Skip to main content

PartneriaethauPoblSefydliadau Arloesedd ac Ymchwil y Brifysgol

‘Ychydig o amser ar ôl’ i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd

6 Gorffennaf 2023

 

Yn ddiweddar, agorodd cyn-wyddonydd hinsawdd y Tŷ Gwyn, yr Athro Donald J. Wuebbles, cyd-enillydd Gwobr Heddwch Nobel 2007, y Ganolfan Ymchwil Drosi ym Mhrifysgol Caerdydd. Wrth fynd i’r afael ag ymroddiad yr adeilad i geisio creu sefyllfa sero net, dywedodd cyn gynghorydd yr Arlywydd Obama wrth y gynulleidfa nad oes gennyn ni lawer o amser ar ôl i addasu a lliniaru i achub y byd rhag carbon a nwyon tŷ gwydr. Dyma ddyfyniad o’i araith…   

“Rwy’n falch iawn o fod yma yn agoriad y ganolfan wych hon. Rwy’n hoff iawn o’r ffaith bod y Ganolfan yn canolbwyntio ar sero net. Daeth y term oddi wrth ffrind i mi ym Mhrifysgol Rhydychen, Miles Allen, a oedd yn datblygu asesiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC).

Professor Wuebbles yn dadorchuddio plac TRH

Rwyf wir eisiau eich llongyfarch ar greu’r Ganolfan hon. Mae’r Discovery Partners Institute, ym Mhrifysgol Illinois Urbana-Champagne, yn yr un modd yn adeiladu lle newydd, tebyg yn Chicago mewn perthynas â gwytnwch yr hinsawdd.

Yn ôl adroddiad diwethaf yr IPCC mae newid hinsawdd eisoes yn effeithio ar bob rhanbarth ar y ddaear mewn sawl ffordd. Mae’r newidiadau rydyn ni’n eu profi yn cynyddu gyda chynhesu pellach oherwydd faint o garbon a nwyon tŷ gwydr rydyn ni’n eu rhoi yn yr atmosffer.

Mae ein hinsawdd yn newid tua deg gwaith yn gyflymach nag y mae’r hinsawdd yn dueddol o newid yn naturiol, o leiaf ers diwedd yr Oes Iâ ddiwethaf, a dyna pam mae rydyn ni a natur yn ei chael hi mor anodd yn ceisio ymdopi ag ef. Dydyn ni ddim wedi arfer â newid mor gyflym.

Nid yn unig am newid yn y tymheredd y mae hyn. Yr hyn sy’n digwydd yw bod tywydd eithafol yn dod yn fwy dwys ac yn fwy eithafol: tywydd poeth, llifogydd mwy, sychder mwy, stormydd mwy difrifol. A’r effaith fawr arall yw cynnydd yn lefel y môr. Pam mae hyn yn digwydd i raddau helaeth? Mae’n digwydd oherwydd yr hyn rydyn ni’n ei wneud, yn enwedig llosgi tanwyddau ffosil a newid defnydd tir. Mae’r wyddoniaeth yn gwbl amlwg: fyddai’r byd natur ddim wedi egluro’r newidiadau hyn ar ei ben ei hun.

Bydd yr hinsawdd yn parhau i newid dros y degawdau nesaf. Mae faint o effaith y mae’n ei chael yn dibynnu arnon ni, a’r dewisiadau a wnawn, dros yr ychydig flynyddoedd nesaf – mae angen i ni wneud newidiadau cyflym.

Wrth ymdrin â’r broblem hon, mae gennyn ni dri phrif opsiwn: lliniaru, neu gymryd camau i leihau allyriadau, ysgogi newidiadau i gyrraedd sefyllfa sero net, addasu a dod yn fwy gwydn; neu gallwn ddioddef. Ar hyn o bryd, rydyn ni wedi bod yn gwneud y tri. Yn y dyfodol, er mwyn lleihau dioddefaint, bydd yn rhaid i ni wneud y mwyaf o’r hyn rydyn ni’n ei wneud o ran addasu a lliniaru.

Mae pedwerydd opsiwn, a elwir yn geo-beirianneg. Mae dwy ffurf: un yw tynnu carbon o’r atmosffer – mae yna dechnegau amrywiol, ond mae’n economaidd anymarferol; y ffordd arall yw adlewyrchu golau’r haul, neu newid albedo system y ddaear. Mae hynny’n rhywbeth y mae’n werth ymchwilio iddo, ond sydd hefyd yn beryglus iawn oherwydd yr effeithiau posibl ar ein planed gan nad ydyn ni’n deall yn iawn beth fyddai’n digwydd pe baen ni’n rhoi cynnig ar y llwybr hwnnw.

Pan oeddwn yn y Tŷ Gwyn yn arbenigwr yr Arlywydd Obama ar wyddoniaeth yr hinsawdd, aethon ni i COP21 [Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, Paris, Rhagfyr 2015], ac arweiniodd ein cysyniadau at Gytundeb Paris – yr ymgais fawr gyntaf i ddechrau ymdrin â newid yn yr hinsawdd mewn gwirionedd. Cynigiodd yr holl wledydd eu syniadau neu eu Cyfraniadau wedi’u Cadarnhau’n Genedlaethol (NDC), sef cyfraniadau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Gwnaeth y rhan fwyaf o wledydd hyn, ond nid oedd y syniadau’n ddigonol i fynd â ni i’r man lle mae angen i ni fod.

Sefydlwyd y nod hirdymor, yn seiliedig ar gyfarfodydd blaenorol y Cenhedloedd Unedig, sef y bydden ni’n ceisio cadw’r newid tymheredd o dan 2 radd, ond aeth Cytundeb Paris gam ymhellach, gan gydnabod bod 2 radd yn dal yn beryglus – a fyddai modd i ni ei gadw ar 1.5 gradd? Trodd hynny’n nod sero net i lawer o bobl. Dyma obeithio y gallwn ni aros ar 2 radd os gallwn ni gyrraedd sero net erbyn 2060.

Pe baen ni’n edrych ar ein sefyllfa cyn Paris, roedden ni’n sôn am gynnydd o 4 neu 5 gradd celsius erbyn diwedd y ganrif hon, a hynny drwy waith modelu’r IPCC. Rydyn ni ar 1.1 gradd ar hyn o bryd, ac efallai y byddwch yn gofyn pam fod hynny’n bwysig? Wel, pe baech chi’n edrych ar yr Oes Iâ ddiwethaf, a lle rydw i’n byw yn Illinois, roedd gennyn ni filoedd o droedfeddi o iâ drosom ni adeg hynny, ac roedd hi tua 5 gradd yn oerach nag y mae heddiw. Felly, rydyn ni’n sôn am newid sylweddol iawn yn hinsawdd y Ddaear, gyda hyd yn oed 1.1 gradd, heb sôn am 5 gradd.

Ar hyn o bryd rydyn ni’n dilyn y llwybr uchel hwn. Mae angen i ni gymryd camau cyflym iawn yn y degawd neu ddau nesaf i gyrraedd ein targed. Dyma obeithio bod trawsnewidiad mawr ar waith o ran ynni a thrafnidiaeth o amgylch y byd a fydd yn dod â ni yn nes at hynny.  Ond mae’n mynd i gymryd camau mawr i’w gyflawni.

Felly, rwyf bob amser wedi edrych ar Gytundeb Paris yn un sy’n pontio polisïau heddiw, hinsawdd y Ddaear a sero net tuag at ddiwedd y ganrif – i’r lle rydyn ni eisiau bod, ond bydd rhaid i ni gryfhau’r Cytundeb i wneud hynny.

Os edrychwn ni ar faint o ynni sydd ei angen ar y byd, ac i le mae angen iddo drosglwyddo, mae symud i ffwrdd o danwydd ffosil yn golygu bod angen 20 terrawat ychwanegol o ynni arnon ni, sy’n anodd ei gyflawni ar hyn o bryd. Felly, hyd yn oed os edrychwn ni ar ragamcanion arferol o’r hyn y byddai modd ei gyflawni’n safonol heb ystyried pŵer solar, mae’n mynd i fod yn anodd.

Mae yna nifer o wahanol wirioneddau o ran lliniaru mae’n rhaid i ni eu hwynebu. Un yw mai allyriadau carbon deuocsid yw rhan bwysicaf y mater. Yn draddodiadol, mae ynni’n trawsnewid yn araf iawn, ac felly mae’n cymryd amser hir i drosglwyddo ynni a thrafnidiaeth. Rydyn ni’n gofyn i’r byd symud yn llawer cyflymach, a dyna lle mae technoleg ac arloesi yn dod yn bwysig iawn. Ar ben hynny, rhaid i ni ddelio â materion megis datgoedwigo, sy’n golygu na fydd y targed 1.5 gradd yn gyraeddadwy.

Mae newid yn yr hinsawdd a chyfalaf naturiol yn gweithio gyda’i gilydd: cyfalaf natur yw bioamrywiaeth, newid defnydd tir, adnoddau dŵr, llygredd ac aer, ac maen nhw’n sbarduno ei gilydd. Mae adroddiad diweddar Fforwm Economaidd y Byd yn dangos y bydd newid yn yr hinsawdd a chyfalaf naturiol, wrth i ni edrych ymlaen ddeng mlynedd, yn dominyddu ein pryderon yn y tymor hirach.

Mae angen i ni ddod â’r rhain i flaen y gad. Mae gan gorfforaethau ofynion newydd: datblygwyd dau dasglu rhyngwladol gan y gymuned ryngwladol. Mae’r cyntaf yn trafod datgeliadau ariannol sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd ac mae’r ail yn trafod datgeliadau ariannol sy’n ymwneud â natur. Mae’n bwysig i gwmnïau allu asesu’r ffactorau risg a’r pwysau sy’n ysgogi newid o fewn eu cwmni eu hunain.

Ffordd arall o edrych ar hyn, drwy fy addasiad o ddadansoddiad y Cenhedloedd Unedig ar newid yn yr hinsawdd, yw gwneud asesiadau o effeithiau posibl ar raddfa lawer mwy lleol ac yna edrych ar arloesi a thechnoleg i liniaru’r broblem. Mae meddwl am addasu ym mhob rhan o’n cymdeithas yn hynod o bwysig – mae sectorau eraill megis amaethyddiaeth, tir, dŵr ac adnoddau o bwys hefyd.

Yn olaf, rwyf am eich gadael gydag un dyfyniad arall gan yr IPCC: bod yr hinsawdd rydyn ni’n ei phrofi yn y dyfodol yn dibynnu ar ein penderfyniadau nawr. Ychydig o amser sydd gennyn ni ar ôl. Rwyf bob amser yn dadlau bod newid yn yr hinsawdd eisoes yn beryglus, ond mae’n mynd i ddod yn fwy peryglus yn y degawd neu ddau nesaf.

Hoffwn ddangos ffilm i chi cyn i fi orffen. Cafodd ei chynhyrchu ar y cyd â chyfadran Prifysgol Illinois sydd hefyd yn neiniau a theidiau, ac mae ganddi neges gref. Diolch.”

Yr Athro Donald J. Wuebbles, Prifysgol Illinois Urbana-Champaign