Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

2021 – Cysylltu, Cydweithio, Creu

20 Rhagfyr 2021

Mynd rhagddo o hyd fu hanes gwaith Prifysgol Caerdydd yn ystod 2021 gan droi ymchwil yn atebion byd go iawn ar gyfer problemau dybryd cymdeithas. Aethon ni ati i greu timau newydd, gorffen adeiladau, taro ar fargeinion ac ennill gwobrau. Yma, edrychwn yn ôl ar y bobl a’r partneriaethau a oedd yn llywio agenda greadigol y Brifysgol.

Ymhen ychydig o wythnosau, bydd y grwpiau gwahanol sy’n rhan o sbarc | spark yn dod i fodolaeth. Bydd tua 500 o ymchwilwyr y  gwyddorau cymdeithasol o ddisgyblaethau gwahanol, staff proffesiynol a chydweithredwyr allanol yn uno o dan do newydd.

Mae’r adeilad, a gafodd ei ddisgrifio gan y Guardian yn  SuperLab y gymdeithas, yn dwyn ynghyd arbenigwyr o ddeuddeg grŵp ymchwil yn y  gwyddorau cymdeithasol ar y cyd â phartneriaid allanol i fynd i’r afael â phroblemau pennaf y gymdeithas, sef newidiadau yn yr hinsawdd, troseddu a diogelwch, iechyd meddwl pobl ifanc, a llawer mwy.

Mae staff academaidd a phroffesiynol wedi ymuno â ni yn rhithwir y mis hwn i glywed am ysbryd sbarc|spark sef cymuned gydweithredol sy’n seiliedig ar weithio ac ymdrechu ar y cyd yn gymdeithasol.

Ym mis Ionawr, byddwn ni’n torri’r rhuban ac yn agor ein drysau, gan greu ffwrnais ar gyfer ystod eang o bartneriaethau a mentrau creadigol ar draws pob sector.

Mae sylfeini cadarn bellach yn eu lle. Mae’r Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr SPARK, a Sally O’Connor, Cyfarwyddwr Gweithrediadau SPARK, wedi bod yn creu Tîm SBARC yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae Kate Lane wedi arwain y rhaglen bontio, gan arwain y  grwpiau tuag at eu cartref newydd, a phenodwyd yr arbenigwr ym maes mentrau myfyrwyr Rhys Pearce-Palmer  i reoli parc Innovations@sbarc|spark Caerdydd, sef ein canolfan newydd ar gyfer busnesau deilliedig a busnesau newydd.

Ym mis Mai, cadarnhaodd RemakerSpace, ein canolfan newydd sy’n canolbwyntio ar  weithgynhyrchu o’r newydd ac ailddefnyddio, y bydd cartref pwrpasol newydd ganddi yn sbarc | spark. Fis yn ddiweddarach, sbarc | spark oedd adeilad cyflog byw cyntaf Cymru. Bu’r Brifysgol yn gweithio gyda Cynnal Cymru – fforwm datblygu cynaliadwy Cymru – i gael achrediad gan y Sefydliad Cyflog Byw.

Cafodd partneriaethau newydd eu creu yn 2021. Prifysgol Caerdydd bellach yw chweched partner SETsquared, deorfa orau’r byd o ran busnesau prifysgol, diolch i waith Dr David Bembo a’i dîm yn y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd.

Daethon ni o hyd i ffrydiau ariannu newydd ar gyfer partneriaethau drwy gydol y flwyddyn. Gellid dadlau mai’r uchafbwynt oedd mis Gorffennaf pan ddyfarnwyd £22m i brosiect media.cymru dan arweiniad Prifysgol Caerdydd drwy gronfa flaenllaw Cryfder mewn Lleoedd Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI), sy’n derbyn arian cyfatebol gan bartneriaid byd diwydiant a phrifysgolion. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Bp a Johnson Matthey eu bod yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Manceinion ar brosiect gwerth £9m i droi CO2, gwastraff a biomas cynaliadwy yn danwydd a chynnyrch glân a chynaliadwy.

Yn ystod y flwyddyn yn y Brifysgol, gwnaethon ni ddal ati i greu syniadau, busnesau deilliedig a busnesau newydd yn y gymdeithas yn 2021.

Ymunodd yr Athro Sam Evans a’i dîm o’r Ysgol Peirianneg ag academyddion ym Mhrifysgol Southampton i greu masg wyneb sy’n ffitio’n berffaith i amddiffyn gweithwyr rheng flaen sy’n gweithio yng nghanol helbul pandemig y coronafeirws. Ym myd busnes, ymunodd busnes genomeg newydd Broken String Biosciences, sy’n gweithio i ddarganfod  meddyginiaethau’r genhedlaeth nesaf, â chwmni Illumina, Inc – y cyflymydd byd-eang. A chyhoeddodd y cwmni systemau uwch-dechnoleg Thales ei fod yn creu partneriaeth gyda Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu atebion seiberddiogelwch yn ‘labordy byw’ y cwmni, ResilientWorks.

Cawson ni ein canmol sawl gwaith hefyd. Bu partneriaeth sy’n gosod plant sy’n aros yr amser hiraf i gael eu mabwysiadu yng Nghymru, Mabwysiadu Gyda’n Gilydd, yn fuddugol yng Ngwobrau blynyddol Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) Innovate UK. Enillodd y myfyriwr meddygol Luthfun Nessa ddwy wobr arloesedd cenedlaethol o fewn dau ddiwrnod i’w gilydd gyda’i huwch-fatres sy’n synhwyro wlserau yn sgîl pwysedd. Ac enillodd prosiect ym maes annog pobl i ymgymryd â gweithgareddau gwyrdd a chymdeithasol wobr Prosiect y Flwyddyn Loteri Genedlaethol Cymru y mis hwn. Mae Anturiaethau Organig Cwm Cynon, menter gymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf, wedi bod yncydweithio â’r Athro Les Baillie i greu llwybr natur arloesol. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cyfeirio pobl at weithgareddau sy’n seiliedig ar natur – megis garddio neu weithgareddau awyr agored – gan arwain at fanteision meddyliol a chorfforol. 

Yn fyr, er ein bod wedi gwneud llawer i gydweithio a chreu, rydyn ni’n gwneud mwy i rannu ein llwyddiant. Ymwelodd 650,000 o bobl â’n  Cartref Arloesedd ar safle LinkedIn drwy gydol y flwyddyn, a darllenodd 12,000 o wylwyr y blog hwn.

Yn 2022, bydd y Brifysgol yn defnyddio’r strategaeth Ymchwil ac Arloesedd ar ei newydd wedd ac yn parhau i gefnogi ein cymuned o ysgolheigion i weithio gyda dychymyg, egni a chreadigrwydd, gan ddatblygu atebion i heriau byd-eang, boed yn COVID-19, iechyd meddwl, troseddu a diogelwch neu newid yn yr hinsawdd.

Yn olaf, peidiwch ag anghofio bod Marchnad Myfyrwyr Cymru yn enghraifft wych arall o gydweithio yng Nghaerdydd, ac mae digon o amser o hyd i brynu rhodd a fydd yn cefnogi myfyriwr graddedig neu fyfyriwr mentrus!

Dymunwn Nadolig amlddisgyblaethol, a Blwyddyn Newydd gydweithredol ichi un ac oll.

Y Tîm Cyfathrebu Arloesedd

homeofinnovation@caerdydd.ac.uk 

Go to this Sway