda chyflwr genetig – amrywiolyn CACNA1C prin. A finnau’n fam iddo, mae’n hynod bwysig i mi ddeall sut mae’r genyn hwn yn effeithio ar fy mab. Mae angen i mi wybod sut y gallaf ei gefnogi orau, yn enwedig o ran ei ofal iechyd a’i addysg, a pharatoi ar gyfer y dyfodol fel ei fod mor hapus ac iach ag y gall fod. Rwy’n gwybod nad fi yw’r unig un yn ein cymuned CACNA1C sy’n chwilio am atebion. Rydym i gyd yn chwilio.

 Beth yw CACNA1C?

Mae CACNA1C yn genyn sy’n darparu’r cod ar gyfer protein a geir mewn celloedd ledled y corff. Mae’r protein hwn yn rheoli symudiad calsiwm i mewn ac allan o’r gell, sy’n hanfodol ar gyfer swyddogaethau llawer o gelloedd. Gall newidiadau i’r genyn achosi newidiadau i’r protein a’i allu i reoli symudiad calsiwm, gan wneud iddo weithio mwy, llai, neu ddim o gwbl.

Os ydych chi erioed wedi dod ar draws CACNA1C, yna mae’n fwyaf tebygol oherwydd Syndrom Timothy (TS). Dyma anhwylder aml-system a achosir gan amrywiolyn penodol yn y genyn CACNA1C sy’n nodweddiadol am ymddangos gydag egwyl QT hir. Mae hyn yn golygu bod y galon yn cymryd mwy o amser i ‘ailwefru’ rhwng curiadau. Gall hyn arwain at gyfradd curiad neu rythm calon afreolaidd. Mae’n hynod brin, gyda llai na 100 o unigolion rydym yn gwybod amdanyn nhw’n fyd-eang yn byw gyda’r cyflwr. Mae’n hawdd iawn ei golli, oni bai bod gwehyddu bysedd a bysedd traed (dangosydd cyffredinrwydd uchel o TS Math 1), dysplasia’r cluniau (cyffredin yn TS Math 2), neu rythm calon anarferol yn cael eu nodi gan weithiwr proffesiynol gofal iechyd gwybodus neu chwilfrydig, gyda hyn yn arwain at brofion genetig. Yn anffodus, oherwydd prinder yr achosion o TS, dim ond o ganlyniad i ddigwyddiad yn ymwneud â’r galon y caiff profion genetig eu cynnal fel arfer, yn hytrach na chyn y digwyddiad.

Mae dangosyddion symptomau eraill, gan gynnwys epilepsi neu atafaeliadau, hypoglycaemia, symptomau niwroddatblygiadol, pryderon gastroberfeddol, a llai o ffyrfder yn y cyhyrau, i enwi dim ond ychydig. Yn anffodus, ar eu pennau eu hunain, nid yw’n amlwg mai CACNA1C y gallai’r symptomau hyn fod, gan eu bod yn arwydd o gynifer o glefydau ac anhwylderau eraill. Ac yna ceir yr amrywolion CACNA1C nad ydynt mor adnabyddus. Dyma’r rhai heblaw’r un rydym yn gwybod sy’n achosi TS. Yr enw ar y clefydau prin hyn sydd newydd eu nodweddu yw anhwylderau sy’n gysylltiedig â CACNA1C. Gallant hefyd ymddangos trwy symptomau aml-system. Mae rhai yn ymddangos dim ond gyda QT hir o’r enw LongQT8. Ceir eraill heb unrhyw symptomau o gwbl yn ymwneud â’r galon, ond gyda myrdd o symptomau niwroseiciatrig megis anhwylder sbectrwm awtistiaeth, trawiadau, ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD). Mae rhagor o wybodaeth yma.

 Stori Calvin

Mae gan Calvin un o’r amrywolion CACNA1C adnabyddus hyn. Cymrodd bron i ddegawd i ni gael y diagnosis. Calvin yw fy ail fab, ac o oedran ifanc roeddwn i’n gallu gweld ei fod yn datblygu’n wahanol i’w frawd hŷn. Doedd e ddim yn cyrraedd y cerrig milltir y byddech chi’n eu disgwyl ac roedd e’n hwyr yn eistedd, yn gwenu ac yn clebran. Yn 6 oed, cafodd ei gofrestru ar astudiaeth yn y DU o’r enw Deciphering Developmental Disorders yn y gobaith y gallai ddarparu ateb i’r heriau yr oedd ef, a ninnau’n deulu, yn eu hwynebu. Roedd profion genetig penodol ar gyfer clefydau fel Syndrom Angelman a Fragile-X eisoes wedi dod yn ôl yn negyddol. Roedd oedi difrifol o ran ei leferydd ac iaith, ac roeddem yn defnyddio Makaton. Dyma raglen iaith unigryw sy’n defnyddio symbolau, arwyddion a lleferydd i gyfathrebu a deall yr anghenion mwyaf sylfaenol fel ‘llwglyd’, ‘sychedig’ a ‘mwy’. Roedd y Therapydd Iaith a Lleferydd wedi cadarnhau bod ganddo gyflwr lleferydd prin o’r enw Dyspracsia Llafar Datblygiadol (anhawster i wneud yr union symudiadau sydd eu hangen i gynhyrchu lleferydd clir gyda’r geg, a’u cydlynu) ac roedd hyn hefyd yn fwyaf tebygol o fod yn gyfrifol am ei lafoeri gormodol. Roedd ganddo hefyd hypotonia a symudiadau anwirfoddol annormal (tics and stereotypies).

Cael atebion

Cymerodd hyd nes bod Calvin yn 4 i gael unrhyw ganlyniadau, ac erbyn hynny roedd hefyd yn dioddef o anabledd deallusol, anghydsymudiad, ADHD, gorbryder, symptomau awtistig, anhwylder herio gwrthryfelgar, cwsg gwael, anwadaliadau tymheredd rhyfedd, ac roedd e dal heb ei hyfforddi i fynd i’r toiled. Roedden ni newydd orffen ein brwydr gyda’n hawdurdod lleol i’w gael i mewn i ysgol arbennig pan gawson ni wybod trwy lythyr am y newid i’r genynnau a bod angen i bob un o’m tri phlentyn gael prawf electrocardiogram (ECG) i wirio rhythm eu calonnau a’u gweithgarwch trydanol. Canfuwyd bod gan Calvin egwyl QT hir ffiniol. Bryd hynny cafodd ei amrywiolyn ei ddosbarthu yn Amrywiolyn o Arwyddocâd Ansicr (VUS). Mae cyn lleied wedi’i gyhoeddi ar anhwylderau sy’n gysylltiedig â CACNA1C fel bod unigolion yn aml yn cael eu dosbarthu yn rhai â VUS, sydd yn y bôn yn golygu nad yw’r labordai profi genetig sy’n penderfynu a yw’r genyn yn achosi afiechyd ai peidio yn gwybod a yw’n gwneud hynny ai peidio. O ganlyniad i hyn, efallai na fydd teuluoedd ac unigolion hyd yn oed yn cael gwybod am y canfyddiadau, gan eu gadael i barhau i ddadansoddi’r cyflwr gyda symptomau, ond heb gefnogaeth broffesiynol na chymuned i ddibynnu arnyn nhw.

Roeddem mewn sefyllfa dda o wybod am y genyn oherwydd ein bod wedi bod yn rhan o’r astudiaeth hon, a chadarnhaodd y 100,000 Genomes Projecty canfyddiadau. Roedd y diffyg gwybodaeth ar y rhyngrwyd yn rhwystredig, felly teithiodd Calvin a minnau ddwywaith i’r UDA i gwrdd â rhai o deuluoedd TS. Roedd 43 o unigolion hysbys yn byw gyda’r newid hwn i’r genynnau ar yr adeg hon. Hefyd, cwrddon ni â Katherine Timothy. Ar ei hôl hi yr enwyd y syndrom. Roeddwn wedi ei chanfod o ganlyniad i’m hymchwil. Bryd hynny gan fod cyn lleied ohonom gyda’r amrywiadau anadnabyddus hyn, roedd wedi’i enwi’n ‘Atypical Timothy Syndrom’. Bellach, caiff ei gydnabod yn anhwylder sy’n gysylltiedig â CACNA1C. Roedd gen i fwy o gwestiynau nag atebion o hyd, yn enwedig o ran materion niwrolegol Calvin ac roedd yn dod yn amlwg i mi, pe na bai ymwybyddiaeth o’r genyn hynod brin hwn yn cynyddu, roeddem yn annhebygol o fod yn destun unrhyw ymchwil a fyddai’n rhoi’r atebion i ni.

 Meithrin cymuned yn y DU

Cofrestrais Timothy Syndrome Alliance (TSA) yn elusen ym mis Medi 2019 i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r cyflwr ac adeiladu ein rhwydwaith CACNA1C. Rydym bellach yn gymuned o dros 120 o unigolion y mae’n hysbys bod ganddyn nhw’r newid hwn i’r genynnau, ac mae’r gymuned yn tyfu. Mae gennym Fwrdd Cynghori Gwyddonol a Chofrestrfa Gymunedol CACNA1C. O ganlyniad i astudiaethau diweddar gyda’n cymuned CACNA1C, rydym yn gwybod y dylid sgrinio a monitro unigolion a nodwyd ag anhwylderau sy’n gysylltiedig â CACNA1C ar gyfer sbectrwm eang o symptomau niwroseiciatrig trwy gydol eu hoes er mwyn gwneud diagnosis cywir, trin yr anhwylderau a chefnogi’r datblygiad mwyaf posibl (Levy et al.). Chwe blynedd ar ôl cael yr adroddiad genetig ar gyfer fy mab Calvin, mae ei amrywiolyn anadnabyddus hefyd wedi cael ei ailddosbarthu yn ‘Bathogenig Tebygol’, sy’n golygu bod dros 90% o sicrwydd mai’r genyn hwn sydd wedi achosi’i heriau. O ganlyniad i’n gwaith anhygoel ar y cyd ag ymchwilwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio ar CACNA1C, gallwn hefyd rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am CACNA1C.

 Cydweithio gydag arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd

Cwrddais i â thîm y Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl a leolir ym Mhrifysgol Caerdydd drwy astudiaeth yr oeddwn i wedi cofrestru arni o’r enw Imagine ID. Roeddwn i’n gwybod bod ganddyn nhw ddiddordeb mewn CACNA1C, gan fod labordy’r Athro Jeremy Hall wedi bod yn astudio’r genyn am bron i 10 mlynedd. Cyn bo hir, roedd cydweithredu ar y gweill, ac erbyn Rhagfyr 2019 cawsom ein diwrnod TS cyntaf i deuluoedd, gan ddod ag 8 teulu at ei gilydd am y tro cyntaf. Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Sefydliad byth ers hynny, ac yn ddiweddar cyhoeddon ni ein papur cyntaf, sy’n ganlyniad cydweithio rhyngwladol rhwng tîm Prifysgol Caerdydd (Dr Jack Underwood a’r Athro Jeremy Hall) a Phrifysgol Stanford (Dr Rebecca Levy a’r Athro Sergiu Pașca).  Roeddwn yn falch iawn o gael fy ngwahodd i siarad yn nigwyddiad lansio’r Sefydliad ym mis Mai, a chefais gyfle i greu cysylltiadau ymchwil newydd a chodi ymwybyddiaeth o’r gwaith y mae TSA yn ei wneud.

Diwrnod Teulu Syndrom Timothy – Rhagfyr 2019

Ynglŷn â’n Cynhadledd – ‘Connect CACNA1C Global Network’

Mae ein cynhadledd rithiol, sy’n hygyrch i bawb o ran ei hiaith, ‘Connect CACNA1C Global Network’, a gynhelir gan y Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl, yn gyfle i unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, ymchwilwyr, gwyddonwyr, gweithwyr gofal proffesiynol, eiriolwyr a chefnogwyr ddod at ei gilydd. Wrth rannu gwybodaeth gyfredol ar y cyd, astudiaethau sy’n mynd rhagddynt, cyfnewid syniadau, a meithrin gwaith ar y cyd, gallwn helpu i lunio dyfodol ymchwil CACNA1C, gwell diagnosis a gofal.

Mae ein cymuned yn fyd-eang, felly trwy fanteisio ar y platfform digidol hwn a defnyddio gwasanaeth cyfieithu iaith deallusrwydd artiffisial (Wordly), rydym yn sicrhau bod pawb, waeth ble maen nhw yn y byd, yn cael cyfle i ymuno. Rydym yn ddiolchgar i Sefydliad Stanley Grundyam ddarparu’r cyllid i ni gynnal y gynhadledd yn y ffordd hygyrch hon i’n cynulleidfa ryngwladol.

Gyda’n gilydd rydym yn codi proffil CACNA1C ac yn llywio eiriolaeth ac ymchwil yn y cyfeiriad cywir.  Rydym yn rhoi’r grym yn nwylo CACNA1C trwy weithio ar y cyd.

 

Am yr awdur: Sophie Muir yw Cadeirydd y Timothy Syndrome Alliance (TSA)