Skip to main content

PartneriaethauPoblSefydliad Arloesi Sero NetSefydliad Catalysis CaerdyddSefydliadau Arloesedd ac Ymchwil y BrifysgolY Ganolfan Ymchwil Drosi

Catalysis ar gyfer Sero Net

14 Gorffennaf 2023
Mae Canolfan Ymchwil Drosi (TRH) Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda byd diwydiant i ddatblygu atebion i heriau mawr y gymdeithas. Yn nigwyddiad lansio diweddar y Ganolfan, amlinellodd yr Athro Duncan Wass, Cyfarwyddwr, Sefydliad Catalysis Caerdydd, pam mae gan gatalysis rôl hanfodol i’w chwarae yn nyfodol Sero Net.

“Beth yw catalydd a pham maen nhw mor bwysig? Yn aml, byddwn ni’n defnyddio’r gair catalydd yn drosiad – cyfrwng i greu newid yw catalydd, sef y peth sy’n peri iddo ddigwydd.

Weithiau, mae gwyddonwyr catalydd yn gallu gwylltio ryw fymryn pan fyddwn ni’n eistedd mewn cyfarfodydd gyda llunwyr penderfyniadau sy’n gorddefnyddio’r gair ‘catalydd’ heb wir ddeall bod gan y gair ystyr wyddonol sylfaenol a gwreiddiol.

Sylwedd cemegol yw catalydd sy’n cyflymu adwaith cemegol ond sydd heb gael ei newid ei hun, felly’r cemeg sy’n peri i bethau ddigwydd.

Y rheswm pam mae hynny’n bwysig yw bod catalyddion yn ein galluogi i droi blociau adeiladu cemegol syml yn gynnyrch sy’n fwy defnyddiol ac yn fwy gwerthfawr.

Mewn gwirionedd, bydd y rhan fwyaf o’r cynnyrch a welwn o’n cwmpas, ar ryw adeg yn y broses o’u gweithgynhyrchu, wedi dod i gysylltiad â chatalydd.

Mae llawer o’r cynnyrch y mae catalyddion yn eu gwneud yn gynnyrch na fyddwn ni’n eu gweld nac yn eu caru – pethau megis tanwydd, rhyngolion, petrocemegion ar ffurf nwyddau – nad ydyn ni’n ymwybodol ohonyn nhw ond sy’n hynod bwysig i’r economi.

Yn ystod y 100 mlynedd ddiwethaf, mae hefyd yn wir bod y catalyddion hynny sy’n flociau adeiladu syml wedi bod yn bethau rydyn ni’n eu cloddio o’r ddaear, ac mae’n rhaid i hynny newid, ac mae hynny’n newid: mae catalyddion yn mynd i fod wrth wraidd y newid hwnnw.

Byddwn i’n dadlau mai nawr yw’r amser pwysicaf yn ystod y 100 mlynedd ddiwethaf i wneud ymchwil ar gatalyddion: yn sicr, dyma’r amser pwysicaf i fod yn ymchwilydd ar gatalyddion, gan fod yn rhaid inni addasu catalysis at ddibenion gwahanol a dod o hyd i gatalyddion newydd a fydd yn defnyddio blociau adeiladu cynaliadwy a fydd yn mynd â ni tuag at ddyfodol Sero Net mwy cynaliadwy.

Allwn ni ddim gwneud y newid hwnnw i ddyfodol Sero Net heb weithio gyda’n ffrindiau ym myd diwydiant gan y gall y rhain roi’r prosesau hyn ar waith ar y raddfa sydd ei hangen. Felly, mae’n rhaid inni weithio gyda byd diwydiant.

Y cwestiwn allweddol yw ‘pam mae’n rhaid i fyd diwydiant weithio gyda ni yn Sefydliad Catalysis Caerdydd? Yn y Sefydliad mae tua 20 o academyddion a thua 150 o ymchwilwyr. Rydyn ni wedi cyhoeddi mwy na 600 o bapurau a adolygwyd gan gymheiriaid yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, ac rydyn ni’n anarferol o eang o ran y mathau o gatalysis a wnawn, gan gynnwys meysydd traddodiadol catalysis ond hefyd y meysydd sy’n dechrau dod i’r amlwg megis trydaneiddio.

Bydd y mathau o waith ymchwil rydyn ni’n gweithio arnyn nhw’n ein galluogi i droi carbon deuocsid yn danwydd ac yn gynnyrch defnyddiol; bydd yn caniatáu inni droi gwastraff a biomas yn gynnyrch cynaliadwy.

Mae catalyddion yn dda iawn o ran gwneud moleciwlau defnyddiol: maen nhw hefyd yn dda iawn o ran dinistrio moleciwlau niweidiol ac mae’r ymchwil arall sydd gennym yn ymdrin â’r ffordd y gallwn ni ddefnyddio catalysis i buro dŵr neu i ddiheintio.

Pam dylai byd diwydiant weithio gyda ni? Wel, rydyn ni’n edrych tuag at allan i raddau helaeth iawn yn yr ystyr bod gennym lawer o gydweithredwyr cenedlaethol a rhyngwladol sy’n gweithio ar gynlluniau megis ein Canolfan Max Planck, ond hefyd y cysylltiad arbennig sydd gennym â byd diwydiant, ac mae hynny yn cynnwys popeth, boed yn ysgoloriaethau ymchwil sengl neu bartneriaethau mawr iawn gyda chwmnïau megis Johnson Matthey.

Felly, rydyn ni’n edrych tuag at allan i raddau helaeth iawn ac mae’r partneriaid rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn rhai sefydledig yn bennaf oherwydd bod gennym werthoedd cyffredin: un o’r rhain yw’r diddordeb cyffredin yn hanfodion gwyddoniaeth.

Unwaith, tra’n siarad am y gwahaniaeth rhwng ymchwil bur ac ymchwil gymhwysol, dywedodd enillydd y wobr Nobel, George Porter, mai ymchwil heb ei chymhwyso hyd yn hyn yw ymchwil bur.

Rwy’n meddwl bod hynny’n yn wir iawn o hyd: nid oes llwybr byr i arloesi sy’n osgoi’r wyddoniaeth sylfaenol. Rwy’n meddwl bod yr hyn sydd gennym yn y Ganolfan Ymchwil Drosi, yn yr adeilad newydd hwn, yn rhywbeth a fydd yn caniatáu inni fynd hyd yn oed ymhellach i ddeall yr wyddoniaeth sylfaenol a darganfyddiadau newydd, ac yn gyflymach wrth droi’r darganfyddiadau hynny yn gynnyrch go iawn, gan weithio gyda’n partneriaid ym myd diwydiant a’n partneriaid newydd.

Gan ddefnyddio’r gair yn drosiad felly, rwy’n meddwl mai catalydd yw’r Ganolfan ei hun.

Diolch yn fawr.”

Yr Athro Duncan Wass
cci@caerdydd.ac.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Sefydliad Catalysis Caerdydd, ewch i’n gwefanneu gwyliwch ein ffilm 👇👇👇 .